At ddibenion y canllaw hwn, bydd dyletswydd i hysbysu wrth yr awdurdod lleol yn golygu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol y bydd ganddynt, ochr yn ochr â’r heddlu, rymoedd statudol i ymchwilio i amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Dylai hysbysuiad gael ei wneud os oes pryderon am oedolyn sy’n wynebu risg:
[Rhan 126 of the [eddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ](https://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/section/126)
Mae 'gwynebu risg’ yn golygu nad oes yn rhaid i gamdriniaeth neu esgeulustod fod wedi digwydd, yn hytrach, dylid ystyried ymyriadau cynnar i ddiogelu sy’n wynebu risgl o gael ei gam-drin er mwyn atal camdriniaeth ac esgeulustod go iawn.
Enghraifft: mae gweithiwr gofal yn y cartref wedi dod yn ymwybodol fod perthynas i oedolyn y mae hi’n gweithio ag ef wedi symud i’r cartref gan ei fod yn ddigartref ei hun. Er nad oes tystiolaeth fod camdriniaeth wedi digwydd, mae’r gweithiwr gofal wedi sylwi bod yr oedolyn nawr i’w weld yn bryderus ac yn nerfus ac yn awyddus i beidio â phechu’r perthynas. Mae dyletswydd i hybsysu ar y gweithiwr gofal, oherwydd bod ganddo achos rhesymol dros amau bod yr oedolyn yn gwynebu risg.
Os yw unrhyw berson yn gwybod am, yn bryderus neu’n amau bod plentyn neu oedolyn yn dioddef, wedi dioddef neu’n debygol o fod mewn perygl o gael ei gam-drin, mae’n gyfrifoldeb arno i sicrhau ei fod yn cyfeirio’r pryderon at y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu y mae ganddynt ddyletswyddau a phwerau statudol i wneud ymholiadau ac ymyrryd pan fo angen.
NID YW HWN YN FATER O DDEWIS PERSONOLE
Adran 1:Diffiniadau o oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod
Awgrymiadau Ymarfer: (Adran 1) Arwyddion a Dangosyddion o Gamdriniaeth ac Esgeulustod