Rhannu Cymraeg English

Gweithio gyda’r plentyn a’r teulu yn ystod ymholiadau adran 47

Adref 3 rhan 1

Er nad oes rhaid i rieni gydsynio i ymholiadau adran 47 dylid ymgynghori â nhw a, phan yn bosibl, eu cynnwys fel cyfranogwyr gweithredol yn y broses.

Mae perthnasau rhwng ymarferwyr a theuluoedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu os yw rhieni;

  • yn cael eu trin â pharch, empathi a chynhesrwydd – beth bynnag maen nhw wedi ei wneud, maen nhw’n fodau dynol;
  • yn cael eu clywed ac yn cael amser i dderbyn gwybodaeth ac ymateb iddi;
  • yn rhan o sgwrs onest, gyda’r gwahaniaethau o ran y pŵer rhwng y teulu a’r ymarferwr yn cael eu cydnabod;
  • yn cael cyfle i drafod ffactorau a allai roi gwybodaeth i’r asesiad, fel defodau crefyddol, arferion diwylliannol.

Dylid bob amser roi’r grym i’r plentyn a’r teulu gymryd rhan yn llawn yn yr ymchwiliad, oni bai bod hyn yn groes i amddiffyniad y plentyn.

Dylid ystyried y canlynol:

  • pan fo anabledd gan y plentyn neu’r rhiant dylent gael y cyfle i gyfathrebu yn eu dewis gyfrwng, i roi’r cyfle mwyaf iddynt gymryd rhan yn y broses;
  • cofiwch y gallai fod gan rai aelodau o’r teulu anghenion cyfathrebu amrywiol;
  • dylid darparu cyfieithydd annibynnol pan fo dewis iaith y plentyn neu riant yn wahanol i iaith y cyfwelydd;
  • os nad yw’r plentyn yn gallu cymryd rhan mewn cyfweliad oherwydd ei oedran neu ei ddeallusrwydd, dylid defnyddio ffordd arall o ddeall safbwynt y plentyn;
  • dylid cynnal ymholiadau bob amser yn y fath fodd nad ydynt yn peri gofid i’r plentyn, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael eu trin yn sensitif a chyda pharch.

Cynnwys rhieni neu ofalwyr mewn ymholiadau adran 47

Dylid dilyn y broses ganlynol:

Esboniwch y diben

Mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol esbonio diben yr ymholiadau adran s47 i’r rhieni, gan ystyried eu lefel o ddealltwriaeth, a bod yn barod i ateb cwestiynau yn agored, oni bai y byddai hynny yn effeithio ar ddiogelwch a lles y plentyn.

Mae’n arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd petai’r Gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig ynglŷn â diben, proses a chanlyniadau posib ymholiadau adran s47 amddiffyn plant.

Dylai hyn:

  • gael ei ysgrifennu yn syml yn Gymraeg a Saesneg, ac osgoi defnyddio jargon (dylai gwybodaeth hefyd fod ar gael mewn ieithoedd eraill yn dibynnu ar gymysgedd ethnig y boblogaeth);
  • esbonio sut i gael gafael ar gyngor, eiriolaeth a chefnogaeth gan ffynonellau annibynnol;
  • dangos sut i gael gafael ar weithdrefnau cwyno.

Cynnwys y teulu

Dylid cynnwys y rhieni neu ofalwyr drwy gydol yr ymholiadau adran s47 pan fo’n bosibl, cyhyd â bod hyn er budd penna’r plentyn.

Dylai’r gweithiwr cymdeithasol a/neu’r swyddog heddlu sy’n gwneud yr ymholiadau:

  • esbonio’r rhesymau dros bryderu am y plentyn/plant;
  • sicrhau bod y teulu’n deall pam bod yr ymholiadau’n digwydd, pwy sy’n cyfrannu, pa gyfarfodydd fydd angen iddyn nhw fynychu, a pha gyfarfodydd fydd yn digwydd, fel rhai i drafod strategaeth. Dylid gwneud hyn mewn modd sy’n adlewyrchu anghenion aelodau unigol y teulu;
Er enghraifft, efallai bydd aelod o’r teulu ar feddyginiaeth fydd yn arafu ei allu i brosesu gwybodaeth, felly mae’n bosib bydd angen ailadrodd gwybodaeth fwy nag unwaith. Neu, mae’n bosib y bydd angen cyfieithydd os nad Saesneg yw ei famiaith.
  • amlinellu’r camau gweithredu a gynigir a pham;
  • rhoi gwybodaeth am y broses ymholiadau a pha ymarferwyr fydd yn cymryd rhan; esbonio y bydd angen rhannu gwybodaeth berthnasol o bosib gyda chydweithwyr proffesiynol sydd hefyd â chyfrifoldeb am les y plentyn;
  • cael cydsyniad rhieni yn ysgrifenedig pan fo’n bosibl. (y paediatregydd sy’n archwilio fydd yn cael cydsyniad ar sail gwybodaeth am archwiliad meddygol);
  • os yn briodol, annog rhiant/rhieni i fynd gyda’r plentyn am gyfweliad ac archwiliad meddygol. Fodd bynnag, dylid gofalu peidio â chymryd camau a allai niweidio unrhyw ymchwiliad troseddol, yn arbennig lle mae’r rhiant/gofalwr yn droseddwr honedig neu’n dyst.

