Rhannu Cymraeg English

Adnabod oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod

Adref 2

Mae diffiniadau’r risg a amlinellir yn adran 1 a'r arwyddion a dangosyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod posibl yn Awgrymiadau ar gyfer Ymarfer adran 1.

Awgrymiadau ar gyfer Ymarfer: Rhwystrau Posibl Rhag Cydnabod ac HysbysuHysbysu am Gamdriniaeth ac Esgeulustod

Gofynion Tystiolaeth

Gall tystiolaeth o gamdriniaeth fod yn ‘bryderon’ yn hytrach na ‘ffeithiau hysbys’ oherwydd na fyddai tystiolaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod yn bresennol bob tro.

Fel arall, gallai ‘pryderon’ fod ar sail gwybodaeth a ddaw o amrywiaeth o ffynonellau neu gallant gronni dros amser.

Enghraifft: gallai pryderon bod preswylydd mewn cartref henoed yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso ddod o gronfa o wybodaeth a geir gan yr unigolyn, aelod o’r teulu, gwirfoddolwyr a staff cysylltiedig. Mae dyletswydd i hysbysu.

Dylai ymarferwyr hefyd gofio ei bod yn bosibl na fydd y pryderon, ar eu pen eu hunain, yn ymddangos yn arwyddocaol. Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r rhai a ddaw gan asiantaethau a ffynonellau eraill, gallant greu darlun sy’n awgrymu bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

Enghraifft: mae meddyg teulu’n gweld claf hŷn â demensia nad yw’n ymddangos ei fod yn ymateb i driniaeth ar gyfer briwiau coesau. Ond er bod gofalwr y claf, sy’n aelod o’r teulu, yn rhoi sicrwydd i’r meddyg fod y driniaeth a roddwyd yn cael ei dilyn, mae’r meddyg teulu’n cwestiynu a yw hyn yn digwydd. Mae’n ymgynghori’n gyntaf â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ac mae’r wybodaeth a rennir yn nodi bod y claf mewn perygl o esgeulustod. Mae dyletswydd ar y meddyg teulu i hysbysu.

Lleoliadau

Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le. Er enghraifft, yn y cartref, mewn lleoliad preswyl neu ofal dydd, yn ystod gweithgareddau hamdden. Gall ddigwydd yn breifat neu mewn lleoliad cymunedol megis pwll nofio.

Gall camdriniaeth ddigwydd ar-lein, er enghraifft trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Gallai’r pryderon hyn fod ynghylch ymddygiad ymarferydd, gwirfoddolwr, gofalwr, aelod o’r teulu neu aelod o’r gymuned.

Gallai’r pryderon hefyd fod yn bresennol pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol eisoes yn adnabod yr unigolyn. Felly, peidiwch â chymryd yn ganiataol oherwydd bod y gwasanaethau cymdeithasol yn adnabod yr unigolyn nad oes angen hysbysu. Cofiwch hysbysu bob tro.