Rhaid annog rhieni/gofalwyr yn rhagweithiol i fynd i gynhadledd amddiffyn plant bob tro, oherwydd dylai fod ganddynt gyfraniad sylweddol i’w wneud.
(Oni bai bod rhesymau penodol dros eu heithrio, gweler isod Penderfynu p’un a fydd er budd gorau’r plentyn i riant ddod i i’r gynhadledd amddiffyn plant.)
Mae partneriaeth waith effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, â rhieni ac aelodau’r teulu yn tanategu gallu’r ymarferwyr i fynd i’r afael ag anghenion amddiffyn gofal a chymorth y plentyn.
Er mwyn cyflawni’r berthynas hon, (Adran 3, rhan 1, ymgysylltu rhieni a gofalwyr mewn ymchwiliadau Adran 47), rhaid i ymarferwyr fod yn agored ac yn onest.
Felly rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol sy’n cychwyn y gynhadledd:
- roi gwybod i’r rhieni/gofalwyr am ganlyniad yr ymchwiliadau a47 a’r broses a ddilynir;
- sicrhau eu bod yn deall y broses, gan gynnwys:
- gofyniad a diben asesiadau ac adroddiadau amlasiantaeth;
- diben y gynhadledd;
- Sut mae’r gynhadledd yn mynd rhagddi;
- Eu cyfraniad;
- Presenoldeb yn y gynhadledd;
- Canlyniadau posibl.
Paratoi’r rhiant/gofalwr i gymryd rhan yn y gynhadledd
Rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol roi digon o waith paratoi i rieni/gofalwyr cyn y gynhadledd.
Y nod yw eu galluogi i gymryd rhan i’r graddau mwyaf posibl. Mae hyn yn cynnwys:
- rhoi gwahoddiad ysgrifenedig ac ar lafar i’r gynhadledd iddynt a thaflen sy’n egluro diben y gynhadledd a chofrestru, yn ogystal â’r daflen ynglŷn â chwynion;
- sicrhau eu bod yn deall y broses a’u rôl yn y broses honno. Gallai defnyddio eiriolwr helpu’r broses hon, yn enwedig pan fo cyfathrebu’n anodd;
- rhannu adroddiad y gynhadledd â rhieni ymlaen llaw cyn y gynhadledd a rhoi digon o amser iddynt ddarllen yr adroddiad a gofyn unrhyw gwestiynau, codi pwyntiau i egluro ac ati (gweler adroddiadau cynhadledd);
- helpu’r rhieni i baratoi ar gyfer y gynhadledd, er enghraifft, i wneud nodiadau ysgrifenedig o’r hyn byddant am ei ddweud, yn ogystal â chymorth ymarferol o ran gofal plant neu drafnidiaeth;
- annog rhieni i ddod â chyfaill, perthynas neu gefnogwr arall i’r gynhadledd, cyhyd â nad oes amheuaeth bod yr unigolyn hwnnw yn cam-drin neu mae’n hysbys ei fod yn cam-drin;
- rhaid i’r gwaith paratoi ystyried unrhyw ddymuniadau a theimladau y mae’r plentyn yn eu cyfleu;
- dylid rhoi cymorth ac arweiniad i rieni, gan eu gwneud yn ymwybodol y gellir gofyn iddynt adael y gynhadledd am gyfnod os oes rheswm dros rannu gwybodaeth na ddylent ei chlywed, oherwydd cyfrinachedd a diogelu data.
Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi Rhieni ar Gyfer Cynadleddau Amddiffyn Plant
Cefnogi rhieni neu ofalwyr i gymryd rhan yn y gynhadledd amddiffyn plant
Cofiwch nad yw bod yn bresennol yn gyfystyr â chymryd rhan.
Oni bai bod amgylchiadau sy’n golygu na ddylai rhieni fod yn bresennol, dylid annog rhieni/gofalwyr yn rhagweithiol ar bob adeg i fynd a chymryd rhan yn y gynhadledd am y rhesymau canlynol:
- bydd gan rieni/gofalwyr eu safbwynt eu hunain ynghylch y pryderon ac mae angen iddynt ddeall pam mae’r ymarferwyr yn credu bod y plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol;
- mae angen iddynt ddeall pam mae angen mynd i’r afael â’r anghenion amddiffyn gofal a chymorth er mwyn diogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant y plentyn/plant;
- dylent ddysgu pam mae asiantaethau ynghlwm wrth eu teulu a’u plant;
- mae gan rieni lais a gallant roi cipolwg o’r profiadau ac amgylchiadau’r teulu;
- mae ganddynt gyfle i gywiro unrhyw beth sy’n anghywir.
