Rhannu Cymraeg English

Oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth a/neu esgeulustod: y cynllun amddiffyn gofal a chymorth

Adref 4

Dylai fod gan oedolyn sy’n wynebu risg, lle ceir camdriniaeth neu esgeulustod, gynllun diogelu gofal a chymorth. Dylai hwn gael ei lunio gan yr ymarferwyr sy’n rhan o’r cyfarfod strategaeth (y cyfeirir ato iyn y gweithdrefnau fel y ‘grŵp strategaeth’).

Dylai cynllun amddiffyn gofal a chymorth:

  1. ddilyn y gofynion a nodir dan Adran 54 Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
  2. cael ei adolygu’n rheolaidd. Os caiff cynhadledd amddiffyn oedolyn ei chynnal wedi hynny mewn cysylltiad â’r oedolyn sy’n wynebu risg, dylid adolygu unrhyw gynllun diogelu gofal a chymorth presennol gan y gynhadledd er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol o ran amddiffyn yr oedolyn sy’n wynebu risg. Nod y cynllun diogelu gofal a chymorth yw dileu neu leihau’r risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Dylai’r cynllun gynnwys trefniadau gofal a chymorth gan bwysleisio gwaith amddiffyn a rheoli risg yn benodol i gefnogi’r unigolyn i gyrraedd ei ganlyniadau personol.

Gallai hyn gynnwys camau fel:

  • y camau i’w rhoi ar waith i sicrhau diogelwch yr unigolyn yn y dyfodol;
  • darparu unrhyw gymorth, triniaeth neu therapi, gan gynnwys eiriolaeth barhaus;
  • unrhyw addasiadau sydd eu hangen i’r ffordd y darperir gwasanaethau;
  • unrhyw strategaeth rheoli risg sy’n mynd rhagddi fel y bo’n briodol;
  • sut i gefnogi’r oedolyn orau drwy unrhyw gamau gweithredu a gymerir i geisio cyfiawnder neu drefniadau gwneud iawn ar gyfer adolygiadau rheolaidd o’r cynllun yn ôl lefel y risg.

Dylai’r cynllun:

  • canolbwyntio ar yr unigolyn;
  • canolbwyntio ar y canlyniadau;
  • bod yn gymesur a dilyn y camau lleiaf cyfyngedig;
  • cael ei adolygu’n rheolaidd.

D.S. Yn y gweithdrefnau hyn mae’r pwyslais ar elfennau diogelu’r cynllun ac unrhyw ofal a chymorth gan ei fod yn ymwneud ag amddiffyn oedolyn sy’n wynebu risg o gael ei gam-drin neu’i esgeuluso a’r gwasanaethau sydd eu hangen i sicrhau ei fod yn gwella yn dilyn y cam-drin neu’r esgeuluso.