Rhannu Cymraeg English

Canlyniadau’r Drafodaeth/Cyfarfod Strategaeth

Adref 3 rhan 1

Insert Flowchart 3 – page 33 Handling individual

Penderfyniadau a Gefnogir ar sail Gwybodaeth

Dylai unrhyw benderfyniadau sy’n perthyn i gamau gweithredu diogelu

Mae’n bosibl, felly bod ymarferwyr yn sicrhau bod yr oedolyn sy’n wynebu risg:

flow_chart3_cymraeg

Siart Lif 3: Ymchwiliad Ffurfiol

Cynllun gweithredu y cytunwyd arno

Erbyn diwedd y drafodaeth/cyfarfod dylai cyfranogwyr gytuno ar gynllun gweithredu sy’n cynnwys:

Awgrymiadau Ymarfer: Anghenion Gofal a Chymorth neu Anghenion Gofal a Chymorth ac Amddiffyn

Rhannu canlyniadau trafodaeth / cyfarfod strategaeth

Dylid rhannu canlyniad y drafodaeth/cyfarfod strategaeth gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg, oni bai bod asesiad o alluedd meddyliol wedi dangos fel arall.

Fodd bynnag, mae’n rhaid ystyried pa wybodaeth a gaiff ei rhannu. Dylid ystyried:

Yn ymarferol, yn y cam hwn mae’n debygol na fydd ond yn bosibl dweud wrth yr oedolyn sy’n wynebu risg a oes ymchwiliad yn mynd rhagddo ac am y mesurau amddiffynnol sy’n effeithio arno yn uniongyrchol.

Ni ellir ond rhannu gwybodaeth am y canlyniad â pherthynas neu gyfaill i’r oedolyn sy’n wynebu risg os yw’n cydsynio. Gellir rhannu gwybodaeth â’r rheiny sydd a’r pŵer atwrnai neu’r rheiny a benodwyd fel dirprwy gan y Llys Gwarchod. Os asesir nad oes ganddo alluedd i wneud y penderfyniad hwn, gwneir penderfyniad budd gorau ynghylch rhannu gwybodaeth.

Os yw hysbysiad wedi ei wneud am Eiriolwr Galluedd Meddyliol (IMCA) ar gyfer yr oedolyn sy’n wynebu risg oherwydd yr aseswyd nad oes ganddo’r capasiti i gydsynio i un neu ragor o ddulliau amddiffyn, caiff yr Eiriolwr wybod canlyniad y drafodaeth/cyfarfod strategaeth. Os yw eiriolwyr eraill yn ymwneud â’r oedolyn sy’n wynebu risg bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn y drafodaeth/cyfarfod yn penderfynu p’un a gaiff wybod ac os felly, faint o wybodaeth a gaiff.

Rhennir gwybodaeth ag ymarferwyr y mae ganddynt rôl yn y broses diogelu oedolion. Gall hyn gynnwys y rheolwr gofal a rheolwr gwasanaeth darparu.

Yr ymarferydd arweiniol sy’n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu fel y cytunir yn y drafodaeth/cyfarfod strategaeth, er gallant drefnu bod eraill yn gweithredu’r rhannu gwybodaeth (er enghraifft cysylltu â’r oedolyn sydd mewn risg neu ei deulu).

Os yw’r drwgweithredwr honedig yn ymarferydd, gallai fod angen cysylltu â’i adran AD i roi gwybod iddi am unrhyw risg posibl y mae’r person hwnnw yn ei beri i’r oedolyn sy’n wynebu risg neu eraill ac i drafod camau gweithredu diogelu priodol. Ni ellir dweud wrth gyflogwr y person i gymryd camau gweithredu penodol, ond gellir rhoi gwybod iddo bod arno ddyletswydd i gymryd y camau gweithredu priodol i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg ac eraill y tybir eu bod mewn risg a bydd yn atebol am unrhyw benderfyniad a wna.

Anghytundebau proffesiynol

Os yw gweithiwr proffesiynol yn anghytuno â phenderfyniad y cyfarfod strategaeth, dylai gyflwyno sylwadau i’w reolwr llinell ei hun a rhoi gwybod i’r uwch-reolwr sy’n gyfrifol am ddiogelu yn y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu er mwyn ceisio cytuno ar benderfyniad yn unfrydol.

Oedolyn sy’n wynebu risg ac anghytundebau teuluol

Dylai testun unrhyw hysbysiad a/neu ei gynrychiolydd gael ei hysbysu’n briodol am yr hysbysiad a’r penderfyniad dilynol.

Os yw’r unigolyn neu ei gynrychiolydd yn anghytuno â’r broses a ddilynodd yr awdurdod lleol ac ni ellir datrys y mater, dylid cyfeirio at broses cwyno’r awdurdod lleol neu at y broses cwyno amlasiantaethol.

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Anghytundebau Teuluol


1A useful guide to some of the barriers that those with a hearing loss experience in terms of understanding practitioners concerns. Barriers may be applicable to other adults at risk.