Rhannu Cymraeg English

Cynnwys plant yn y gynhadledd

Adref 3 rhan 2

Er mwyn sicrhau ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn, dylai llais y plentyn gael ei chlywed bob tro yn y gynhadledd. Mae hyn yn golygu deall ei brofiadau bob dydd, ei ddyheadau a’i deimladau.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall nad yw presenoldeb yn y gynhadledd yn cyfrif fel cyfranogiad ynddo’i hun na fel rhoi llais i’r plentyn.

Mae sawl ffordd y gellir rhoi llais i’r plentyn yn ystod y gynhadledd:

  • cynnig rhagweithiol o eiriolaeth gan Eiriolwr Annibynnol Proffesiynol. Mae gan blant sy’n derbyn gofal a gan y rhai sy’n destun ymholiadau amddiffyn plant a arweinir at gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol yr hawl i fanteisio ar y cynnig hwn. Gall yr eiriolwr fod yn bresennol gyda’r plentyn a/neu ar ei ran (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rhan 10, Y Llys Gwarchod).
  • Cymryd rhan drwy ddod i’r gynhadledd, cyhyd â bod gan y plentyn y capasiti i elwa ar fod yn bresennol.
  • Paratoi sylwadau i’w cyfrannu yn ystod y gynhadledd. Dylid rhoi cymorth i’r plentyn wrth wneud hyn, os oes angen. Gall hyn fod yn ddull addas os bydd y profiad o fynd i’r gynhadledd yn debygol o fod yn niweidiol i’r plentyn oherwydd ei oedran, dealltwriaeth neu oherwydd y wybodaeth fydd yn cael ei datgelu.

Dylid dewis dull, ar y cyd â’r plentyn, sy’n ei alluogi i gael profiad cadarnhaol.

Rôl y cadeirydd a’r gweithiwr cymdeithasol

Er mwyn ei helpu i fod yn rhan o broses y gynhadledd, mae rôl y cadeirydd a’r gweithiwr cymdeithasol yn hollbwysig.

  • Dylai’r gweithiwr cymdeithasol egluro diben y gynhadledd, y rheswm dros fod yn bresennol a’r broses i’r person ifanc, a cheisio ei farn ar sut mae am gymryd rhan;
  • dylid ei annog i ddod i’r gynhadledd drwy roi cyfle iddo ddod ag eiriolwr, cyfaill neu gefnogwr;
  • rhaid ystyried iaith ddewisol y plentyn, ei ddull dewisol o gyfathrebu neu unrhyw anghenion penodol eraill;
  • dylai cadeirydd y gynhadledd gwrdd â’r plentyn ymlaen llaw, yn yr ystafell gynadledda a chyn i bobl eraill gyrraedd. Dylai sicrhau bod y plentyn yn deall beth fydd yn digwydd yn y gynhadledd, sut gall gyfrannu a sut gall gwyno os yw’n dymuno gwneud hynny;
  • defnyddio iaith heb jargon a syml wrth siarad â’r plentyn;
  • dylai’r cadeirydd roi cyfle i’r plentyn drafod yn syth ar ôl y gynhadledd;
  • dylai’r gweithiwr cymdeithasol ymweld â’r plentyn o fewn 72 awr ar ôl y gynhadledd;
  • Os bydd plentyn yn anghytuno â phenderfyniadau’r gynhadledd, dylai gael y wybodaeth a’r cyngor sy’n addas i’w oedran a’i ddealltwriaeth ynglŷn â gweithdrefnau cwyno/apelio’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Ar ôl y gynhadledd

Rôl y cadeirydd

Gall fynd i gynhadledd fod yn brofiad pryderus a dryslyd i blentyn neu berson ifanc. Mae’n bwysig felly fod cyfle gan y plentyn, yn syth wedi’r gynhadledd, i drafod ei brofiad a’r canlyniad. Dylai’r cadeirydd roi cyfle i’r plentyn drafod yn syth ar ôl y gynhadledd. Er mai’r cadeirydd ddylai wneud hyn yn bennaf, gellir ei wneud yn fwy penodol i’r plentyn a chynnwys ymarferydd, cefnogwr neu eiriolwr y mae’r plentyn yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.

