Rhannu Cymraeg English

Y gynhadledd amddiffyn oedolyn: proses

Adref 3 rhan 2

Amlder

Gellir cynnal nifer o gynadleddau yn ystod y broses, ond cynhelir un bob tro i gwblhau’r broses yn dilyn ymchwiliad. Nid oes unrhyw amserlen cytunedig ar gyfer pryd dylid cynnal cynhadledd, ond rhaid iddi ychwanegu gwerth at y broses a rhoi’r gallu i unigolyn ymwneud â’r broses. Felly, dylai cynadleddau gael eu cynnal cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd yr ymchwiliad, ac mewn achosion lle mae’r ymchwiliad yn hir a chymhleth, mae’n bosibl y bydd angen cynnull mwy nag un gynhadledd amddiffyn oedolyn gyda chytundeb yr oedolyn sy’n wynebu risg.

Adroddiadau asiantaeth

Dylai pob asiantaeth sy’n cael gwahoddiad i ddod i’r gynhadledd gyflwyno adroddiad ysgrifenedig, 2 ddiwrnod gwaith o flaen llaw, sy’n crynhoi’r canlynol:

  • gwybodaeth sylfaenol sydd gan yr asiantaeth am yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • cronoleg ddiweddar o ymglymiad asiantaethau perthnasol (gweler yr awgrymiadau ar baratoi cronolegau);
  • ymglymiad â’r digwyddiad/achos presennol sy’n peri pryder
  • pryderon o’r gorffennol ynghylch camdriniaeth ac esgeulustod, anghenion gofal a chymorth sydd heb eu bodloni, gyda phwy y rhannwyd pryderon a pha gamau a gymerwyd a gan bwy;
  • pa mor aml y cysylltir â’r oedolyn sy’n wynebu risg, a natur y cyswllt;
  • asesiad o faterion presennol/ffactorau amddiffynnol a risg;
  • gwybodaeth am ganlyniadau dymunol, dymuniadau a theimladau, gwerthoedd a chredoau’r oedolyn sy’n wynebu risg.

Dylai’r holl adroddiadau wahaniaethu rhwng ffaith, arsylwad, cyhuddiad neu farn. Rhaid i unrhyw farn broffesiynol gael tystiolaeth ategol.

Dylid tynnu sylw’r cadeirydd at unrhyw wybodaeth arbennig o sensitif neu gyfrinachol cyn y gynhadledd.

Er mwyn cynnal ffocws y gynhadledd ar ddadansoddi a phenderfynu, dylai ymarferwyr a’r oedolyn sy’n wynebu risg weld adroddiadau cyn y gynhadledd. Golyga hyn y gall ymarferwyr gyflwyno’r pwyntiau allweddol i’r gynhadledd mewn adroddiad cryno.

Canllaw Ymarfer: Paratoi Adroddiadau ar Gyfer Cyfarfodydd Diogelu

Rhannu adroddiadau â’r oedolyn sy’n wynebu risg

Dylai adroddiadau gael eu rhannu â’r oedolyn sy’n wynebu risg cyn y gynhadledd, oni bai bod hynny’n ei roi mewn mwy o risgl, h.y. gallai’r troseddwr gael mynediad at yr adroddiad, gallai achosi gofid i’r oedolyn, neu efallai na fydd er budd pennaf iddo.

Mae’n bwysig bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn ymwybodol o gynnwys unrhyw adroddiadau amdano cyn y gynhadledd. Mae hyn yn ei alluogi i:

  • gadarnhau ei fod yn cytuno â’r cynnwys
  • paratoi am yr hyn fydd yn cael ei rannu ag asiantaethau eraill ac yn y gynhadledd.

Yr agenda

Mae’r agenda’n rhoi fframwaith ar gyfer rheoli’r gynhadledd.

Gall y broses gael ei rhannu’n bedwar cam:

Cyflwyno’r sefyllfa::

  • datganiad cyfrinachedd a chwblhau taflen gofrestru (darparu manylion cysywllt i ddosbarthu cofnodion);
  • cyflwyniadau ac ymddiheuriadau;
  • manylion yr oedolyn sy’n wynebu risg (Enw/Dyddiad Geni/Cyfeiriad/Meddyg Teulu/Teulu/partner, os yw’n hysbys);
  • cadarnhau capasiti'r oedolyn sy’n wynebu risg o ran asesu a bodloni ei anghenion gofal, cymorth a diogelu;
  • cefndir y pryderon a godwyd a chrynodeb o broses adran 126.

