Trosolwg o'r adran
Adref 3 rhan 1
Mae’r adran hon yn cynnwys gweithdrefnau’n ymwneud â rolau a chyfrifoldebau ymarferydd, yn dilyn hysbysebiad hysbysebiad gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn deall yr hyn a olygir gan niwed sylweddol wrth asesu ac ymyrryd yn dilyn hysbysebiad hysbysebiad am blentyn sy’n wynebu risg o gael ei niweidio, ei gam-drin neu ei esgeuluso.
Mae rhan gyntaf yr adran hon yn ymdrin â’r gweithdrefnau sy’n ymwneud a chyfrifoldebau penodol ymarferydd wrth ymateb i hysbysebiad hysbysebiad.
Mae hwn yn cynnwys:
- deall y dasg
- gwybod beth sydd ei angen ar y sawl sy’n gwneud hysbysebiad hysbysebiad a’r hyn a ofynnir i ymarferwyr ei wneud fel rhan o’r gwaith o gasglu gwybodaeth gan y sawl sy’n gwneud yr hysbysebiad hysbysebiad
- rôl ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol fel y sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad wrth dderbyn hysbysebiad
- esbonio’r camau nesaf gyda’r sawl sy’n cymryd yr hysbysebiad
- rheoli hysbysebiad au y tu allan i oriau swyddfa arferol
Ar ôl cael y wybodaeth gan y sawl sy’n gwneud yr hysbysebiad ac ymarferwyr eraill, mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol benderfynu ar y camau i’w dilyn ar ôl derbyn hysbysebiad ; gwiriadau a phenderfyniadau cychwynnol.
Mae hwn yn cynnwys:
Mae’n bosib y bydd angen amddiffyn a rhoi camau gweithredu brys ar waith ar unrhyw gam yn ystod y broses ddiogelu. Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall:
- cynllunio camau gweithredu brys
- dewisiadau o ran sicrhau y gellir amddiffyn plentyn ar unwaith
- defnyddio pwerau gorfodol
- rhoi gorchmynion amddiffyn brys ar waith
- gwrthod archwiliad meddygol
- Gorchmynion Gwahardd
- Pwerau Amddiffyn yr Heddlu
Os yw’r gwiriadau cychwynnol, yn dilyn hysbysebiad , yn dod i’r casgliad bod gan y Gwasanaethau cymdeithasol achos rhesymol i amau bod plentyn mewn perygl o niwed sylweddol dylent drefnu i gynnal trafodaeth/cyfarfod strategaeth.
Mae’r gweithdrefnau yn cynnwys:
- diben y drafodaeth / cyfarfod strategaeth
- p’un ai i gynnal cyfarfod neu drafodaeth strategaeth
- amserlenni
- cyfranogiad amlasiantaethol mewn trafodaethau/cyfarfodydd strategaeth
- cadeirio
- cofnodi’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth a’r penderfyniadau
- cyfarfodydd/trafodaethau strategaeth pellach/ychwanegol
- anghytundebau rhwng ymarferwyr
- materion o ran ffiniau awdurdod lleol.
Y penderfyniadau allweddol i’w gwneud yn y cyfarfod/trafodaeth strategaeth yw p’un ai a ddylai unrhyw ymholiadau adran 47 fod yn:
- ymholiad gan asiantaeth unigol
neu
Mae’r ymholiadau adran s47 yn dechrau pan fydd trafodaeth/cyfarfod strategaeth yn penderfynu bod tystiolaeth yn dangos bod ymholiadau o’r fath yn angenrheidiol. Yn yr achos hwn mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall ymholiadau adran 47: ystyriaethau allweddol. Dylai’r sawl sy’n ymwneud â’r ymholiadau wybod eu rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r:
- dasg
- proses
- rôl y gweithiwr cymdeithasol
- cynllunio ymholiadau adran 47
- casglu gwybodaeth ar sail aml-asiantaeth
- casglu gwybodaeth gan riant/rhieni
- casglu gwybodaeth gan blant
- siarad â’r plentyn heb yn wybod i’r rhiant neu’r gofalwr
- casglu gwybodaeth gan asiantaethau eraill
- rhannu gwybodaeth a diogelu data
- rhannu gwybodaeth gyda’r teulu
- gwybodaeth gyfrinachol
- plant sy’n symud yn ystod ymholiadau adran 47 amddiffyn plant
- yr archwiliad meddygol:
- amseriad yr archwiliad meddygol
- safonau ar gyfer archwiliadau meddygol
- cydsynio i’r archwiliad meddygol
- cydsyniad a phobl ifanc
- sicrhau cydsyniad ar sail gwybodaeth
- yr adroddiad meddygol yn dilyn archwiliad
Dylai’r rhai sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd/trafodaethau strategaeth chwarae rhan yn yr ymholiadau adran 47; dadansoddi a gwneud penderfyniadau..
Mae hyn yn golygu:
- defnyddio dadansoddiad adran 47 a gwneud penderfyniadau: ‘penderfyniadau’
- dadansoddi a gwneud synnwyr o’r wybodaeth a gasglwyd
- Mae [cofnodi gwybodaeth a phenderfyniadau allweddol] adran 47 yn hanfodol drwy gydol y broses.
Mae angen i ymarferwyr wybod am:
- cofnodion asiantaeth
- cofnodion gwasanaethau cymdeithasol
Gall y ffordd y mae’r plentyn a’r teulu yn ymwneud yn yr ymholiad adran 47 effeithio ar waith canlynol a wneir gyda nhw. Mae’n bwysig felly bod ymarferwyr yn gweithio gyda’r plentyn a’r teulu yn ystod ymholiadau adran 47.
Mae hyn yn cynnwys:
- cynnwys rhieni neu ofalwyr mewn ymholiadau adran 47
- ystyried beth i’w wneud pan fo gofalwyr yn gwrthod cydweithio ac mae angen gweithredu ar frys
- cynnwys plant a phobl ifanc mewn ymholiadau adran 47