Rhannu Cymraeg English

Ymgysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg a’r teulu

Adref 3 rhan 1

Dylai arferion sy’n canolbwyntio ar y person effeithiol gynnwys gweithio ynghyd gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg a lle bo’n briodol eu gofalwyr / teulu.

Wrth ymgymryd ag ymholiadau a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 dylid ystyried y canlynol:

  • y posibilrwydd nad yw’r oedolyn y tybir ei fod yn wynebu risg yn gwneud penderfyniadau’n rhydd;
  • yr angen i ddefnyddio eiriolwr ;
  • yr angen i wneud ymholiadau’n sensitif heb boeni’r person nac unrhyw un arall (er enghraifft, gofalwyr ac aelodau o’r teulu);
  • a yw’r sawl sy’n cael ei gyhuddo o gam-drin yn rhoi gofal neu gymorth i oedolyn arall sy’n wynebu risg neu i blentyn a allai fod sy’n wynebu risg;
  • galluedd meddyliol yr oedolyn sy’n wynebu risg i wneud penderfyniadau penodol ar adeg benodol.

Awgrymiadau Ymarfer: Hyrwyddo Cyfranogiad Ymhlith Oedolion sy’n Wynebu Risg a Heb Alluedd Meddyliol

Cysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg ar unwaith

Dylid gweld yr oedolyn sy’n wynebu risg ar yr un diwrnod os:

  • adroddir bod y plentyn wedi’i anafu’n gorfforol;
  • yw’r unigolyn wedi datgelu cam-drin rhywiol ac y bydd yn dychwelyd i sefyllfa a allai ei roi mewn perygl;
  • yw’r unigolyn eisoes yn destun cynllun diogelu;
  • yw’r unigolyn yn dioddef o esgeuluso difrifol neu risg iechyd difrifol arall;
  • yw’r unigolyn wedi’i adael ar ei ben ei hun.
Er enghraifft, mae menyw ifanc ag anawsterau corfforol a dysgu ysgafn wedi cychwyn perthynas â rhywun. Mae ei rhieni’n bryderus ynghylch yr anrhegion drud mae’r dyn yn eu rhoi iddi ac maent yn amau ei fod yn cam-fanteisio’n rhywiol arni. Mae’r sawl sy’n cymryd yr hysbysiad yn credu, ar sail yr wybodaeth a roddir, y gallai’r fenyw fod yn oedolyn sy’n wynebu risg. Maent yn gwirio â’r heddlu ac mae cofnodion yr heddlu’n dangos y cafwyd y dyn hwn yn euog o gam-fanteisio’n rhywiol a pharatoi merched ifainc ac mae’r heddlu wedi dod yn gysylltiedig i geisio canfod a fu trosedd ai peidio. Felly mae’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu yn cynnal ymholiadau ac mae’r heddlu a gweithiwr cymdeithasol y fenyw yn ymweld â hi.

Er mwyn osgoi tanseilio unrhyw achos troseddol a all ddilyn, dylai ymarferwyr wneud y canlynol mewn unrhyw gyfarfod ag oedolyn sy’n wynebu risg cyn trafodaeth strategaeth:

  • gwrando ar yr oedolyn sy’n wynebu risg a gofyn cwestiynau penagored;
  • caniatáu i’r oedolyn sy’n wynebu risg ddisgrifio unrhyw ddigwyddiadau sy’n arwyddocaol iddynt;
  • cofnodi’r sgwrs, gan gynnwys yr amser, y lleoliad, pwy arall oedd yn bresennol yn ogystal â’r hyn a ddwedwyd.

Awgrymiadau ymarfer: Cyswllt ag Oedolyn sy’n Wynebu Risg Cyn Ymglymiad yr Heddlu

Os nad yw’r oedolyn sy’n wynebu risg eisiau i unrhyw gamau gweithredu ddigwydd

Mae’n bosibl y gall oedolion ag anghenion gofal a chymorth amddiffyn eu hunain rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu gamfantiesio gan eraill. Er enghraifft, nid yw bregustod, oedran nac anabledd o reidrwydd yn atal unigolyn rhag gallu amddiffyn ei hun ac mae asesiadau galluedd meddyliol bob tro’n dibynnu ar y sefyllfa.

