Rhannu Cymraeg English

Y drafodaeth/cyfarfod strategaeth

Adref 3 rhan 1

Os yw’r gwiriadau cychwynnol, yn dilyn hysbysebiad , yn dod i’r casgliad bod gan y wasanaethau cymdeithasol achos rhesymol i amau bod plentyn mewn perygl o niwed sylweddol fel y disgrifir yn Neddf Plant 1989, dylent drefnu cynnal trafodaeth/cyfarfod strategaeth i benderfynu a oes angen rhoi ymholiadau adran 47 ar waith, ynghyd â’r ffordd orau i’w cynnal.

Diben y drafodaeth/cyfarfod

Diben y drafodaeth/cyfarfod strategaeth yw:

Gweler Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan

Cyfarfod neu drafodaeth strategaeth?

Mae cyfarfod strategaeth wyneb yn wyneb yn debygol o fod yn fwy effeithiol na sgwrs dros y ffôn dan yr amgylchiadau canlynol:

Gallai’r drafodaeth ddigwydd mewn cyfarfod neu drwy ddefnyddio cyfrwng arall megis dros y ffôn neu drwy fideo-gynadledda.

Nid oes unrhyw ganllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru o ran pryd y dylid cynnal trafodaeth strategaeth dros y ffôn neu’n wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, dylid rhoi ystyriaeth i’r cwestiynau canlynol:

Awgrymiadau Ymarfer: Trafodaethau neu Gyfarfodydd ar Strategaeth a’r Goblygiadau o ran Arfer sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn

Amserlenni

Mae’n bosib y bydd amgylchiadau eithriadol pan nad yw er lles y plentyn i weithio ar sail yr amserlenni uchod. Er enghraifft, achosion cymhleth fel salwch sydd wedi’i ffugio neu ei achosi; amheuaeth o gamdriniaeth wedi’i threfnu. Y rheolwr sy’n gyfrifol am ddiogelu ddylai wneud unrhyw benderfyniad a’i gofnodi.

flowchart2_cymraeg

Siart llif 2 Ymdrin ag achosion unigol

Cyfranogiad aml-asiantaeth mewn trafodaethau/cyfarfodydd strategaeth

Ar y lleiaf, dylai’r ymarferwyr priodol â chyfrifoldeb dros amddiffyn plant yn yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol fod ynghlwm. Dylai ymarferwyr eraill gyfrannu yn ôl y gofyn:

Cadeirio

Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol ddylai gadeirio’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth, sydd meddu ar yr awdurdod a’r arbenigedd i gadeirio’r cyfarfodydd hyn – caiff hyn ei benderfynu drwy drefniadau lleol yn gyffredinol.

Dylai’r cadeirydd:

Cofnodi’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth a’r penderfyniadau

Rhaid cadw cofnod o’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth a’i gadw yn nodiadau achos pob plentyn. Ar y lleiaf, dylai’r gwaith cofnodi gynnwys:

Rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhannu, yr holl benderfyniadau a wnaed, a’r sail i’r penderfyniadau hynny, gael eu cofnodi’n glir a’u dosbarthu o fewn un diwrnod gwaith i’r holl bartïon sy’n berthnasol i’r drafodaeth. Mae’n bwysig bod ymarferwyr y pennwyd tasgau iddynt yn y drafodaeth/cyfarfod yn eu deall yn glir ac yn gallu rhoi’r camau gweithredu cysylltiedig ar waith heb orfod aros i dderbyn y cofnod.

Cyfarfodydd/trafodaethau strategaeth pellach/ychwanegol

Gallai mwy nag un cyfarfod/trafodaeth strategaeth fod yn addas, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos. Felly mae’n bwysig bod y gwasanaethau cymdeithasol ac, os yw’n ymchwiliad ar y cyd, yr heddlu yn penderfynu a oes angen aildrefnu cyfarfod/trafodaeth strategaeth i:

Anghytundebau rhwng ymarferwyr

Os yw ymarferydd yn anghytuno â phenderfyniad gan y cyfarfod/trafodaeth strategaeth, dylai drafod hynny gyda’i reolwr llinell. Dylid ystyried defnyddio Protocolau Datrys Anghydfod y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.

Materion yn ymwneud a ffiniau awdurdodau lleol

Pan fydd hysbysebiad o gamdriniaeth bosib neu esgeulustod yn dod i law gan/am blentyn nad yw’n byw yn ardal ei awdurdod lleol, bydd y cyfarfod/trafodaeth strategaeth yn cael ei chynnall gan yr awdurdod lle canfyddir y plentyn.

Er enghraifft: gwneir yr hysbysebiad pan fydd y plentyn ar wyliau neu’n aros gyda pherthynas yn yr ardal. Yr awdurdod lleol yn yr ardal honno sy’n gyfrifol am alw am drafodaeth/cyfarfod strategaeth.

