Rhannu Cymraeg English

Ymgysylltu â’r plentyn a’r teulu yn ystod y gwiriadau a thrafodaethau cychwynnol

Adref 3 rhan 1

Mae ymgysylltu â rhieni a/neu ofalwyr o ddechrau’r broses ddiogelu yn fwy tebygol o greu perthynas waith gynhyrchiol sy’n arwain at ganlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Gweld y plentyn

Dan yr amgylchiadau canlynol rhaid i’r plentyn gael ei weld yr un diwrnod:

  • adroddir bod y plentyn wedi’i anafu’n gorfforol;
  • mae’r plentyn wedi datgelu ei fod wedi’i gam-drin yn gorfforol a/neu rywiol, a’i fod i’w ddychwelyd i sefyllfa allai ei roi ef/hi mewn perygl (dan yr amgylchiadau hyn mae’n bwysig bod y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu yn cytuno pa un a ddylid dychwelyd y plentyn adref. Mae’n hanfodol bod y plentyn yn cael ei ddiogelu rhag niwed ac y diogelir integriti unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu);
  • mae’r plentyn eisoes yn destun cynllun amddiffyn plant;
  • mae’r plentyn yn dioddef esgeulustod difrifol neu risg iechyd difrifol arall;
  • yn blentyn sydd wedi’i adael ar ei ben ei hun.

O.N. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Pan nad yw’r plentyn yn cael ei weld ar yr un diwrnod, rhaid cofnodi’r rhesymau a’r penderfyniadau mewn perthynas â hyn.

Rhoi gwybod i’r plentyn a’r teulu am yr hysbysebiad

Mae’n arfer da i rieni a phlant gael gwybod am hysbysebiad gan y sawl sydd wedi’i wneud, a’i ddilyn i fyny gan y sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad, oni bai bod penderfyniad wedi’i wneud y byddai hyn yn rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed.

Pan fo rhesymau dros beidio â rhoi gwybod i rieni h.y. gellid rhoi’r plentyn mewn perygl; amharu ar ymchwiliad heddlu, ni ddylid rhoi gwybod iddynt. Dylid cofnodi’r penderfyniad a’r rhesymau am hyn.

Fel arfer bydd rheolwr â chyfrifoldeb am reoli hysbysebiad au i’r gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu a ddylid rhoi gwybod i’r rhieni ar adeg gwneud yr hysbysebiad.

Dylai diogelu a hybu lles y plentyn fod goruwch popeth arall. Felly mae’n bosib na fydd y gwasanaethau cymdeithasol na’r heddlu yn penderfynu dweud wrth y teulu:

  • os yw’r Heddlu a/neu’r gwasanaethau cymdeithasol angen siarad â phlentyn yr amheuir ei fod yn dioddef, heb yn wybod i’r rhiant neu’r gofalwr:
er enghraifft, amheuir y fam o gam-drin ei mab yn rhywiol, ac y bydd yn mynd i guddio os gwneir hi’n ymwybodol o’r hysbysebiad
  • y posibilrwydd o fygythiadau neu orfodaeth;
er enghraifft, os yw’r rhiant eisoes wedi ymddwyn yn ddifrïol yn gorfforol wrth y sawl wnaeth yr hysbysebiad , pan gafodd wybod am yr hysbysebiad a fwriedir, a’i fod wedi bygwth mynd â’r plentyn i ffwrdd os oes ymchwiliad i’r hysbysebiad
  • os oes pryderon am golli tystiolaeth bwysig;
er enghraifft, mae rhiant yn debygol o dynnu dillad gwely ac ati os caiff wybod am hysbysebiad o gam-drin rhywiol o fewn y cartref
  • os yw’r plentyn yn dymuno i’r rhiant beidio â chael gwybod a bod y plentyn yn cael ei ystyried yn “Gillick Gymwys” i wneud y penderfyniad hwnnw (diffiniad o Gymhwysedd Gillick)
er enghraifft, mae’r plentyn yn poeni y bydd ei riant yn ymosodol tuag ato os yw’n gwybod bod y plentyn wedi cytuno i ddatgelu camdriniaeth neu esgeulustod

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Ymateb Cyntaf Rhieni i Hysbysebiad

Rhoi gwybod i’r teulu am y penderfyniad cychwynnol

Yn dilyn y penderfyniad cychwynnol:

  • dylid rhoi gwybod i’r plentyn a’r teulu beth yw canlyniad unrhyw hysbysebiad bob amser, beth bynnag fo’r canlyniad;
  • dylid cytuno’n eglur sut fydd y teulu yn cael gwybod, a phwy fydd yn gyfrifol am hyn, hyd yn oed os mai peidio gweithredu yw’r penderfyniad;
  • dylid cadarnhau’r wybodaeth yn ysgrifenedig i’r asiantaeth sy’n adrodd, a’r teulu fel sy’n briodol;
  • dylid ystyried unrhyw gyfathrebu, ethnigrwydd neu ffactorau diwylliannol a allai effeithio ar y ffordd y rhoddir gwybodaeth i’r teulu. Er enghraifft, os oes angen cyfieithydd.

Bydd angen gwybodaeth wahanol ar deuluoedd yn dibynnu ar ganlyniadau’r gwiriadau cychwynnol.

Rhoi gwybod i’r teulu am dechrau ymholiadau adran 47 dan y Ddeddf Plant

Gwybodaeth i’r teulu os oes rheswm rhesymol dros amau fod y plentyn yn wynebu niwed sylweddol:

  • esboniad pam bod achos rhesymol dros amau bod plentyn yn wynebu camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu mewn perygl o hynny, a bod ymholiadau’n cael eu cychwyn dan adran 47 Deddf Plant 1989

Manylion:

  • unrhyw gamau amddiffyn a chamau gweithredu brys sy’n digwydd;
  • unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu sy’n digwydd ochr yn ochr ag ymholiadau adran s47 (os yw’r sefyllfa’n galluogi hyn);
  • y camau nesaf: cyfarfod strategaeth ac asesu.