Rhannu Cymraeg English

Paratoi adroddiadau ar gyfer cynhadledd

Adref 3 rhan 2

Wrth baratoi adroddiadau ar gyfer cynhadledd amddiffyn plant cychwynnol, mae’n bwysig i ymarferwyr fod yn ymwybodol o’r tasgau i’r gynhadledd, sef:

  1. gwneud synnwyr o’r wybodaeth a gafwyd gan y teulu ac ymarferwyr i nodi pryderon a chryfderau;
  2. defnyddio barn broffesiynol o ran a yw’r plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol.
  3. penderfynu p’un a ddylid rhoi’r plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant ac a oes angen cynllun amddiffyn gofal a chymorth arno.

Dylid canolbwyntio yn yr adroddiadau ar roi gwybodaeth berthnasol, gymesur gan alluogi cyfranogwyr i’r gynhadledd i gyflawni’r tasgau hyn.

Mae’n bwysig treulio rhan sylweddol o amser y gynhadledd ar dasgau’r gynhadledd yn hytrach nag ar rannu gwybodaeth.

Rhaid felly i gynrychiolwyr yr asiantaeth ddod i’r gynhadledd:

  • Gan ddisgwyl gorfod crynhoi eu hadroddiad a thynnu sylw at bwyntiau pwysig;
  • Dehongli, dadansoddi ac egluro’r wybodaeth er budd pawb arall sy’n mynd i’r gynhadledd;
  • Rhoi eu barn yn y gynhadledd, yn seiliedig ar y wybodaeth a rannwyd, ar a yw’r plentyn sy’n wynebu risg o niwed ac a ddylid rhoi ei enw ar y gofrestr amddiffyn plant.

Adroddiad y gweithiwr cymdeithasol

Dylai adroddiad y gweithiwr cymdeithasol:

Dylai’r adroddiad gynnwys:

  • Yr asesiad hyd yn hyn;
  • amserlen gronolegol o ddigwyddiadau arwyddocaol a’r cyswllt y mae’r ymarferydd wedi’i gael a’r plentyn a’r teulu, gan gynnwys;
  • rhestr o’r digwyddiadau a arweiniodd at y gynhadledd amddiffyn plant mewn trefn gronolegol;
  • dylid tynnu sylw at y meysydd sydd angen rhagor o wybodaeth;
  • (Adran 3 rhan 1 am wybodaeth am paratoi cronolegau.
  • agweddau arwyddocaol ar gyflwr presennol a blaenorol iechyd a datblygiad y plentyn;
  • adroddiad o’r ymholiadau adran 47 a disgrifiad cryno o ddigwyddiadau;
  • Gwybodaeth am gapasiti’r rhieni ac aelodau eraill y teulu i sicrhau bod y plentyn wedi’i ddiogelu rhag niwed, ac i annog iechyd a datblygiad y plentyn;
  • barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni ac aelodau eraill o’r teulu;
  • asesiad o’r perygl o niwed ac unrhyw gamau a gymerwyd;
  • dadansoddiad o oblygiadau’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer diogelwch, iechyd a datblygiad y plentyn yn y dyfodol;
  • argymhellion ynglŷn â gweithio gyda’r plentyn a’r teulu yn y dyfodol.

Rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol fod yn barod i roi crynodeb a dadansoddiad clir ar lafar i’r gynhadledd er mwyn helpu i benderfynu’r hyn sydd ei angen i amddiffyn y plentyn.

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi Adroddiad Gwaith Cymdeithasol ar gyfer Gynhadledd Plant Anweladwy

Cyfrannu adroddiadau gan ymarferwyr

Wrth baratoi adroddiadau dylai ymarferwyr:

  • sicrhau bod adroddiadau ysgrifenedig ar gael i’r cadeirydd 2 ddiwrnod gwaith cyn y gynhadledd
  • dod i’r gynhadledd gan ddisgwyl gorfod crynhoi eu hadroddiad a thynnu sylw at bwyntiau pwysig;
  • gwahaniaethu rhwng ffaith, arsylwad, cyhuddiad neu farn.
  • defnyddio holl feysydd y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd https://www.scie.org.uk/publications/introductionto/childrenssocialcare/waysofworking.asp wrth baratoi eu hadroddiadau.
  • tynnu sylw’r cadeirydd at unrhyw wybodaeth arbennig o sensitif neu gyfrinachol a/neu bryderon ynglŷn â thrais neu fygythiadau posibl.

