Rhannu Cymraeg English

Y Gofrestr Amddiffyn Plant

Adref 3 rhan 2

Mae’r gofrestr amddiffyn plant yn rhestru’r holl blant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n dioddef neu sy’n debygol o ddioddef niwed sylweddol ac sy’n destun [cynllun diogelu gofal a chymorth] ar hyn o bryd. Rhoddir enw’r plentyn ar y gofrestr er mwyn: hysbysu’r holl ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlentyn o’i risg o niwed; cadarnhau bod cynllun diogelu gofal a chymorth ar waith er amddiffyniad y plentyn a bod angen cydymffurfio ag ef; bod gweithiwr cymdeithasol ynghyd â grŵp craidd o ymarferwyr yn gweithio gyda’r plentyn a’r teulu.

Rhoi enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant

Dylid cofnodi bod plant a phobl ifanc yn wynebu risg parhaus o gam-drin, esgeulustod neu niwed dan un, neu fwy, o’r categorïau canlynol. Yr ymarferydd yn y gynhadledd amddiffyn plant a wna’r penderfyniad o ran pa gategori sy’n berthnasol. Y categorïau yw

Awgrymiadau Ymarfer: Arwyddion a Dangosyddion Cam-drin Posibl, Esgeulustod a Niwed Mewn Plentyn

Dylai’r categori, neu’r cyfuniad o gategorïau a ddefnyddir wrth gofrestru:

  • ddangos i’r rheiny sy’n cynghori’r gofrestr y prif bryderon a gyflwynir ar adeg y cofrestriad;
  • adlewyrchu’r holl wybodaeth/tystiolaeth a gafwyd drwy gydol yr ymholiadau a47 a’r dadansoddiadau dilynol, ac ni ddylai ymwneud ag un neu fwy o ddigwyddiadau o gam-drin yn unig
  • bod yn benodol i bob plentyn yn y teulu a gaiff ei roi ar y gofrestr.

Rhoddir enw’r plentyn ar y gofrestr er mwyn:

  • rhybuddio’r holl ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlentyn o’i berygl o niwed;
  • cadarnhau bod cynllun gofal, cymorth ac amddiffyn y plentyn ar waith a rhaid cydymffurfio ag e
  • bod gweithiwr cymdeithasol a grŵp craidd o ymarferwyr yn gweithio gyda’r plentyn a’r teulu.

Mae dyletswydd ar ymarferwyr i roi gwybod i’r gweithiwr cymdeithasol am ddigwyddiadau arwyddocaol neu newidiadau mewn amgylchedd sy’n berthnasol i’r plentyn.

Awgrymiadau Ymarfer: Gwneud penderfyniad ynglŷn â chofrestru a’r angen am gynllun

Goblygiadau rhoi enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant

Rhoddir enw’r plentyn ar y gofrestr er mwyn:

  • rhybuddio’r holl ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlentyn o’i berygl o niwed;
  • Cadarnhau bod cynllun amddiffyn gofal a chymorth y plentyn ar waith a rhaid cydymffurfio ag e;
  • bod gweithiwr cymdeithasol a grŵp craidd o ymarferwyr yn gweithio gyda’r plentyn a’r teulu.

Ni ddylai’r ffaith bod plentyn ar y gofrestr ac yn destun cynllun amddiffyn gofal a chymorth rwystro unrhyw un rhag codi pryderon â’r gwasanaethau cymdeithasol neu'r heddlu.

Rhaid i adroddiadau (cyfeiriadau) newydd gael eu gwneud gan ddilyn y llwybrau adrodd/atgyfeirio lleol.

Plant sy’n derbyn gofal a chofrestru

Pan fo plentyn sy’n derbyn gofal yn destun cynhadledd amddiffyn plant/cynhadledd adolygu, yr egwyddor flaenaf yw bod systemau a chynlluniau’n cael eu hintegreiddio a’u monitro’n ofalus mewn ffordd sy’n hyrwyddo agwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae’n bwysig cysylltu amseru cynhadledd adolygu’r cynllun amddiffyn â’r adolygiad dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru)2015 i sicrhau bod gwybodaeth o’r gynhadledd honno’n cael ei chyflwyno yn y cyfarfod adolygu ac yn llywio’r broses gynllunio gofal gyffredinol. Dylid ei gofio.

Cael mynediad i’r gofrestr

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gofnodi pan fydd enw plentyn yn cael ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant ac yn destun cynllun amddiffyn gofal a chymorth.

Rhaid i’r heddlu, ymarferwyr iechyd, addysg a’r holl asiantaethau perthnasol eraill allu gweld y wybodaeth hon yn ystod a’r tu allan i oriau swyddfa.