Rhannu gwybodaeth o adroddiadau sydd wedi dod i law, gan gynnwys: :

  • Yr ymarferydd-asiantaethau ymchwiliol sy’n rhan o’r ymchwiliadau;
  • Bydd dymuniadau’r oedolyn sy’n wynebu risg ac unrhyw wybodaeth arall yn cael eu pennu;
  • Dylai ymarferwyr gyflwyno’r pwyntiau allweddol i’r gynhadledd mewn adroddiad cryno.

Asesu a gwneud synnwyr o’r wybodaeth i bennu unrhyw wybodaeth bellach mae ei hangen:

  • canlyniad unrhyw ymchwiliadau a’r goblygiadau i’r oedolyn sy’n wynebu risg;
  • asesiad o gamdriniaeth a/neu esgeulustod – cytuno ar ddifrifoldeb ac a yw’n digwydd o hyd, ac unrhyw dystiolaeth i gefnogi safbwyntiau.

Gwneud penderfyniadau:

  • penderfynu a yw cynllun presennol yn ateb anghenion yr oedolyn sy’n wynebu risg. Os nad oes, dylid adolygu neu ddatblygu cynllun amddiffyn gofal a chymorth newydd;
  • cytuno a oes angen cyngor ac arweiniad cyfreithiol;
  • pennu a oes angen cymryd unrhyw gamau statudol a/neu reoliadol, megis atgyfeirio at reoleiddwyr;
  • penderfynu pa asiantaethau fydd yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r cynllun ac a oes angen cynllun wrth gefn rhag ofn nad yw’r cynllun y cytunwyd arno yn effeithiol.

Canlyniadau:

  • cytuno pa ganlyniadau’r cynllun gofal, cymorth a diogelu fydd yn cael eu mesur, a’r amserlenni ar gyfer hyn;
  • pennu a oes angen cymryd unrhyw gamau statudol a/neu reoliadol, megis atgyfeirio at reoleiddwyr;

Nid yw diffyg tystiolaeth ar gyfer erlyniad troseddol yn golygu o reidrwydd na ellir cymryd unrhyw gamau drwy achos sifil (e.e. ceisio gwaharddeb) neu achos disgyblu. Y rheswm am hyn yw bod y baich profi yn is mewn achosion sifil. Gall trafodaethau am hyn ddigwydd yn y gynhadledd.

Cofnod y gynhadledd diogelu oedolyn

Dylai cofnodion nodi a dangos tystiolaeth o'r drafodaeth a chasgliad y gynhadledd.

Dylai’r cofnod gael ei anfon at:

  • yr oedolyn sy’n wynebu risg lle bo'n briodol. Os nad oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg alluedd meddyliol i ddeall y cofnod, dylid penderfynu drosto, er ei fudd pennaf pwy y dylid anfon y cofnod atynt, neu a oes angen ei anfon;
  • pawb sy’n bresennol a phawb a wahoddwyd i’r cyfarfod;
  • pawb sy’n cyfrannu at y cynllun gofal, cymorth a diogelu;
  • timau contract/comisiynu fel y bo’n briodol;
  • cyrff rheoleiddio perthnasol, fel y bo’n briodol.

Os yw’r cofnod yn cael ei anfon at ofalwr (gyda chaniatâd yr oedolyn sy’n wynebu risg neu er ei fudd pennaf) rhaid i’r gynhadledd gytuno ar ba wybodaeth y gellir ei rhannu am y person a gyhuddwyd o achosi niwed.

Gallai fod sefyllfaoedd lle gallai rhannu cofnod y cyfarfod gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg ei roi mewn risg uwch o gamdriniaeth neu esgeulustod. Er enghraifft, lle mae gan gamdriniwr fynediad at y cofnod a’i fod yn debygol o ddod yn dreisgar tuag yr oedolyn sy’n wynebu risg petai’n darllen y cofnod. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, dylai’r ymarferydd ddefnyddio ei farn broffesiynol a gwneud trefniadau i fynd i’r afael â’r pryderon. Er enghraifft, gallai’r cofnod gael ei rannu ar lafar neu mewn amgylchedd diogel.

Lle mae gwybodaeth na ellir ei rhannu gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg (gweler uchod), dylai’r rhan o’r cofnod sy’n ymwneud â’r rhan honno o’r cyfarfod gael ei golygu. Dylai unrhyw adroddiadau sydd ar gael i’r cyfarfod gael eu galw’n ôl gan y cadeirydd ar ddiwedd y cyfarfod, a rhaid i’r cadeirydd gytuno ar unrhyw eithriadau i hyn.