Rhannu Cymraeg English

Ymateb i adroddiad: trosolwg o'r dasg a'r broses

Adref 3 rhan 1

Mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ymateb i hysbysiad am oedolyn sy’n wynebu risg o gam-drin ac esgeuluso. Dylai sicrhau bod y person yn ddiogel bob amser fod yn egwyddor allweddol.

D.S. Gan mai adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n ymateb i hysbysiadau am oedolyn sy’n wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio, defnyddir y term ‘gwasanaethau cymdeithasol’ yn hytrach nag awdurdod lleol.

At ddibenion y gweithdrefnau hyn, defnyddir y term ‘hysbysiad i’r Gwasanaethau Cymdeithasol’ i feddwl cyfeiriad hefyd.

Y dasg

Yn dilyn hysbysiad yn cael ei wneud i wasanaethau cymdeithasol, caiff ystyriaeth o'r holl wybodaeth ei wneud (fel y disgrifir yn yr adran Dyletswydd i Hybsysu) i benderfynu a oes achos i amau fod oedolyn sy’n wynebu risg neu a all fod yn wynebu risg.

Y broses

Mae ymateb i hysbysiad yn golygu casglu gwybodaeth i benderfynu:

  • a yw’r pryderon a godwyd yn rhoi achos rhesymol i amau bod oedolyn:
  • yn cael ei gam-drin a/neu ei esgeuluso;
  • ag anghenion gofal a chymorth a;
  • o ganlyniad i’r anghenion hyn, mae’n methu â diogelu ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu rhag bod mewn risg o hynny (Adran 126(1) (a126) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014);
  • gwneud neu weithredu er mwyn i rywun wneud pa bynnag ymholiadau y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn iddo allu penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau gweithredu;
  • penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu ac os felly, pa rai a gan bwy.

Er y gallai ymholiadau arwain at (gyfarfod/trafodaeth strategaeth), nid y rhain yw rhan ymchwilio’r broses. Nid yw ymholiadau’n cynnwys ymchwiliadau ffurfiol sy’n ymwneud â’r heddlu, er gall hyn fod y canlyniad (Gweler Adran ar Ymchwiliadau).