At ddibenion y canllaw hwn, bydd dyletswydd i adrodd wrth yr awdurdod lleol yn golygu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol y bydd ganddynt, gyfochr â’r heddlu, rymoedd statudol i ymchwilio i amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod. Mae’r term ymarferydd wedi ei ddefnyddio fel term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw un mewn cyflogaeth a delir yn ogystal â gwirfoddolwyr di-dâl.
Rhaid gwneud hysbysiad pan fo gan ymarferydd bryderon bod plentyn neu berson ifanc dan 18 oed:
a
Os oes gan unrhyw berson wybodaeth, pryderon neu’n amau bod plentyn neu oedolyn yn dioddef, wedi dioddef neu’n debygol o wynebu risg o niwed, mae’n gyfrifoldeb arno i sicrhau ei fod yn cyfeirio’r pryderon at y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu sydd â dyletswyddau a phwerau i wneud ymholiadau ac ymyrryd pan fo angen.
NID MATER O DDEWIS PERSONOL YW HWN.
Mae’r defnydd o’r term ‘sy’n wynebu risg ’ yn golygu nad oes rhaid i gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed gwirioneddol (gweler Adran 1 Gweithdrefnau am wybodaeth bellach) fod wedi digwydd, ond yn hytrach heb ymyraethau gan wasanaethau bod camdriniaeth neu esgeulustod gwirioneddol yn debygol o ddigwydd.
Enghraifft: Esiampl: Mae ymarferydd yn ymwybodol o riant sy’n cael trafferth rheoli ymddygiad heriol y plentyn ac mae wedi nodi ei fod yn bryderus y bydd y rhiant hwnnw’n niweidio’r plentyn. Dylid gwneud atgyfeiriad cyn i’r sefyllfa waethygu a chyn i’r rhiant gam-drin y plentyn mewn modd corfforol neu emosiynol.
Diffiniadau o blant sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod
Awgrymiadau Ymarfer Adran 1: Arwyddion a Dangosyddion o Gamdriniaeth ac Esgeulustod