Mae ymholiadau a126 effeithiol yn dibynnu ar gasglu, rhannu a dadansoddi gwybodaeth am anghenion diogelu, gofal a chymorth yr oedolyn sy’n wynebu risg. Dangosir y wybodaeth y dylid ei chasglu fel rhan o'r ymholiadau yn y Blwch Casglu Gwybodaeth.
CASGLU GWYBODAETH
Meysydd i’w hystyried:
Enw a manylion perthnasol yr unigolyn sy’n destun yr ymholiadau. Y dystiolaeth y seilir yr ‘achos rhesymol i amau’ arni.
Cofnod o unrhyw achosion o gam-drin y mae’r unigolyn wedi’u dioddef, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol:
Effaith y camdriniaeth ar yr oedolyn sy’n wynebu risg.
Materion eraill y dylai’r rhai sy’n cynnal yr ymholiadau eu hystyried er mwyn penderfynu a yw’r anghenion diogelwch, gofal a chymorth yn cael eu hateb.
CASGLU GWYBODAETH
Meysydd i’w hystyried:
CASGLU GWYBODAETH
Meysydd i’w hystyried:
Dylai unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhoi ar gyfer ymholiadau mewn achosion o oedolyn sy’n wynebu risg:
Ystyried natur y cais ac at ba ddiben y caiff y wybodaeth ei defnyddio.
Er enghraifft, gwybodaeth am ymddygiad presennol yr oedolyn sy’n wynebu risg sy’n awgrymu neu’n gwrth-ddweud ei fod yn dioddef o gam-drin neu esgeuluso.
Hynny yw, rhoi gwybodaeth sy’n briodol i’r cais penodol.
Er enghraifft, mae angen i’r gwasanaethau cymdeithasol wybod am unrhyw bryderon blaenorol y gallai asiantaeth fod wedi’u cael ynghylch cam-drin neu esgeuluso’r oedolyn sy’n wynebu risg.
Hynny yw, bod gwybodaeth a ddarperir yn ddigonol i sicrhau bod modd ei deall a dibynnu arni.
Er enghraifft, gwybodaeth benodol am ymddygiad sy’n awgrymu neu’n gwrth-ddweud yr awgrym bod oedolyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, megis dechrau crynu pan ddaw gofalwr penodol i’r ystafell.
Hynny yw, ar sail ffeithiau ac nid rhagdybiaethau.
Er enghraifft, bod yn benodol o ran beth a welwyd, gan bwy, megis gwelwyd ymateb yr oedolyn sy’n wynebu risg pryd bynnag y mae ym mhresenoldeb gofalwr penodol gyda manylion y staff sydd wedi gweld yr ymddygiad. Mae cywirdeb hefyd yn golygu gwahaniaethu rhwng ffaith a barn.
Hynny yw, mae gwybodaeth a rennir wedi’i chyfyngu i’r bobl mae arnynt angen ei gwybod go iawn, a chaiff ei rhannu’n ddiogel.
Er enghraifft, gwirio y caiff unrhyw wybodaeth a roddir ei chadw’n ddiogel.
Hynny yw, mae wedi’i gyfyngu i’r hyn mae ei angen ar gyfer sefyllfa benodol ar adeg benodol.
Er enghraifft, os oes angen y wybodaeth ar frys er mwyn amddiffyn ar unwaith. Mae’n bosibl na fydd hi’n bosibl cael cydsyniad yr oedolyn sy’n wynebu risg cyn rhannu gwybodaeth.
Er enghraifft, bod yn eglur o ran pa wybodaeth sydd wedi’i rhannu, gyda phwy ac at ba ddiben yn unol â gweithdrefnau cofnodi’r asiantaeth.
Gall rhai rheolwyr a staff rheng flaen fod yn or-ofalus wrth rannu gwybodaeth bersonol, yn enwedig os yw hynny’n groes i ddymuniadau’r unigolyn dan sylw. Mae’n bosibl y gallent gamgymryd bod angen tystiolaeth gadarn cyn rhannu gwybodaeth.
Mae amgylchiadau penodol pan all ymarferwyr drechu’r dyletswydd cyfrinachedd at gleifion neu ddefnyddwyr gwasanaeth. Gweler yr amgylchiadau hynny isod:
Mae’n bwysig bod staff yn ystyried y risgiau o beidio â rhannu gwybodaeth ddiogelu wrth wneud penderfyniadau.
Os yw un partner yn amharod i rannu gwybodaeth am bryderon diogelu yn barhaus, yna dylid cyfeirio’r mater at Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (BDORh). Dylai’r BDORh drafod y mater, gan gynnwys y rhesymau a roddodd y sefydliad dros beidio â rhannu’r wybodaeth. Bydd y BDORh yn rhoi cyngor ar pa gamau gweithredu i’w cymryd.
Awgrymiadau Ymarfer: saith rheol euraidd ar gyfer rhannu gwybodaeth