Dylai pob ymarferydd â chysylltiad wyneb yn wyneb â’r teulu gefnogi ac annog y rhieni i fynd i’r gynhadledd, oni bai bod rhesymau sy’n golygu bod angen i’r cadeirydd ystyried eithrio’r rhiant/rieni. Er enghraifft, yn rhan o amodau mechnïaeth y cyflawnwr honedig ni all gael cyswllt â’r rhiant arall neu mae gorchymyn atal yn ei erbyn.
Gellir hwyluso rhieni i fynd i’r gynhadledd drwy:
- Roi cymorth ariannol neu ymarferol o ran cludiant i’r gynhadledd;
- Trefnu cynnal y gynhadledd ar amser sy’n gyfleus o ran gofal plant neu gyfrifoldebau eraill;
- Dewis lleoliad sy’n hygyrch, a/neu y gallai gynnig gwasanaeth gwarchod plant er mwyn galluogi’r plentyn i gymryd rhan lawn yn y gynhadledd;
- Trefnu bod y plentyn a’r teulu yn gweld y lleoliad cyn y gynhadledd;
- Trefnu gwasanaeth cyfieithu a sicrhau y bodlonir unrhyw anghenion penodol eraill;
- Annog y rhiant/gofalwr i wahodd rhywun i’w gefnogi, a allai fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n aelod o sefydliad proffesiynol neu wirfoddol.
Os nad yw rhiant/gofalwr yn mynd i’r gynhadledd, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eu barn, dymuniadau a’u teimladau’n cael eu cynrychioli a’u cofnodi.
Gall eiriolwr helpu gyda hyn.
Yn union cyn y gynhadledd
Rhaid i gadeirydd y gynhadledd gwrdd â rhieni ymlaen llaw, yn ddelfrydol yn yr ystafell gynadledda cyn i’r bobl eraill sy’n dod i’r cyfarfod gyrraedd.
Dylai sicrhau bod rheini yn deall:
- diben y gynhadledd;
- sut caiff y cyfarfod ei gynnal
- y canlyniadau posibl;
- sut gallant gyfrannu;
- sut caiff y ffordd o gyfathrebu maent yn ei ffafrio ei defnyddio;
- pa mor bwysig yw ceisio eglurhad os nad ydynt yn deall terminoleg ac ati;
- sut gallant gwyno, os dymunant wneud hyn;
Yn union ar ôl y gynhadledd
Os bydd aelodau’r gynhadledd yn penderfynu rhoi enw’r plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant, dylai’r cadeirydd a’r gweithiwr cymdeithasol dreulio amser yn egluro’r canlynol:
- Yr hyn a olygir i’r plentyn fod yn destun cynllun amddiffyn gofal a chymorth;
- beth yw ystyr cofrestru plentyn i’w amddiffyn;
- Yr hyn y mae angen i’r rhiant/rhieni ei gyfrannu at y cynllun amddiffyn gofal a chymorth;
- Rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr eraill sydd wedi’u cynnwys yn y grŵp craidd;
- Sut mae grŵp craidd yn gweithredu;
- Sut byddant yn cymryd rhan yn y gwaith pellach o gynllunio gofal drwy’r grŵp craidd ac mewn cynhadledd adolygu.
Os bydd rhieni’n anghytuno â phenderfyniad y gynhadledd, dylid rhoi gwybod iddynt am weithdrefn gwyno a/neu apelio’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.
Gallai rhieni deimlo’n llawn emosiynau, yn bryderus ac yn ofidus ar ddiwedd y gynhadledd. Bydd y teimladau hyn yn effeithio ar eu gallu i wneud synnwyr o unrhyw wybodaeth a roddir iddynt ar yr adeg hon. Mae’n bwysig felly, er mwyn ymgysylltu â rhieni mewn modd ystyrlon, y treulir amser yn briffio’r rhiant/rhieni ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd a’u paratoi ar gyfer gweithio gyda’r grŵp craidd i lunio’r cynllun yn y diwrnodau yn syth ar ôl y gynhadledd.
Apwyntiadau dilynol
P’un a yw’r rhieni’n mynd i’r gynhadledd ai peidio, dylid anfon atynt y canlynol o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y gynhadledd.
Rôl y gweithiwr cymdeithasol
Dylai’r gweithiwr cymdeithasol drafod yr argymhellion â’r rhieni a’r plentyn i sicrhau eu bod yn deall y rhesymau dros y penderfyniad a’r goblygiadau. Gallai hyn arwain at drafodaeth ynglŷn â’r cynlluniau wrth gefn neu’r goblygiadau pe na chydymffurfir â’r cynllun amddiffyn plant neu os bydd yn aneffeithiol.
Rhannu cofnodion y gynhadledd â’r teulu
Dylid anfon cofnodion y gynhadledd amddiffyn plant at rieni hefyd, a lle bo’n briodol, at y plentyn, oni bai y gallai’r plentyn neu unrhyw berson arall fod yn gywnebu risg o ganlyniad.
