Mae diogelwch yr oedolyn sy’n wynebu risg yn holl bwysig. Felly:
- dylid penderfynu a oes pryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch oedolyn;
- Os bu anaf difrifol, a bod angen sylw meddygol brys, dylid galw am ambiwlans trwy ffonio 999;
- dylid cymryd camau gweithredu uniongyrchol i ddiogelu’r unigolyn rhag camdriniaeth;
- dylai ymarferwyr gysylltu â’r heddlu gan ddefnyddio 999 os yw mewn perygl uniongyrchol. Dylent wneud hyn heb oedi, er mwyn diogelu’r oedolyn rhan y perygl o niwed uniongyrchol;
- dylid hefyd ystyried diogelwch uniongyrchol defnyddwyr gwasanaeth eraill, plant neu oedolion a allai fod mewn perygl o gamdriniaeth uniongyrchol.
Enghraifft: Mae nyrs ardal y tu allan i gartref oedolyn sy’n glaf. Mae hi’n clywed sŵn sy’n awgrymu bod yr oedolyn yn dioddef ymosodiad gan aelod o’r teulu. Mae hi’n ffonio’r heddlu yn syth.