Er nad oes amserlenni statudol yn gysylltiedig â’r gweithdrefnau hyn (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â phrosesau Rhan 3 ar gyfer oedolion sy’n wynebu risg/plant), dylai’r broses – o’r amser adrodd i’r canlyniad – ddigwydd mewn modd prydlon. Rydym wedi awgrymu amserlenni ar gyfer arferion da.
Dylid cynnal cyfarfodydd strategaeth Adran 5 pellach yn rheolaidd gan ystyried unrhyw ymchwiliadau cydamserol h.y. Troseddol, cyflogaeth.
Dylai cyflogwyr gyfathrebu’n rheolaidd â’r unigolyn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo.
Awgrymiadau Ymarfer: Siart Llif, Proses ac Amserlenni Arfer Da