Mae disgwyl i ymarferwyr hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg wrth yr awdurdod lleol (gwasanaethau cymdeithasol) perthnasol. Yr awdurdod priodol yw’r un lle credir y digwyddodd y pryder diogelu. Gallai hyn olygu hysbysuawdurdod lleol nad yw yn yr un ardal â’r un lle mae’r ymarferydd yn gweithio.
Os yw ymarferydd yn ansicr i ba awdurdod lleol y dylai hysbysu, dylai gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol lleol am gyngor.
Enghraifft: Mae dyn ag anableddau dysgu, sy’n byw yn un rhan o Gymru, ar ei wyliau mewn maes carafanau mewn rhan arall o Gymru. Mae’r dyn yn cael ei gymryd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys leol wedi torri ei fraich y diwrnod hwnnw. Mae’r meddyg yn amau nad damwain fu’r anaf ac yn cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol lleol y maes carafanau. Mae dyletswydd ar y meddyg i hysbysu.
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith 24 awr y dydd i roi gwybod i asiantaethau eraill, ymarferwyr ac aelodau’r cyhoedd i hysbysu pryderon am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Dylid cysylltu â’r tîm dyletswydd brys y tu allan i oriau gwaith arferol os yw’r ymarferydd a’r asiantaeth yn penderfynu bod plentyn neu oedolyn yn gwynebu risg.
Dylai ymarferwyr sy’n gweithio’r tu allan i oriau swyddfa fod yn ymwybodol o’r amgylchiadau lle dylid galw’r heddlu mewn argyfwng diogelu. (Gweler isod am ragor o fanylion).
Os nad yw ymarferydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r tîm dyletswydd brys a’i fod yn credu bod unigolyn mewn perygl uniongyrchol o gael ei gam-drin ac y byddai oedi’n cynyddu’r perygl, dylai gysylltu â’r heddlu.
Enghraifft: mae gweithiwr gofal cartref yn ymweld â defnyddiwr gwasanaeth ag anableddau dysgu a chorfforol fore Sul i’w olchi a’i wisgo. Mae’r unigolyn yn dweud wrth y gweithiwr bod ffrind wedi bod yn aros gydag ef ac yn rhannu ei wely ac yn ‘gwneud iddo wneud pethau’ nad oedd eisiau eu gwneud. Mae’r ‘ffrind’ wedi mynd allan i nôl papur ac mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn dweud nad yw eisiau i’r ffrind aros yno mwyach. Mae dyletswydd ar y gweithiwr i hysbysu.