Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 adran128, yn dynodi’r ddyletswydd a roddir ar ‘bartneriaid perthnasol’ ymarferwr dan a.162 y Ddeddf i hysbysu y rhieni a’r plant, gan gynnwys plant na anwyd eto, y mae ganddynt achos rhesymol dros amau eu bod sy’n wynebu risg o niwed.
Diffiniadau o blant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso
Awgrymiadau Ymarfer Adran 1: Arwyddion a Dangosyddion o Gamdriniaeth ac Esgeulusdod
Partneriaid perthnasol yw:
a) y corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod lleol;
b) unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r awdurdod yn cytuno y byddai’n briodol i gydweithio â nhw yn yr adran hon;
c) yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau dan adrannau 2 a 3 Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 mewn perthynas â Chymru;
ch) unrhyw ddarparwr gwasanaethau profiannaeth sy’n ofynnol gan drefniadau gan adran 3(2) Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 i weithredu fel partner perthnasol yr awdurdod;
d) Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer unrhyw ardal neu ran o ardal sy’n rhan o ardal yr awdurdod;
dd) Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal yr awdurdod;
e) Gweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn cyflawni swyddogaeth dan Ran 2 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000;
f) y fath berson, neu berson o’r fath ddisgrifiad, fel y manylir gan y rheoliadau, a
ff) tîm troseddau ieuenctid ar gyfer unrhyw ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o dan ardal yr awdurdod
Cyfrifoldebau i’r rhai hynny na chynhwysir fel partneriaid perthnasol
Mae disgwyl i bawb nad yw eu hasiantaethau wedi eu cynnwys fel ‘partneriaid perthnasol’ uchod hefyd gyfeirio unrhyw bryderon diogelu yn yr un modd â’r rhai â [Dyletswydd benodol i Hysbysu]. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr sy’n derbyn tâl a rhai di-dâl mewn sefydliadau trydydd sector gan gynnwys contractwyr a gweithwyr proffesiynol annibynnol.
Awgrymiadau Ymarfer: Rhwystrau posibl rhag gweld ac adrodd am gamdriniaeth ac esgeulustod