Dylai’r adroddiad ysgrifenedig grynhoi’r wybodaeth ganlynol gan yr asiantaeth:

  • y wybodaeth sylfaenol am y plentyn a’r teulu;
  • cronoleg gyfredol;
  • ymgysylltiad â’r teulu. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion am ddata ffeithiol megis hanes imiwneiddio, mynychu clinigau, hanes o fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys a phresenoldeb yn yr ysgol;
  • cysylltiadau â’r teulu a’u perthynas ag aelodau gwahanol o’r teulu;
  • gwybodaeth am gysylltiadau â digwyddiadau presennol/testun pryder;
  • pryderon a godwyd yn y gorffennol, gyda phwy y cafodd y pryderon hyn eu rhannu a chan bwy;
  • pa mor aml y cafwyd cysylltiad â’r plentyn/teulu a’r dyddiad a welwyd y plentyn ddiwethaf;
  • asesiad o broblemau/cryfderau presennol y teulu a ffactorau risg i bob plentyn;
  • gwybodaeth am iechyd a datblygiad pob plentyn sy’n cael ei ystyried yn y gynhadledd;
  • barn ar allu’r rhieni i ddiogelu’r plentyn ac annog ei lesiant;
  • dylid cynnwys yn adroddiad yr asiantaeth wybodaeth berthnasol ynglŷn â’r gofalwr sy’n oedolyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fod ffactorau megis salwch meddwl, camddefnyddio alcohol neu sylweddau, a fydd yn effeithio ar allu’r oedolyn sy’n gofalu i ddiwallu anghenion y plentyn neu ei ddiogelu.

Adroddiadau iechyd

Os yw cyngor iechyd yn hanfodol i drafodaethau’r gynhadledd, dylid trefnu’r gynhadledd i sicrhau y gall y meddyg/meddygon neu’r paediatregydd ardal/cymuned sy’n archwilio’r plentyn ddod i’r gynhadledd.

Os, oherwydd amgylchiadau eithriadol, na all y meddyg fynd i’r gynhadledd, rhaid iddo gyflwyno adroddiad ysgrifenedig a dylai cadeirydd y gynhadledd ddarllen y canfyddiadau iechyd, yn llawn, i’r gynhadledd.

Dim ond ymarferydd iechyd ddylai gynnal unrhyw ddehongliad pellach o’r adroddiad, er y gall y gynhadledd, a dylai’r gynhadledd, edrych ar y graddau y mae unrhyw ddiagnosis yn eithrio unrhyw ffyrdd eraill o egluro’r cam-drin neu’r anafiadau posibl i’r plentyn.

Os nad yw’r gynhadledd yn glir o ran cynnwys neu ddehongliad yr adroddiad, dylai’r cadeirydd trefnu i geisio eglurhad.

Gellir trafod Adroddiadau Meddygol Amddiffyn Plant yn y cynadleddau, ond ni allant gael eu dosbarthu ynghyd ag adroddiadau’r gynhadledd a byddai’n arfer da crynhoi’r adroddiadau hyn. Disgwylir y bydd cynnwys yr Adroddiad Meddygol Amddiffyn Plant yn cael eu rhannu a’u trafod â’r teulu cyn y gynhadledd, p’un a all y meddyg fynd i’r gynhadledd ai peidio.

Ni ddylai unrhyw oedi effeithio’n negyddol ar ddiogelwch y plentyn.

Mewn achosion lle mae’r farn iechyd yn anghyson, dylai’r cadeirydd ofyn i’r meddygon sydd ynghlwm i adolygu eu canfyddiadau ar y cyd gan feddwl am les gorau’r plentyn. Os nad oes modd iddynt ddod i gytundeb, dylid gofyn iddynt egluro eu safbwyntiau gwahanol. Rhaid ystyried eu barn yng nghyd-destun y wybodaeth arall sydd ar gael. Os na ellir dod i ddatrysiad, mae’n bosibl y bydd angen comisiynu barn arbenigol arall i fwrw golwg dros y canfyddiadau iechyd er mwyn cynnig barn derfynol.

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi adroddiadau ar gyfer cynhadledd

Gwybodaeth benodol sy’n ofynnol gan asiantaethau gwahanol

Os caiff mwy nag un plentyn ei ystyried yn y gynhadledd, mae’n bwysig trin pob plentyn yn unigol ac ystyried effeithiau ffactorau gallu rhianta ac amgylchedd y teulu mewn perthynas â PHOB UN plentyn. Bydd gan bob plentyn adroddiad unigol.

Ymarferwyr Iechyd gan gynnwys CAMHS

Bydd ymarferwyr iechyd yn coladu’r holl wybodaeth Iechyd berthnasol. Dylent ddarparu cronolegau ac adroddiadau sy’n coladu’r holl wybodaeth iechyd berthnasol i’r ymarferydd hwnnw a gwneud cysylltiadau clir rhwng digwyddiadau a’u harwyddocâd i’r plentyn. Er enghraifft, goblygiadau’r plentyn yn methu sesiynau ffisiotherapi.

Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am yr oedolyn sy’n gofalu am y plentyn os yw’n berthnasol i’r ymholiad.

