Rhannu Cymraeg English

Camau gweithredu yn dilyn hysbysebiad: gwiriadau a phenderfyniadau cychwynnol

Adref 3 rhan 1

Unwaith y mae’r hysbysebiad wedi’i dderbyn, dylai’r tîm wasanaethau cymdeithasol perthnasol benderfynu ar y camau gweithredu nesaf a’u cofnodi o fewn un diwrnod gwaith.

Dylai’r ffocws fod ar ddiogelwch a llesiant y plentyn. Os nad oes sail i hysbysebiad am gam-drin, niweidio neu esgeuluso plentyn, mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod gan y plentyn o bosib anghenion gofal a chymorth o hyd, ac y gallai’r teulu elwa o wasanaethau cymorth cynnar, neu gael eu cyfeirio at y gwasanaethau hyn, ar yr amod bod y rhiant/rhieni’n cydsynio.

Pan fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn derbyn hysbysebiad sy’n ymddangos gyfystyr â throsedd yn erbyn plentyn, dylent bob tro ei drafod gyda’r heddlu ar unwaith.

Os yw’r hysbysebiad am honiad o fethiant i gynnal safonau gofal, neu achos o dorri rheoliadau gan ddarparwr sydd wedi’i reoleiddio neu asiantaeth statudol, dylent drafod gyda’u swyddog diogelu arweiniol perthnasol a dilyn protocol pryderon proffesiynol y Byrddau Diogelu.

Cwblhau’r gwiriadau cyntaf

Dylai’r gwiriadau cychwynnol gynnwys:

Yn ychwanegol, dylai’r person sy’n derbyn yr hysbysebiad:

Cyfraniadau aml-asiantaethol

Efallai bydd rhaid i’r sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad gysylltu ag ymarferwyr a gwasanaethau eraill i gael digon o wybodaeth i benderfynu ar y penderfyniad cychwynnol:

Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl: rhannu gwybodaeth i ddiogelu plant

Rhannu Gwybodaeth i Ddiogelu Plant

O.N. Dylid cael caniatâd y rhieni, neu’r plentyn os yw’n briodol, cyn trafod hysbysebiad amdanynt gydag asiantaethau eraill, oni bai: y byddai cael y caniatâd hwnnw yn rhoi’r plentyn neu eraill mewn perygl o niwed posib. (Gweler ymgysylltu a’r teulu)

Y penderfyniad cychwynnol

Rhaid i benderfyniadau a wneir yn dilyn yr hysbysebiad ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, a’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda’r plentyn a’i deulu.

Dylai’r penderfyniad cychwynnol fod yn seiliedig ar ddigon o wybodaeth h.y. gwybodaeth gymesur, er mwyn galluogi’r sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad i benderfynu:

  1. dim camau pellach;
  2. y dylid asesu anghenion y plentyn am ofal a chymorth o dan ddyletswydd Rhan 3 Deddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Adran 21 – dyletswydd i asesu anghenion y plentyn am ofal a chymorth
  3. bod angen diogelu’r plentyn ar unwaith a gweithredu ar fyrder diogelu’r plentyn ar unwaith a gweithredu ar fyrder
  4. bod achos rhesymol dros amau bod y plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol ac y dylid cynnal trafodaeth/cyfarfod strategaeth i gychwyn Ymholiadau Adran 47 dan Ddeddf Plant 1989

Ymhob achos, tra bod diogelwch y plentyn yn parhau o’r pwys mwyaf:

Beth i’w wneud os mai’r penderfyniad cychwynnol yw bod achos rhesymol i amau bod plant mewn perygl o niwed sylweddol

Os yw’r gwiriadau cychwynnol, yn dilyn hysbysebiad , yn dod i’r casgliad bod gan ygwasanaethau cymdeithasol achos rhesymol i amau bod plentyn mewn perygl o niwed sylweddol (Deddf Plant 1989) https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1989/41/contents, dylent gynnull trafodaeth/cyfarfod strategaeth i benderfynu a oes angen rhoi Ymholiadau adran 47 ar waith, ynghyd â’r ffordd orau i’w cynnal.