Dylid rhoi gwybod i’r rheolwyr Gwasanaethau cymdeithasol am yr hysbysebiad heb oedi, a dylid trefnu’r cyfarfod strategaeth (neu’r drafodaeth, pan fydd cyfyngiadau fel pellter) i roi cyfle i gynrychiolydd o’r awdurdod gwreiddiol fynychu, ynghyd â’r awdurdod lle honnir i’r digwyddiad ddigwydd.

Bydd y cyfarfodydd strategaeth yn penderfynu:

Dylid cofnodi’n glir y penderfyniad a’r rheswm drosto, a’i wneud er mwyn amddiffyn y plentyn.

Ymholiadau gan asiantaethau sengl

Yn ystod y cyfarfod/trafodaeth strategaeth cychwynnol bydd yr heddlu a’r Gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu p’un ai a ddylid gwneud ymholiad gan un asiantaeth neu ar y cyd. Ni ddylid fyth cynnal ymholiadau/ymchwiliadau ar wahân neu’n ddigyswllt. Dylai’r penderfyniadau hyn ddilyn protocolau a gytunwyd rhwng y ddau wasanaeth a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Dylid cofnodi’n ofalus y rheswm dros benderfynu mai un asiantaeth fydd yn gwneud ymholiadau. Os ar unrhyw adeg yn ystod ymholiad gan un asiantaeth, ei bod yn dod yn amlwg bod meini prawf ymholiad ar y cyd yn cael eu bodloni, dylid cysylltu’n syth â’r asiantaeth arall er mwyn trefnu cyfarfod/trafodaeth strategaeth bellach.

Enghraifft: Mae Bethan sy’n 3 oed yn unig blentyn ac mae wedi bod yn destun cynllun gofal a chymorth ers tri mis. Bu farw ei mam 12 mis yn ôl, ac mae ei thad sy’n unig riant wedi ei chael hi’n anodd dangos unrhyw emosiwn tuag at Bethan ers hynny. Er enghraifft, nid yw erioed wedi dangos emosiwn corfforol tuag at Bethan pan mae’n ei gollwng yn y feithrinfa ac yn ei chasglu oddi yno. Yn ogystal, mae Bethan yn ofni cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau lle gallai faeddu gan fod ‘Dadi’n mynd yn flin’.

Er gwaetha’r pecyn gofal a chymorth, oedd yn canolbwyntio ar gwnsela ar ôl profedigaeth a datblygu cyswllt rhwng y tad a’r ferch, mae’n ymddangos mai ychydig o gynnydd a wnaed. Yn wir, mae’r gweithiwr cymdeithasola staff y feithrinfa yn credu bod y sefyllfa wedi gwaethygu. Mae Bethan wedi awgrymu ei bod yn bwyta prydau bwyd ar ei phen ei hun ac yn cael ei gadael i chwarae yn ei hystafell neu ar ei llechen pan fydd hi gartref gyda Dadi. Mae wedi dechrau gwlychu a baeddu ei hun ac wedi dechrau ymwrthod rhag gadael y feithrinfa ar ddiwedd y dydd, gan weiddi bod Dadi yn ei chasáu a’i bod am aros gyda Mrs Grant, ei hathrawes yn y feithrinfa. Mae tad Bethan wedi dweud wrth y gweithiwr cymdeithasolnad yw’n gallu ymdopi a’i fod yn ystyried ei rhoi i gael ei mabwysiadu gan ei fod yn sylwi ei fod yn dal dig wrthi fwy a mwy.

Mae’r gweithiwr cymdeithasol, sy’n rheoli’r cynllun gofal a chymorth yn trafod hyn gyda’r feithrinfa, ac yn ystyried bod Bethan yn ddioddef niwed sylweddol. Mae’n rhoi gwybod i’r tad o’i bwriad i ofyn am gyfarfod strategaeth i roi Ymholiadau adran s47 ar waith. Mae’r Gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu cynnal cyfarfod strategaeth i ystyried dechrau Ymholiadau adran s47 gan fod tystiolaeth hyd yma’n awgrymu bod Bethan yn wynebu niwed sylweddol. Er enghraifft, yn achos Bethan uchod, ar yr adeg hon nid yw’n ymddangos bod trosedd wedi’i chyflawni. Penderfynir y dylai’r Gwasanaethau cymdeithasol fwrw ymlaen gyda’r ymholiadau heb yr heddlu. Fodd bynnag, wrth i wybodaeth gael ei chasglu mae’n dod i’r amlwg bod tad Maisie wedi bod yn ei gadael yn y tŷ ar ei phen ei hun am gyfnodau hir gyda’r nos ac ar y penwythnosau. Mae hyn yn gyfystyr ag esgeulustod bwriadol a chysylltir â’r heddlu i ofyn a ddylai hyn nawr fod yn ymchwiliad ar y cyd.