Dylai fod gan blentyn y rhoddir ei enw ar y gofrestr amddiffyn plant mewn cynhadledd amddiffyn plant gychwynnol gynllun amddiffyn, gofal a chymorth. Yn unol ag a37 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 rhaid i’r awdurdod lleol fodloni anghenion gofal a chymorth plentyn er mwyn ei amddiffyn rhag:
Disgwylir i asiantaethau partner, yn unol â’u dyletswydd i gydweithredu, gynorthwyo’r awdurdod lleol yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun a’i roi ar waith.
Mae’r rhain yn berthnasol o ran y cynllun:
- Mae’n cael ei weithredu gan grŵp craidd o ymarferwyr sydd mewn cyswllt uniongyrchol â’r plentyn a’r teulu;
- Mae angen arno gwaith partneriaeth rhwng y grŵp craidd, y plentyn a’r teulu;
- Dylai gael ei adolygu a’i fonitro’n rheolaidd mewn cynadleddau adolygu a grwpiau craidd amddiffyn plant;
- Dylai ddilyn y gofynion a nodir dan adran 54 Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014
D.S. Yn adran hon y gweithdrefnau mae’r pwyslais ar elfennau’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth, sy’n ymwneud ag amddiffyn plentyn rhag niwed sylweddol neu risg o niwed o’r fath.
Nodau cynllun amddiffyn, gofal a chymorth
Nodau’r cynllun yw:
- sicrhau bod y plentyn yn ddiogel a’i atal rhag dioddef mwy o niwed sylweddol;
- hyrwyddo llesiant a datblygiad y plentyn;
- nodi deilliannau sydd eu hangen er mwyn amddiffyn y plentyn rhag niwed sylweddol: beth fyddem yn dymuno ei weld ar gyfer y plentyn iddo fod yn ddiogel yn y dyfodol;
- nodi anghenion datblygiadol y plentyn a pha wasanaethu sydd eu hangen er mwyn bodloni’r anghenion hynny;
- helpu’r teulu ac aelodau teulu ehangach i ddiogelu a hyrwyddo llesiant eu plentyn, ar yr amod bod gwneud hynny er budd gorau’r plentyn.
Cynnwys cynllun
Dylai’r cynllun:
- ddisgrifio’r risg a nodwyd o niwed sylweddol i anghenion y plentyn ac unrhyw wasanaethau cymorth/therapiwtig sydd eu hangen;
- nodi’r gwaith y mae angen ei wneud – pam, pryd a chan bwy;
- cynnwys canlyniadau penodol y gellir eu cyflawni sy’n canolbwyntio ar y plentyn er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn;
- cynnwys strategaethau realistig a chamau gweithredu penodol ar gyfer aelodau’r teulu ac ymarferwyr er mwyn cyflawni canlyniadau a gynlluniwyd;
- nodi’n glir rolau a chyfrifoldebau ymarferwyr ac aelodau’r teulu, gan gynnwys natur ac amlder cysylltiad ymarferwyr â phlant ac aelodau’r teulu;
- cytuno ar amserlenni i adolygu’r deilliannau a ddymunir sy’n canolbwyntio ar y plentyn, a’r modd y caiff cynnydd ei fesur;
- nodi’n glir rolau a chyfrifoldebau’r ymarferwyr hynny sydd mewn cysylltiad rheolaidd â’r plentyn, er enghraifft, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu ac athrawon, yn ogystal ag unrhyw gymorth targedig neu arbenigol y plentyn a’r teulu;
- cytuno ar gynlluniau wrth gefn os gwrthodir mynediad at y plentyn/cartref a/neu os nad yw’r cynllun yn amddiffyn y plentyn rhag niwed sylweddol.
Cynllunio sy’n canolbwyntio ar y plentyn
Dylai’r cynllun geisio sicrhau bod y plentyn yn ddiogel rhag niwed a bod ei anghenion datblygiadol yn cael eu bodloni.
- yr unig fesur llwyddiant yw gwellhad yn ansawdd bywyd bob dydd y plentyn;
- dylai fod gan bob plentyn yn y teulu ei gynllun ei hun sy’n cydnabod ei anghenion penodol ac yn mynd i’r afael â nhw.