Rhannu Cymraeg English

Y gwerthusiad cychwynnol

Adref 3 rhan 1

Mae’r gwerthusiad cychwynnol yn adeiladu ar gywirdeb y sgrinio ffeithiol i benderfynu pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd i gynorthwyo a diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg . Gwneir hyn drwy gasglu, adolygu a chydgasglu’r wybodaeth a geir gan yr oedolyn sy’n wynebu risg, a/neu ymarferwyr sy’n adnabod yr oedolyn a gofalwyr yn ystod yr ymholiadau a.126 .

Mae’r ffordd y mae gwerthuso’n digwydd yn ôl disgresiwn y gwasanaethau cymdeithasol. Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau yr eir i’r afael â’r canlynol wrth ystyried y wybodaeth i’w gwerthuso:

  • gwybodaeth sydd ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r oedolyn sy’n wynebu risg;
  • y rhai sydd mewn cysylltiad â’r oedolyn sy’n wynebu risg, ei ofalwyr a’i deulu a’r wybodaeth berthnasol sydd ganddynt; rhan yr oedolyn sy’n wynebu risg, ei ofalwyr a’i deulu yn y gwerthusiad;
  • cydnabod hil, ffydd, ethnigrwydd, anableddau, salwch meddyliol neu gorfforol;
  • dulliau priodol o gasglu gwybodaeth;
  • asesu galluedd meddyliol;
  • yr angen i gymryd gofal rhag llygru unrhyw dystiolaeth a allai gael ei defnyddio mewn unrhyw ymchwiliad troseddol nawr neu yn y dyfodol;
  • pwysigrwydd cydnabod bod unrhyw ymholiadau yn gymesur ac yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac adrannau 5, 6 a 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
  • galluedd meddyliol yr oedolyn sy’n wynebu risg i wneud penderfyniadau penodol os oes rheswm dros amau fod ganddo nam ar y meddwl neu’r ymennydd, neu rwystr rhag eu gweithrediad; Yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005.