Mae’n bosib y bydd angen cymryd camau ar frys unwaith y derbynnir hysbysebiad , neu ar unrhyw gam o’r broses amddiffyn plant. Dylai’r sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad benderfynu a oes angen amddiffyn y plentyn/plant ar frys oherwydd bod perygl i fywyd plentyn, neu fod tebygoliaeth o niwed difrifol yn syth. Os mai dyma’r achos, rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol a/neu’r heddlu ddefnyddio eu pwerau statudol i weithredu’n syth i ddiogelu’r plentyn.
Wrth ystyried a oes angen cymryd camau brys, dylid rhoi ystyriaeth ddyladwy bob amser i anghenion plant eraill mewn perygl yn yr un cartref, neu yng nghartref camdriniwr honedig.
Efallai bydd angen sicrhau bod y plentyn yn aros mewn lle diogel neu ei fod yn cael ei symud i fan diogel, naill ai drwy gydsyniad gwirfoddol y rhiant (neu berson(au) gyda chyfrifoldeb rhieni), neu os ydyn nhw’n anghytuno, a/neu y byddai cael y cydsyniad hwn yn rhoi’r plentyn neu eraill mewn perygl o niwed, drwy gael Gorchymyn Amddiffyn Brys.
Bydd camau gweithredu brys a gynlluniwyd fel arfer yn digwydd ar ôl trafod strategaeth yn syth. Fodd bynnag, os oes rhaid i un asiantaeth weithredu ar unwaith, dylai trafod strategaeth ddigwydd cyn gynted â phosib ar ôl cyflawni’r camau brys.
Mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu sy’n cymryd y camau brys:
Ni ddylai’r angen i gael cyngor oedi unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol i sicrhau diogelwch a lles unrhyw blentyn yr amheuir ei fod mewn perygl o niwed sylweddol yn fuan.
O.N. Dim ond mynd i’r afael ag amgylchiadau uniongyrchol y plentyn/plant y mae camau gweithredu brys. Dylid eu dilyn yn syth ag ymholiadau adran s47.
Dylai’r asiantaethau sy’n bennaf ynghlwm â’r plentyn a’r teulu hefyd asesu eu hanghenion, a chytuno ar gamau gweithredu i ddiogelu’r plentyn yn y tymor hir.
Cyn defnyddio unrhyw bwerau gorfodol i ddiogelu plant, dylid bob amser ystyried rhoi trefniadau/camau eraill ar waith. Gallai’r rhain gynnwys;
Os na ellir cyflawni’r uchod mewn modd sy’n sicrhau diogelwch y plentyn ar unwaith, yna dylid ystyried pwerau gorfodol.
Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall yr egwyddor dim gorchymyn sy’n sail i Ddeddf Plant 1989. Ni ddylid ystyried pwerau gorfodi oni bai bod perygl i fywyd neu debygrwydd o niwed difrifol ar unwaith ac nad oes dewis arall sy’n galluogi ymarferwyr i sicrhau diogelwch y plentyn ar unwaith.
Dylai’r penderfyniad gael ei wneud gan uwch reolwr yn unol â threfniadau lleol a’r rhesymeg dros y penderfyniad ei gofnodi.
Gellir gwneud sawl gorchymyn gorfodol, gan gynnwys:
Gorchmynion Amddiffyn Brys (GABau)
Mae Gorchymyn Amddiffyn Brys yn Orchymyn gan y Llys sy’n galluogi’r plentyn i gael ei symud o’i gartref os oes achos rhesymol i gredu bod y plentyn yn debygol o ddioddef niwed sylweddol os na chaiff ei symud ac mae’n rhoi’r cyfrifoldeb am y plentyn yn nwylo’r awdurdod lleol. Mae Gorchymyn Amddiffyn Brys yn parhau am hyd at 8 diwrnod, ond gellir ei ymestyn unwaith, am uchafswm o 7 diwrnod.
Gorchmynion Gwahardd
Mae’r rhain yn galluogi’r gwaith o symud tramgwyddwr o’r cartref, yn hytrach na bod y plentyn yn cael ei symud. Gellir eu defnyddio ochr yn ochr â Gorchymyn Amddiffyn Brys.
Pwerau Amddiffyn yr Heddlu
Gellir defnyddio Pwerau Amddiffyn yr Heddlu heb gyfeirio at Lys ac fe’u defnyddir yn unig mewn sefyllfaoedd o argyfwng pan fyddai oedi wrth gael Gorchymyn Amddiffyn Brys yn rhoi’r plentyn mewn perygl. Mae Pwerau Amddiffyn yr Heddlu yn para hyd at 72 awr.
Yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn cael ei ganfod ynddo (yr awdurdod cyntaf) sy’n gyfrifol am gymryd camau brys. Dylai’r Gwasanaethau cymdeithasol wneud cais i’r llys am Orchymyn Amddiffyn Brys. Ni ddylai’r Gwasanaethau cymdeithasol geisio defnyddio Pwerau Amddiffyn yr Heddlu i’r diben hwn. Mae hyn wedi’i seilio ar yr egwyddor mai dim ond llys ddylai benderfynu ar symud plentyn o gartref.
Dylid cael cyngor cyfreithiol parthed unrhyw ystyriaeth o geisiadau am Orchmynion Amddiffyn Brys. Os yw’r plentyn yn destun [Gorchymyn Gofal]](#tooltip) gan awdurdod lleol arall, neu’n destun cofrestriad amddiffyn plant, dylai trafodaethau ddigwydd gyda’r ddau awdurdod ar unwaith. Mae angen dod i gytundeb ar sut mae camau gweithredu’n digwydd, a phwy sy’n gyfrifol.
Lle mae Gorchymyn Amddiffyn Brys yn berthnasol, bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu yn unol ag amodau’r Gorchymyn.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o sefyllfaoedd pan ddylid ystyried Gorchymyn Amddiffyn Brys:
Dylid ystyried anghenion plant eraill neu oedolion y mae perygl o bosib i’w bywydau, neu o niwed difrifol.
Gellir hefyd ofyn i’r Llys ychwanegu gofyniad am archwiliad meddygol fel cyfarwyddyd, gan nad yw Gorchymyn Amddiffyn Brys yn cynnwys cyfarwyddyd awtomatig yn achos hyn.
Os yw’r gwrthodiad yn ymwneud ag archwiliad a/neu driniaeth feddygol, dylid ymgynghori â’r paediatregydd i weld a yw Gorchymyn Amddiffyn Brys gyda chyfarwyddyd yn ofynnol, neu, os nad oes perygl i fywyd a/neu niwed sylweddol, a yw Gorchymyn Asesu Plentyn (gweler isod) o bosib yn fwy priodol.
Efallai byddai Gorchymyn Gwahardd yn briodol gan ddefnyddio ystod o bwerau dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, sy’n galluogi’r gwaith o symud tramgwyddwr o’r cartref, yn hytrach na symud y plentyn.
Er mwyn i’r llys gynnwys gofyniad am waharddiad mewn gorchymyn, fel y Gorchymyn Amddiffyn Brys, rhaid iddo fod yn fodlon:
Mae gan yr heddlu Bwerau Amddiffyn i symud plentyn i fan diogel, pan fo ganddynt sail resymol i gredu ei fod ef/hi mewn perygl o niwed sylweddol o dan adran 46 Deddf Plant 1989
Mae hyn yn galluogi’r heddlu i:
Dim ond gan yr heddlu mae’r awdurdod statudol i ddefnyddio grym rhesymol i fynd i mewn i safle. Rhaid i’r heddlu felly fod yn rhan o’r gwaith o drafod strategaethau mewn cysylltiad ag unrhyw sefyllfa lle gwrthodwyd mynediad at blentyn.
Ni ddylai’r heddlu ddefnyddio eu Pwerau Amddiffyn oni bai bod hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Arolygydd neu swyddog ar raddfa uwch, a bod y plentyn wedi cael ei weld gan swyddog o’r heddlu sydd wedi barnu bod/y bydd y plentyn o fewn dim i fod mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol oni bai bod yr heddlu yn ei symud ar unwaith. Gallai fod achosion lle mae’n rhaid i’r swyddog sy’n mynychu ddefnyddio ei Bwerau Amddiffyn lle nad oes Arolygydd ar gael yn rhwydd i awdurdodi’r defnydd o’r pwerau. Dan yr amgylchiadau hyn, rhaid gofyn am awdurdod ôl-weithredol cyn gynted ag y caiff y plentyn ei symud.
Os oes rhaid i’r heddlu ddefnyddio eu Pwerau Amddiffyn, dylid cynnal cyfarfod/trafodaeth strategaeth cyn gynted a bo hynny’n ymarferol, ac yn sicr o fewn un diwrnod gwaith, a bod penderfyniad wedi’i wneud p’un a ddylai’r Awdurdod lleol wneud cais am orchymyn ychwanegol ai peidio.
Rhaid gofyn am gyngor cyfreithiol, a dylai’r penderfyniad a wneir, ynghyd a’r rhesymau drostynt, gael eu cofnodi a bodloni gofynion ac egwyddorion Deddf Plant 1989. Dylid ystyried yr holl wybodaeth o’r ymholiadau presennol, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth hanesyddol.
Awgrymiadau Ymarfer:Ymateb Ymaferwyr Wrthwynebiad ac Ymosodiad