Casglu wybodaeth ar gyfer wneud hysbyiad
Adref 2
Caiff unrhyw un, gan gynnwys y cyhoedd hysbysu am gam-drin neu esgeuluso honedig, a amheuir neu sydd yn digwydd yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cymdeithasol dros y ffôn, mewn e-bost neu mewn ysgrifen.
Dylid gwneud pob hysbysiad gan ymarferwyr i’r gwasanaethau cymdeithasol a/neu yr heddlu ar unwaith pan amheuir bod trosedd wedi’i chyflawni neu wrthi’n cael ei chyflawni.
Pan fo hysbysiad yn cael ei gyflwyno dros y ffôn i wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, mae’n rhaid i’r ymarferwr sy’n gwneud yr hysbysiad ei gadarnhau’n ysgrifenedig cyn pen 1 diwrnod gwaith.
Rhaid i ymarferwyr ddefnyddio ffurflenni hysbysu yr awdurdod lleol.
Dylai’r hysbysiad i’r gwasanaethau cymdeithasol gynnwys y wybodaeth sydd ar gael am y plentyn, ei deulu a’i amgylchiadau, gan ystyried rôl yr unigolyn a’i asiantaeth.
Gwybodaeth i’w chynnwys mewn hysbysiad
Gwybodaeth y dylid ei chynnwys mewn hysbysiad Er ei bod yn bwysig rhoi’r wybodaeth yn y tabl isod, os oes angen gweithredu’n syth er mwyn diogelu’r plentyn sy’n wynebu risg, dylai hyn gael blaenoriaeth dros gasglu gwybodaeth.
Dylai’r wybodaeth sydd ei angen fod yn gymesur a chynnwys:
- Gwybodaeth sylfaenol ynghylch y plentyn a’i deulu;
- Manylion y testun pryder o ran y perygl o gamdriniaeth ac unrhyw gynlluniau sy’n cynnig diogelwch yn syth;
- Gwybodaeth berthnasol a gedwir gan yr asiantaeth, sy’n rhoi gwybodaeth ddyfnach am y plentyn sydd sy’n wynebu risg o niwed, ei deulu/gofalwyr a’i amgylchedd.
- Enw llawn, unrhyw enwau eraill, dyddiad geni, cyfeiriad, unrhyw gyfeiriad blaenorol;
- Enwau’r sawl â chyfrifoldeb rhieni, os oes plant yn bresennol;
- Enwau, dyddiad geni a gwybodaeth ynghylch pawb sy’n byw ar yr aelwyd, gan gynnwys unrhyw blant eraill sydd neu a all fod mewn perygl o niwed yn y teulu, a phobl arwyddocaol sy’n byw y tu allan i’r aelwyd;
- Ethnigrwydd, mamiaith a chrefydd; Unrhyw angen o ran darparu dehonglydd, arwyddwr neu offer cyfathrebu arall;
- Unrhyw anghenion ychwanegol eraill sy’n hysbys;
- Gwybodaeth am bresenoldeb/diffyg presenoldeb yn yr ysgol, canolfan ddydd, apwyntiad ysbyty ac ati;
- Asiantaethau sy’n ymwneud â’r unigolyn, y teulu a gofalwyr ar hyd o bryd sy’n hysbys i’r atgyfeiriwr;
- P’un ai a gafwyd cydsyniad ar gyfer yr atgyfeiriad.
Natur y pryder: ydyn nhw’n destun niwed neu mewn perygl o niwed?
- Disgrifiadau manwl o unrhyw anafiadau ac unrhyw honiadau, er enghraifft cam-drin rywiol, eu ffynhonnell, amseriad a lleoliad;
- P’un ai a yw’r plentyn yn ddiogel ar hyd o bryd neu a oes angen ei amddiffyn ar unwaith ynghyd â’r camau a gyflawnwyd hyd yn hyd;
- Enw a lleoliad presennol y tramgwyddwr a amheuir/honedig;
- Lleoliad presennol yr unigolyn os yw mewn perygl uniongyrchol o niwed;
- Effaith y digwyddiad a chyflwr emosiynol a chorfforol;
- Y perygl y caiff y digwyddiad ei ailadrodd mewn cysylltiad ag unigolyn a/neu eraill;
- Unrhyw wybodaeth a all effeithio ar ddiogelwch staff;
- Pryder ynghylch ymarferydd.
Gwybodaeth a gedwir gan yr ymarferydd/asiantaeth ynghylch:
- Lechyd a llesiant y plentyn;
- Gallu’r gofalwr/wyr i ddiwallu anghenion y plentyn;
- Ffactorau cymdeithasol-economaidd a all fod yn effeithio ar yr unigolyn, ei deulu a gofalwyr, er enghraifft, colli swydd;
- Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol/pwysig diweddar neu hanesyddol;
- Perthynas yr atgyfeiriwr gyda’r plentyn neu oedolyn mewn perygl a’i rieni/gofalwyr a’r wybodaeth sydd ganddo amdanynt;
- Pa asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill sydd yn gysylltiedig neu wedi bod yn gysylltiedig â’r achos;
- Disgrifiad o’r plentyn a’i anaf.
Er fod y Tabl yn rhoi manylion y wybodaeth y dylid ei chasglu, cydnabyddir na fydd gan yr holl ymarferwyr y manylion hyn.
Ni ddylai diffyg manylion atal rhag rhoi gwybod am bryder diogelu.
Cofiwch y gall peidio â rhannu gwybodaeth roi plentyn mewn mwy o berygl o niwed ac mae’n nodwedd gyffredin mewn adolygiadau ymarfer plant. Er y gallai gwybodaeth ar ei phen ei hun ymddangos yn ddi-nod, gyda gwybodaeth arall o ffynonellau eraill, gallai fod yn bwysig o ran diogelu’r plentyn sy’n wynebu risg.
Am ragor o ganllawiau gweler: Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl; Rhannu Gwybodaeth i Ddiogelu Plant
Awgrymiadau Ymarfer: Gwneud adroddiad
Awgrymiadau Ymarfer: Hysbysu : Sut i Gymhwyso’r Broses Ddiogelu i Arfer