Mae a.128 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn manylu’r ddyletswydd sydd ar bartneriaid perthnasol’](#tooltip) dan adran 162 y Ddeddf i hysbysu am oedolion a phlant, yn cynnwys plant heb eu geni, y mae ganddynt achos rhesymol i amau eu bod yn wynebu risg o gael eu cam-drin.
Partneriaid perthnasol yw:
a) Y corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod lleol;
b) Unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r awdurdod yn cytuno y byddai’n briodol i gydweithio ag ef dan yr adran hon;
c) Yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaetha dan adrannau 2 a 3 Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 mewn perthynas â Chymru;
d) Unrhyw ddarparwr Gwasanaethau prawf y mae gofyn iddo dan drefniadau dan adran 3(2) Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 i weithredu fel partner perthnasol i’r awdurod;
e) Bwrdd iechyd lleol ar gyfer unrhyw ardal neu ran o ardal sy’n rhan o ardal yr awdurdod
f) Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod;
g) Gweinidogion Cymru i'r graddau eu bod yn cyflawni swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Learning and Skills Act 2000;
h) Y fath berson, neu berson o’r fath ddisgrifiad, fel y manylir gan y rheoliadau.
Mae disgwyl i’r rhai nad yw eu hasiantaethau wedi eu cynnwys fel ‘partneriaid perthnasol’ uchod hefyd gyfeirio unrhyw bryderon diogelu yn yr un modd â’r rhai â dyletswydd benodol i hysbysu. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr a delir a rhai na thelir mewn sefydliadau trydydd sector (mae hyn yn cynnwys: contractwyr annibynnol ac is-gontractwyr, sefydliadau annibynnol a sefydliadau preifat). Dylai gwirfoddolwyr gytuno i gydymffurfio â chod ymarfer gyda’r sefydliad lle maent yn gwirfoddoli.