Diffiniadau allweddol perthnasol i ddiogelu plant
Adref 1
Dylai pob ymarferwr fod yn ymwybodol o’r diffiniadau o gamdriniaeth ac esgeulustod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ogystal a’r arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod . Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyfleu pryderon am niwed mewn ffordd ystyrlon.
Plentyn
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllaw aiff gyda hi yn diffinio ‘plentyn’ fel unigolyn dan 18 oed.
Plentyn sy’n wynebu risg
Mae a.130 (4) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio plentyn sy’n wynebu risg fel plentyn sydd:
- Yn profi neu sydd sy’n wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed;
- Ag anghenion am ofal a chefnogaeth (boed yr awdurdod yn cwrdd ag unrhyw rai o’r anghenion hynny neu beidio).
Mae’n bwysig nodi:
- Fod defnyddio’r term ‘sy’n wynebu risg’ yn golygu nad oes raid i gamdriniaeth neu esgeulustod gwirioneddol ddigwydd; yn hytrach, dylid ystyried ymyriadau cynnar i amddiffyn plentyn sy’n wynebu risg er mwyn atal niwed, camdriniaeth ac esgeulustod gwirioneddol;
- Darperir y ddau amod sydd eu hangen i ddangos fod plentyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod er mwyn sicrhau fod amddiffyniad yn cael ei ddarparu i’r rhai ag anghenion gofal a chefnogaeth sydd hefyd angen camau i sicrhau eu diogelwch yn y dyfodol;
- Gall y risg o gamdriniaeth neu esgeulustod fod yn ganlyniad un pryder neu yn ganlyniad ffactorau cronnus.
Niwed
Diffinnir niwed fel:
- camdriniaeth sydd yn cynnwys camdriniaeth rhywiol, esgeulustod, camdriniaeth emosiynol a chamdriniaeth seicolegol.
- amharu ar iechyd corfforol neu iechyd (gan gynnwys dioddef o weld neu glywed unigolyn arall yn dioddef camdriniaeth).
- amharu ar ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol (gan gynnwys dioddef o weld neu glywed unigolyn arall yn dioddef camdriniaeth).
Cyf 5 Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 5 – Trin Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy’n wynebu risg
Mathau o niwed
Mae’r isod yn rhestr heb fod yn gyflawn o esiamplau ar gyfer pob categori o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod a gynhwysir yn Cyf 5 Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 5 – Trin Achosion Unigol i Amddiffyn Plant sy’n wynebu risg
- camdriniaeth gorfforol – taro, celpio, gor-ddefnydd neu gamddefnydd o feddyginiaeth, cyfyngu diangen, neu gosbau amhriodol;
- camdriniaeth emosiynol/seicolegol – bygythiadau o niwed neu adael rheoli gorfodol, camdriniaeth lafar neu hiliol, ynysu neu dynnu allan o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol, bod yn dyst i gamdriniaeth eraill;
- camdriniaeth rywiol – gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, boed y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd neu beidio, gan gynnwys: cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu heb fod yn dreiddiol; gweithgareddau heb fod yn gyswllt, megis dwyn plant i mewn i edrych ar neu gynhyrchu deunydd pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol;
- camdriniaeth ariannol – ni fydd y categori hwn mor gyffredin i blentyn ond galli arwyddion gynnwys:
- peidio â chwrdd â’u hanghenion am ofal a chefnogaeth a ddarperir trwy daliadau uniongyrchol; neu
- gwynion fod eiddo personol ar goll.
- esgeulustod – methiant i gwrdd ag -anghenion corfforol, emosiynol neu seicolegol sylfaenol sydd yn debyg o arwain at amharu ar iechyd neu ddatblygiad.
Gall risg oherwydd niwed gwirioneddol neu bosib i blentyn neu berson ifanc hefyd ddeillio o’r canlynol:
Niwed arwyddocaol
Mae pryderon am niwed arwyddocaol tebygol neu wirioneddol i blentyn yn drothwy i danio ymholiadau a47 dan Ddeddf Plant 1989
Nid oes diffiniad statudol o niwed arwyddocaol. Felly, rhaid i ymarferwyr:
‘Lle bo cwestiwn ynghylch a yw niwed yn arwyddocaol yn troi ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, dylid cymharu iechyd neu ddatblygiad y plentyn a’r hyn y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl mewn plentyn tebyg (Adran 31(9) , Deddf Plant 1989.)
Awgrymiadau Ymarfer: Arwyddion o Gamdriniaeth ac Esgeulustod Posib mewn Plentyn
Gweler hefyd: Canllawiau Arfer Cymru Gyfan