Gwybodaeth am ymchwiliadau troseddol

Gan mai’r heddlu sy’n arwain pob ymchwiliad troseddol eu cyfrifoldeb hwy yw rhoi gwybod i’r rhieni/gofalwyr am ymchwiliad troseddol.

Rhoi gwybod i’r teulu am y canlyniadau

Cyfrifoldeb y gweithiwr cymdeithasolsy’n arwain yr ymholiad adran 47 yw rhoi gwybod i’r teulu am ganlyniad yr ymholiadau .h.y. y penderfyniad a goblygiadau’r penderfyniad hwnnw.

Pan fo rhieni neu ofalwyr yn gwrthod cydweithio ac mae angen gweithredu ar frys

Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau cydweithrediad rhieni y bydd angen sicrwydd arnynt am y broses adran s47. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, bydd gofalwyr yn gwrthod cydweithredu ac mae’n bosib y bydd angen i ymarferwyr ddefnyddio protocolau i helpu gyda’r gwaith hwn o dan y fath amgylchiadau. Mae gan y rhan fwyaf o Fyrddau Diogelu Rhanbarthol brotocolau ar gyfer rheoli’r sefyllfaoedd hyn.

Dylid ystyried gweithredu ar frys os yw rhieni’n gwrthod cydweithio neu’n rhoi camau penodol ar waith, a bod hynny’n debygol o achosi niwed i’r plentyn.

Mae’n bosib y bydd angen rhoi camau brys ar waith yn syth ar ôl i’r hysbysebiad (gweler uchod), ddod i law neu ar unrhyw gam o’r broses.

Y camau cyfreithiol y gellir eu defnyddio yw:

Pan nad yw cydsyniad ar gael yn hawdd, neu pan fo rhiant yn gwrthod, dylid trafod yr angen am gyngor cyfreithiol gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, a chamau i gael cydsyniad dilys. Dylid nodi nad yw ymholiadau adran 47, Gorchmynion Amddiffyn Brys na Phwerau Amddiffyn yr Heddlu yn cynnwys cydsyniad am archwiliad meddygol. Wrth wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Brys a bod angen archwiliad meddygol, rhaid gwneud cais am gyfarwyddiadau ar gynnal archwiliad meddygol. Fodd bynnag, efallai byddai Gorchymyn Asesu Plentyn yn fwy priodol.

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Gwrthsafiad i Ymholiadau adran 47

Awgrymiadau Ymarfer: Sut mae Ymarferwyr yn Ymateb i Wrthwynebiad ac Ymosodiad

Cynnwys plant a phobl ifanc mewn ymholiadau adran 47

Cyfrifoldeb y cyfranogwyr yn y cyfarfod/trafodaeth strategaeth yw penderfynu:

  • gan bwy, pryd a lle y caiff plant sy’n destun ymholiadau adran 47 eu gweld;
  • os oes unrhyw amgylchiadau pan ddylid gwneud hynny heb ganiatâd y rhiant/rhieni.

Wrth gynnwys plant a phobl ifanc dylai ymarferwyr gydnabod eu bod yn aml yn deall yn glir yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau eu diogelwch a’u lles. Dylai’r plentyn:

  • gael ei helpu i ddeall sut mae gweithdrefnau amddiffyn plant yn gweithio, sut y gall gymryd rhan a sut gall gyfrannu at benderfyniadau am ei ddyfodol;
  • gael gwybodaeth o ran sut i fanteisio ar wasanaethau eiriolaeth a ffynonellau cymorth eraill;
  • gael ei glywed ym mhob cam o’r broses amddiffyn plant a dylid rhoi gwybodaeth iddo yn briodol am benderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

Drwy gydol yr ymholiadau adran s47 dylid ystyried diogelwch uniongyrchol y plentyn ac unrhyw [blant sy’n wynebu risg].