Dylid cyflwyno’r wybodaeth mewn modd y gall ymarferwyr nad ydynt yn ymwneud ag iechyd ei ddeall. Nid yw ‘mae’r plentyn ar bwysau canrannol o 93’ yn golygu llawer oni bai y nodir yn benodol bod y plentyn dros bwysau o gymharu â phwysau canrannol o 98 sy’n golygu bod y plentyn yn ordew.

Dylid cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rhieni a gofalwyr cyhyd â’i bod yn effeithio ar y gallu rhianta i ddarparu’n ddigonol ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant y plant.

Gallai fod amgylchiadau lle gwahoddir sawl gweithiwr iechyd proffesiynol i gyflwyno gwybodaeth.

Meddygon teulu

Rhaid eu gwahodd bob tro a rhaid iddynt ddarparu adroddiad ysgrifenedig. Dylai’r adroddiad hwn fod ar sail tystiolaeth, yn berthnasol ac yn ganolog i’r plentyn, gan nodi anghenion iechyd y plentyn a sut nad ydynt yn cael eu bodloni gan y rhiant neu’r gofalwr. Er enghraifft, gallai patrwm o achosion o haint yn y glust nad ydynt yn ymddangos eu bod yn ymateb i feddyginiaeth ddigwydd o ganlyniad i’r rhiant yn dweud wrth y meddyg teulu ei fod wedi ‘anghofio’ cwblhau’r cwrs. Dylai bob tro dderbyn copi o’r cofnodion a wnaed.

Ymarferwyr Addysg ac Ysgol

Dylai ymarferwyr addysg gyflwyno adroddiad ysgrifenedig sy’n cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol, presenoldeb yn yr ysgol, cyrhaeddiad ac ymgysylltiad y sawl sy’n gofalu am y plentyn. Rhaid iddynt roi sylw hefyd ar agweddau eraill ar ddatblygiad y plentyn, megis ei berthnasau cymdeithasol, ei ymddangosiad cymdeithasol, hunaniaeth, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol.

Heddlu

Rhaid i’r heddlu wirio cofnodion pob oedolyn sydd mewn cyswllt sylweddol â’r plentyn a gwirio cofnodion cam-drin domestig. Rhaid i’w adroddiad gynnwys yr holl euogfarnau blaenorol sy’n ymwneud â chyffuriau neu alcohol, trais gan gynnwys cam-drin domestig, troseddau rhywiol neu anonestrwydd, yn ogystal â manylion digwyddiadau eraill, rhybuddion neu wybodaeth a allai fod yn berthnasol, gan nodi sut mae’r troseddau yn debygol o effeithio ar ddiogelwch ac anghenion gofal a chymorth y plentyn.

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a chwmnïau adsefydlu cymunedol (CAC)

Byddant yn gwirio cofnodion gan gynnwys amodau trwyddedu a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi sut mae’r troseddau’n debygol o effeithio ar ddiogelwch ac anghenion gofal a chymorth y plentyn. Mae’n hollbwysig ystyried y rôl y mae’r gwasanaeth prawf yn ei chwarae wrth gefnogi’r broses hon yn ystod y camau cynharaf.

Gwasanaethau oedolion

Dylai ymarferwyr fod yn barod i adrodd ar eu hymgysylltiad â’r defnyddiwr gwasanaeth i oedolion ac unrhyw broblemau ynghylch yr oedolyn megis anabledd dysgu, trais domestig, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu bryderon iechyd meddwl a allai effeithio ar allu’r rhiant a’i gymhelliant i ateb anghenion diogelwch, gofal a chymorth y plentyn.

Cynrychiolwyr asiantaethau eraill

Byddant yn paratoi ac yn darparu adroddiadau ysgrifenedig fel sy’n briodol. Rhaid iddynt sicrhau bod yr adroddiadau’n canolbwyntio ar y plentyn ac ar y ffordd y mae eu gwybodaeth am ffactorau economaidd-gymdeithasol a gallu rhianta yn effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn.

Rhannau adroddiadau â’r teulu

Rhaid i bawb sy’n ysgrifennu adroddiad, o bob asiantaeth berthnasol, rannu, trafod ac egluro eu hadroddiadau â’r teuluoedd o leiaf un diwrnod cyn y gynhadledd. Dylent ddefnyddio dulliau o gyfathrebu sy’n addas i anghenion aelodau gwahanol o’r teulu.

Mae hyn yn sicrhau:

  • bod aelodau’r teulu yn ymwybodol o gynnwys yr adroddiad cyn y cyfarfod;
  • y gellir tynnu sylw at unrhyw beth nad yw’n ffeithiol gywir;
  • bod ganddynt amser i wneud synnwyr o gynnwys yr adroddiad.