Dylai ymarferwyr geisio parchu dymuniadau personol ac annibyniaeth yr oedolyn ar bob adeg. Dylai ymarferwyr sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o unrhyw risgiau a’r effaith bosibl ar ei ddiogelwch a’i lesiant, a’i annog i ddatblygu strategaethau i ddiogelu ei hun. Fodd bynnag, mae angen gwneud penderfyniad proffesiynol am allu’r oedolyn i wneud dewisiadau gwybodus. Dylai ymarferwyr ystyried y canlynol:

  • a oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus am ei ddiogelwch ei hun o ystyried ei sefyllfa bresennol?
  • a yw’n ymwybodol o’r dewisiadau sydd ganddo?
  • a yw’n gwneud y penderfyniad heb bwysau a gorfodaeth gan drydydd parti?
  • a oes unrhyw ystyriaethau er budd y cyhoedd
  • a ydyw wedi gwrthod cynllun gofal a chymorth oherwydd pwysau neu orfodaeth gan drydydd parti?
Er enghraifft, mae gan oedolyn sglerosis ymledol ac mae’n dibynnu ar ei bartner i ateb ei anghenion gofal dyddiol. Daw dyletswydd i hysbysu i law gan weithiwr proffesiynol iechyd sy’n dweud bod y partner yn cam-drin yn emosiynol yr oedolyn â sglerosis ymledol, yr ystyrir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg. Mae’r oedolyn sy’n wynebu risg yn dweud nad ydyw eisiau unrhyw weithredu yn erbyn ei bartner. Mae’n egluro y gall fynd i weld eu merch pan fydd pethau’n mynd yn ‘wael’.

Yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig bod ymarferwyr yn gwneud yr asesiad ac yn penderfynu a yw’r partner yn bygwth neu’n gorfodi’r oedolyn sy’n wynebu risg i ofyn am beidio â chymryd camau pellach. Yn ogystal, mae’n bwysig sicrhau y gall y ferch ddiogelu ei rhiant os oes angen. Mae ymholiadau’n nodi na fu gorfodi a bod y ferch yn hyderus y gall barhau i ddiogelu ei mam, felly ni weithredir ymhellach.

Dylai ymarferwyr gadw cofnod, sy’n cynnwys:

  • pam na chymerir camau gweithredu;
  • canfyddiadau unrhyw sgrinio cychwynnol;
  • y trefniadau amddiffyn a gynigwyd;
  • y gwaith a wnaed i ddeall y rhesymau dros beidio â derbyn cymorth.

Mae’n bwysig bod cofnod yr ymchwiliad ar gael ac yn atodol at unrhyw gynllun gofal a chymorth.

Mewn rhai amgylchiadau, gellir diystyru dymuniadau’r oedolyn sy’n wynebu risg. Gweler yr enghreifftiau canlynol:

  • os oes risg uchel i iechyd a/neu ddiogelwch yr unigolyn;
  • os gallai eraill, gan gynnwys plant neu oedolion eraill, wynebu risg;
  • os amheuir y cyflawnwyd trosedd yn erbyn yr oedolyn;
  • os yw’r pryderon yn berthnasol i fethiant mewn gofal, torri rheoliad neu god ymddygiad proffesiynol;
  • mae gwasanaethau cymdeithasol oedolion, gwasanaethau iechyd neu asiantaeth arall yn cefnogi neu’n gweithio ag oedolyn y mae mater neu ddigwyddiad sydd wedi achosi niwed yn effeithio arno’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol;
  • ystyrir fod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn cam-drin neu’n esgeuluso oedolyn arall neu blentyn sy’n wynebu risg;
  • os yw’r oedolyn wedi’i orfodi.

Awgrymiadau Ymarfer: Gweithio gyda gwrthwynebiad gan yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i ofalwyr

Awgrymiadau Ymarfer: Sut mae ymarferwyr yn ymateb i wrthwynebiad ac ymosodiad

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Anghytundebau Teuluol