Rhannu Cymraeg English

Rôl a chyfrifoldebau o ran y cynllun diogelu gofal a chymorth

Adref 4

Cyfrifoldebau awdurdod lleol ar gyfer cynlluniau diogelu gofal a chymorth

Rhaid i’r awdurdod lleol fodloni anghenion diogelu gofal a chymorth oedolyn sy’n wynebu risg os yw’n fodlon bod amodau penodol wedi’u bodloni, er mwyn ei ddiogelu rhag cam-drin neu esgeuluso (a.35 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Felly, dylai’r awdurdod lleol gymryd cyfrifoldeb am drefnu a chydlynu’r gwaith o baratoi’r cynllun diogelu gofal a chymorth. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib y caiff hwn ei ddirprwyo i asiantaeth arall e.e. iechyd. Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb statudol dros sicrhau bod gwaith paratoi cynlluniau diogelu priodol ar waith.

Cydlynydd arweiniol

Mae’n rhaid i’r cydlynydd arweiniol fod yn unigolyn a gyflogir o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a, phan fo’n bosibl, bod yn weithiwr cymdeithasol cymwys cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r cydlynydd arweiniol yn gyfrifol am:

Gellir dirprwyo’r rôl i bartner statudol arall OND mae’r cyfrifoldeb statudol yn parhau yn nwylo’r awdurdod lleol.

Rôl a chyfrifoldebau’r cydlynydd arweiniol dirprwyedig

Os yw’r rôl cydlynydd arweiniol wedi ei dirprwyo gan yr awdurdod lleol, mae’n rhaid ystyried a chofnodi’r canlynol:

Rôl a chyfrifoldebau’r ymarferydd cynllun diogelu gofal a chymorth arweiniol (ymarferydd arweiniol)

Ar ôl y cyfarfod strategaeth cychwynnol mae’n rhaid i’r cydlynydd arweiniol sicrhau y dynodir ymarferydd cynllun diogelu gofal a chymorth, y cyfeirir ato fel ymarferydd arweiniol, ac y caiff ei fanylion cyswllt eu cofnodi.

Os nad yw’n bosibl penodi ymarferydd arweiniol, mae’n rhaid rhoi gwybod ar unwaith i’r uwch reolwr perthnasol sy’n gyfrifol am ddiogelu yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai’r ymarferydd arweiniol:

  1. Fynd ati i gysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg gan gynnwys:
    • Gweld yr oedolyn cyn gynted â phosibl, o leiaf cyn pen 5 diwrnod gwaith wedi dyddiad y cyfarfod strategaeth;
    • sicrhau y rhoddir cyfle i’r oedolyn gael ei weld ar ei ben ei hun pan fo’n bosibl a dylai hynny fod o leiaf pob 4 wythnos.

(Dylai’r grŵp strategaeth ystyried pa mor aml y dylid gweld yr oedolyn sy’n wynebu risg a gosod amserlenni yn unol â hynny.)

  1. Gweithio mewn partneriaeth â’r oedolyn sy’n wynebu risg (gan gydnabod ei alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol ar adeg benodol) a, phan fo’n briodol, ei eiriolwr i sicrhau:
  1. Arwain y gwaith amlasiantaeth wrth:

Os yw’r ymarferydd arweiniol yn newid yna mae’n rhaid rhoi gwybod ar lafar ac anfon cadarnhad ysgrifenedig at yr holl asiantaethau perthnasol, yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i deulu.

DS: Nid oes rhaid i’r ymarferydd arweiniol o reidrwydd fod yn weithiwr cymdeithasol. Er enghraifft, gall nyrs neu ymarferydd iechyd arall gyflawni’r rôl. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ymarferydd feddu ar y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen i gyflawni’r rôl a chwblhau’r tasgau a amlinellir uchod.

Cyfrifoldebau cynllunio aelodau o’r cyfarfod strategaeth (y grŵp strategaeth)

Mae’r ymarferwyr sy’n mynychu’r cyfarfod strategaeth, y cyfeirir ato fel y grŵp strategaeth, yn gyfrifol am y canlynol:

Mae’n rhaid i’r grŵp strategaeth weithio gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod a hyrwyddo penderfyniadau a wneir ar y cyd, er enghraifft, sicrhau y cynigir eiriolwr. Dylid ystyried eiriolaeth ar bob cam o’r broses amddiffyn oedolyn gan gynnwys cyfraniad Eiriolwr Annibynnol Galluedd Meddyliol pan fo angen. (Ran 10 y Cod Ymarfer Eiriolaeth).

Os asesir nad oes gan oedolyn sy’n wynebu risg y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ynghylch ei ddiogelwch ar yr adeg hon, mae’n rhaid gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn fydd yn dod â’r budd pennaf iddo. ((Adran 1(5) Deddf Galluedd Meddyliol 2005))

Ym mhob achos, waeth ar ba lefel y gall yr oedolyn sy’n wynebu risg gymryd rhan a gwneud penderfyniadau penodol, mae dymuniadau a theimladau’r oedolyn sy’n wynebu risg yn cael eu cydnabod a’u hystyried bob amser wrth ystyried unrhyw berygl.

Awgrymiadau Ymarfer: Sicrhau Cyfranogiad Gweithredol gan Ymarferwyr yn y Grŵp Strategaeth

Awgrymiadau Ymarfer: Hyrwyddo Cyfranogiad Ymhlith Oedolion sy’n Wynebu Risg a Heb Alluedd Meddyliol