Rhannu Cymraeg English

Canlyniadau (penderfyniadau) ymholiadau a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Adref 3 rhan 1

Mae tri chanlyniad i ymholiadau. Cyfeirir at y rhain yn Ymdrin ag Achosion Unigol fel ‘Penderfyniadau’. Dyma nhw:

  1. Penderfyniad 1: amddiffyn ar unwaith. Mae hyn yn digwydd pan fo rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, gwasanaethau iechyd neu frys ymateb yn sydyn i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg neu oedolion eraill/plant sydd mewn risg uniongyrchol.
  2. Penderfyniad 2: nid yw’r oedolyn yn wynebu risg ond mae’n bosibl bod ganddo anghenion gofal a chymorth. Dylid rhoi gwybod i’r unigolyn fel y câi ei wneud ar gyfer unrhyw gyfeiriad arall, gan gydnabod y caiff y person ei gyfeirio o bosibl at asiantaethau neu wasanaethau eraill os yw'n briodol neu os bydd angen asesiad.
  3. Penderfyniad 3: Mae’r Oedolyn yn wynebu risg ac mae angen camau gweithredu i’w amddiffyn (gweler yr adran berthnasol).

Ar y cam hwn gellir gwneud penderfyniad nad oes angen camau pellach: nid yw’r oedolyn yn wynebu risg ac nid oes anghenion gofal a chymorth wedi eu nodi.

Nid yw penderfynu p’un ai a gafodd oedolyn sy’n wynebu risg ei gam-drin a/neu ei esgeuluso yn syml. Mae’n bosibl y bydd angen beirniadaeth o ran a yw gweithred hepgor neu gyflawni wedi arwain at gam-drin neu esgeuluso. Mewn rhai achosion, ailadrodd gweithredoedd bychain neu ddiffyg gweithredu a fydd ar y cyd yn gam-drin neu’n esgeuluso.

Er enghraifft, mae gofalwr yn anghofio yn gyson sicrhau bod oedolyn sy’n wynebu risg, sydd yn ei wely ac mae demensia arno, yn cael diod a’i fod yn yfed yn rheolaidd.

Pan fydd ymholiadau yn penderfynu yr ystyrir bod yr oedolyn sy’n wynebu risg ac mae angen camau gweithredu i’w amddiffyn, dylai ymarferwyr sicrhau bod trafodaethau a chynllunio aml-asiantaeth yn cael eu cynnal. Gellir gwneud hyn trwy gyfarfod/trafodaeth strategaeth.
Gellir dod â’r broses diogelu i ben ar unrhyw gam pan fo camau gweithredu priodol wedi eu cymryd i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg.

Er enghraifft, caiff oedolyn sy’n wynebu risg, y mae ganddo broblemau symudedd, ei adael mewn cadair dros nos gan y gofalwr, a wna iddo wisgo padiau anymataliaeth. Mae’r lifft grisiau wedi torri ac ni all y gofalwr godi’r oedolyn sy’n wynebu risg i fyny’r grisiau ac i’r tŷ bach ac i’r gwely. Yn ystod yr ymholiadau, cafodd gwaith trwsio’r lifft grisiau ei drefnu a’i wneud. Yma, er bod penderfyniad 3 yn briodol, nid oedd angen unrhyw ymyrraeth diogelu bellach.

Cofnodi canlyniadau

Rhaid i gasgliadau a chanlyniad yr ymholiadau gael eu cofnodi, gan gynnwys yr achosion hynny nad ydynt yn arwain at gamau pellach.

Dylai’r casgliadau gael eu cofnodi fel eu bod ar gael i’r gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol, er enghraifft os hysbysir unwaith eto am gam-drin a/neu esgeuluso.

Dylai'r gwasanaethau cymdeithasol greu cofnod o'r gwerthusiad gan roi manylion:

Hefyd, dylid cynnwys y canlynol:

1. Cyfranogiad:

  • Enw’r unigolyn a nododd y pryder a’r unigolyn a benderfynodd gychwyn yr ymholiad;
  • enw unrhyw asiantaeth arall neu sefydliadau trydydd parti sy’n ymwybodol neu ynghlwm wrth weithio gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg;
  • enw’r unigolyn neu’r unigolion ac, os yw’n berthnasol, yr asiantaeth a gynhaliodd yr ymholiadau;
  • gwybodaeth a ddarparwyd yn ystod yr ymholiadau a gan bwy.

2. Y broses ymholiadau:

  • Rhestr o’r rheiny a roddodd wybodaeth a chrynodeb o’r cyfranogiad;
  • Y rheiny a gyfwelwyd â hwy yn ystod yr ymholiadau a chrynodeb o’r hyn a ddysgwyd am anghenion diogelu, gofal a chymorth yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • Unrhyw dystiolaeth ddogfennol a adolygwyd yn ystod yr ymholiadau a gwybodaeth a gafwyd.

3. CCasgliadau:

  • Datganiad yn dweud a yw’r rhai a roddodd wybodaeth yn credu bod yr unigolyn yn oedolyn sy’n wynebu risg sydd wedi cael/yn debygol o barhau i gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ai peidio;
  • Datganiad yn dweud a gynhaliwyd asesiad dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu a ddylai asesiad o’r fath fod wedi cael ei gynnal. Os cafodd asesiad o’r fath ei gynnal, y canlyniad;
  • Pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd a gan bwy, i sicrhau yr atebir anghenion diogelwch yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • Tystiolaeth i gefnogi’r casgliad hwn;
  • Unrhyw anghenion ar gyfer gofal a chymorth dan adran 19 a 24 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

-Unrhyw bryderon posibl yn y dyfodol a fydd yn codi o bosibl a pham.