Gall hyn ddigwydd ar unrhyw gam yn dilyn hysbysebiad neu gall ddigwydd ar adegau eraill lle, er enghraifft, mae’r plentyn eisoes dan ofal yr awdurdod lleol ac yn derbyn gwasanaethau fel plentyn ag anghenion gofal a chymorth dan Adran 76 Rhan 6 Deddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 https://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/contents a bod niwed sylweddol posibl wedi’i nodi.

Gallai’r drafodaeth ddigwydd mewn cyfarfod neu drwy gyfrwng arall megis dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda. Rhaid i hyn ddigwydd o fewn un diwrnod gwaith o’r penderfyniad i’w chynnal.

Yr heddlu sy’n gyfrifol am unrhyw ymchwiliad troseddol.

Rheoli pryderon newydd/cynyddol ynghylch niwed sylweddol tra bod gan y plentyn gynllun gofal a chymorth dan Ran 3 Deddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Adran 21 – dyletswydd i asesu anghenion gofal a chymorth plentyn;

Mewn rhai achosion, gall pryderon am niwed sylweddol ymddangos neu gronni tra bo’r plentyn yn destun Rhan 3 Cynllun Gofala Mewn rhai achosion, gall pryderon am niwed sylweddol ymddangos neu gronni tra bo’r plentyn yn destun Rhan 3 Cynllun Gofal a Chymorth. Ar yr adeg pan fydd y rheiny sy’n gweithio gyda'r plentyn a’i deulu yn credu bod y pryderon wedi cyrraedd pwynt pan fydd y plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol, dylid ystyried ymchwiliad adran s47, gan ddechrau gyda thrafodaeth/cyfarfod strategaeth.

Yn y cyfarfod hwn:

Enghraifft: Mae Bethan sy’n 3 oed yn unig blentyn ac mae wedi bod yn destun cynllun gofal a chymorth ers tri mis. Bu farw ei mam 12 mis yn ôl, ac mae ei thad sy’n unig riant wedi ei chael hi’n anodd dangos unrhyw emosiwn tuag at Bethan ers hynny. Er enghraifft, nid yw erioed wedi dangos emosiwn corfforol tuag at Bethan pan mae’n ei gollwng yn y feithrinfa ac yn ei chasglu oddi yno. Yn ogystal, mae Bethan yn ofni cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau lle gallai faeddu gan fod ‘Dadi’n mynd yn flin’. Er gwaetha’r pecyn gofal a chymorth, oedd yn canolbwyntio ar gwnsela ar ôl profedigaeth a datblygu cyswllt rhwng y tad a’r ferch, mae’n ymddangos mai ychydig o gynnydd a wnaed. Yn wir, mae’r gweithiwr cymdeithasola staff y feithrinfa yn credu bod y sefyllfa wedi gwaethygu. Mae Bethan wedi awgrymu ei bod yn bwyta prydau bwyd ar ei phen ei hun ac yn cael ei gadael i chwarae yn ei hystafell neu ar ei llechen pan fydd hi gartref gyda Dadi. Mae wedi dechrau gwlychu a baeddu ei hun ac wedi dechrau ymwrthod rhag gadael y feithrinfa ar ddiwedd y dydd, gan weiddi bod Dadi yn ei chasáu a’i bod am aros gyda Mrs Grant, ei hathrawes yn y feithrinfa. Mae tad Bethan wedi dweud wrth y gweithiwr cymdeithasol nad yw’n gallu ymdopi a’i fod yn ystyried ei rhoi i gael ei mabwysiadu gan ei fod yn sylwi ei fod yn dal dig wrthi fwy a mwy. Mae’r gweithiwr cymdeithasol, sy’n rheoli’r cynllun gofal a chymorth yn trafod hyn gyda’r feithrinfa, ac yn ystyried bod Bethan yn ddioddef niwed sylweddol. Mae’n rhoi gwybod i’r tad o’i bwriad i ofyn am gyfarfod strategaeth i roi Ymholiadau adran s47 ar waith. Mae’r Gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu cynnal cyfarfod strategaeth i ystyried dechrau Ymholiadau adran s47 gan fod tystiolaeth hyd yma’n awgrymu bod Bethan yn wynebu niwed sylweddol.