Ymweliad dilynol gan weithiwr cymdeithasol

Pan fydd y gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â’r plentyn ar ôl y gynhadledd, dylai fod yn gyfle i’r plentyn neu berson ifanc:

  • Holi cwestiynau a cheisio eglurhad;
  • Myfyrio ar y profiad o gymryd rhan yn y gynhadledd;
  • Deall y rhesymeg y tu ôl i’r cynllun a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni;
  • Dysgu am rolau a chyfrifoldebau y rhai fydd yn gweithio gyda’r teulu;
  • Trafod â’r gweithiwr sut hoffai rannu gwybodaeth am y newidiadau i’w profiadau fel y gall ymarferwyr fesur effeithiau’r cynllun;
  • Trafod y ffyrdd yr hoffent fod yn rhan o’r grŵp craidd.

Penderfynu p’un a fydd er budd gorau’r plentyn peidio â mynd i’r gynhadledd amddiffyn plant

Cyfrifoldeb cadeirydd y gynhadledd yw penderfynu a yw er lles gorau’r plentyn bod yn bresennol yn y gynhadledd. Dylai ystyried p’un a ddylai’r plentyn:

  • fod yn bresennol drwy gydol y gynhadledd
  • bod yn rhan o’r gynhadledd
  • peidio â bod yn y gynhadledd.

Wrth wneud y penderfyniad dylid ystyried y ffactorau canlynol:

  • Mae oedran cronolegol y plentyn ac oedran swyddogaethol y plentyn yn awgrymu na fydd modd i’r plentyn ddeall y broses na’r wybodaeth;
  • Mae ymddygiad y plentyn yn awgrymu y byddai’n debygol o darfu ar y gynhadledd i’r graddau na fydd y cyfarfod yn effeithiol;
  • Mae’r plentyn yn debygol o glywed gwybodaeth y gallai beri gofid iddo;
  • Nid yw’r rhiant na’r person â chyfrifoldeb rhianta yn cydsynio i’r plentyn fynd i’r gynhadledd. Nid yw’r ffaith bod rhiant neu ofalwr yn ddiystyriol o’r honiadau, yn ceisio lleihau effeithiau’r honiadau neu ddim yn gefnogol o’r plentyn/person ifanc yn rheswm i’r plentyn beidio â mynd i’r gynhadledd. Fodd bynnag, mae angen i’r cadeirydd ystyried ymddygiad yn y gynhadledd er mwyn sicrhau na fydd y plentyn yn destun gofid pellach. Gallai hyn gynnwys trefnu bod y plentyn a’r rheini yn mynd i’r gynhadledd ar wahân a chyfrannu at y gynhadledd yn absenoldeb y llall.

Os penderfynir na ddylai’r plentyn fyd yn bresennol yn y gynhadledd neu y dylai fod yn bresennol yn rhan o’r gynhadledd, dylai’r cadeirydd:

  • fod yn fodlon ar drefniadau i sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn yn cael eu cyflwyno i’r gynhadledd
  • ystyried a ddylai eiriolwr y plentyn fynd i’r gynhadledd a mynegi barn a dymuniadau’r plentyn ai peidio.
  • sicrhau y caiff y plentyn wybod am y canlyniadau;
  • sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â pheidio â mynd/mynd am ran o gynhadledd yn cael eu cofnodi ynghyd â’r rhesymau am hyn.

Awgrymiadau Ymarfer: Rhoi Llais i Blant a Phobl Ifanc yn y Gynhadledd

Awgrymiadau Ymarfer: Plant Anweladwy Rheoli Cynadleddau ar gyfer Grwpiau o Frodyr a Chwiorydd