Penderfyniad y cadeirydd fydd anfon y cofnodion ai peidio, a hynny mewn ymgynghoriad ag aelodau’r gynhadledd.
Maent yn penderfynu:
- pwy gaiff set lawn y cofnodion a
- phwy ddylai gael crynodeb er mwyn osgoi datgelu gwybodaeth sensitif.
Dylid cofnodi’r rhesymau dros beidio ag anfon cofnodion i aelodau perthnasol y teulu yn ofalus.
Penderfynu p’un a fydd er budd gorau’r plentyn i riant ddod i i’r gynhadledd amddiffyn plant
Dim ond mewn amgylchiadau prin iawn y dylid peidio â gwahodd rhiant neu ofalwr i ddod i’r gynhadledd amddiffyn plant.
Gall unrhyw ymarferydd wneud cais am eithrio rhiant/gofalwr o’r gynhadledd.
D.S. Rhaid i geisiadau am beidio â chynnwys rhieni yn y gynhadledd fod yn gysylltiedig â phroblemau yn ymwneud â risg i’r plentyn neu eraill, ac ni ellir ei ddefnyddio fel ffordd o beidio â rhannu gwybodaeth neu ofn o niweidio’r berthynas waith barhaus â’r rheini/gofalwyr.
Dylai’r ymarferydd:
- gyflwyno’r cais i gadeirydd y gynhadledd cyn gynted â phosibl.
- Ni ddylid aros tan ddiwrnod y gynhadledd i wneud y penderfyniad, a chadeirydd y gynhadledd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Dylai’r cadeirydd:
- drafod y cais â’r rheolwr asiantaeth perthnasol cyn penderfynu p’un a ddylid ei eithrio.
- gall y cadeirydd arfer ei ddisgresiwn mewn perthynas â gwahodd rhieni neu ofalwyr ai peidio ar gyfer rhan o’r gynhadledd neu’r gynhadledd gyfan, pan fydd un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn berthnasol:
- mae risg cryf y bydd aelod o’r teulu yn codi ofn ar y plentyn neu unrhyw un arall yn ystod neu ar ôl y gynhadledd;
- pan allai presenoldeb y rhiant/gofalwr darfu’n helaeth ar sut mae’r gynhadledd yn mynd rhagddi;
- pan fo honiadau yn gysylltiedig ag achos troseddol yn erbyn y rhiant sydd y troseddwr honedig ac yn bresennol. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith bod unigolyn wedi’i erlyn yn ei hun yn rheswm dros wahardd yr unigolyn hwnnw, a dylai’r cadeirydd geisio cyngor yr heddlu cyn gwneud y penderfyniad hwn;
- mae plant o oedran a dealltwriaeth ddigonol yn datgan nad ydynt am i’w rhieni/gofalwyr fod yn bresennol.
Os bydd angen eithrio person â chyfrifoldeb rhianta:
- mae ganddo’r hawl i wybod pam ei fod wedi’i eithrio, i ofyn i’r cadeirydd ailystyried y penderfyniad i’w eithrio, ac i ofyn am ymgynghoriad cyn ac ar ôl y gynhadledd;
- dylid rhoi’r cyfle iddo drafod y penderfyniad i’w eithrio â’r cadeirydd, ac i fynegi ei sylwadau i’r gynhadledd drwy ddulliau eraill;
- dylai’r cadeirydd sicrhau bod y gweithiwr cymdeithasol yn ceisio barn y rhiant a’i bod yn cael ei chyfleu yn ystod y gynhadledd;
- mae ganddo’r hawl i gael gwybod am y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ei fywyd teuluol;
- rhaid nodi’r rhesymau dros beidio â gwahodd rhieni i’r gynhadledd yn y cofnodion;
- mae penderfyniad y cadeirydd yn derfynol a chaiff ei wneud mewn amgylchiadau eithriadol, er y gellir wneud cwyn amdano;
- os nad yw’r rhieni’n cael eu gwahodd, neu os nad ydynt yn fodlon dod i’r gynhadledd, dylid nodi’r rhesymau yn y cofnodion.
Boddhau aelodau teulu: ystyriaethau
Er y dylid annog rhieni i ddod i’r cyfarfod, ni ddylai hyn fod ar draul y plentyn sy’n dymuno fod yn bresennol. Efallai na fydd hi bob tro’n bosibl boddhau holl aelodau’r teulu ar yr un pryd.
Er enghraifft:
- mae’n bosibl na fydd oedolion a phlant sy’n dymuno cyflwyno sylwadau i’r gynhadledd am siarad o flaen ei gilydd;
- mae’n bosibl y bydd angen rhannu gwybodaeth am deulu arall;
- mae yna wybodaeth sensitif dros ben arall, yn enwedig os yw un o’r rhieni yn droseddwr honedig.