Mae diffiniadau o berygl wedi’u hamlinellu yn Adran 1
Esbonir y diffiniad o niwed yn Adran 3 rhan 1
Awgrymiadau Ymarfer: mae arwyddion a dangosyddion camdriniaeth ac esgeulustod bosib yn
Awgrymiadau Ymarfer: Rhwystrau Posibl Rhag Gweld ac Hysbysu am Gamdriniaeth ac Esgeulustod
Gall amheuaeth am [gamdriniaeth] (#tooltip)neu esgeulustod fod yn ‘bryderon’ yn hytrach na ‘ffeithiau hysbys’ oherwydd na fyddai tystiolaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod yn bresennol bob tro. Yn hytrach, gallai ymarferwyr amau bod plentyn yn cael ei gam-drin neu esgeuluso.
Enghraifft: mae aelod staff mewn canolfan deulu yn sylwi ar newid yn ymddygiad plentyn sy’n cyd-ddigwydd â phartner newydd y fam yn symud i gartref y teulu.
Mewn rhai achosion, gallai ‘pryderon’ fod ar sail gwybodaeth a ddaw o amrywiaeth o ffynonellau a/neu gallant gronni dros amser.
Enghraifft: gall pryderon am gamdriniaeth neu esgeulustod posibl arwain o gronni gwybodaeth a gafwyd yn yr ysgol gan y plentyn, aelod o’r teulu, athro dosbarth, a staff cymorth.
Fel arall, gellir derbyn hysbysiadau ar wahân, sy’n awgrymu o’u hystyried yn holistig y gallai plentyn fod yn cael ei gam-drin/esgeuluso. Dylai ymarferwyr felly gofio ei bod yn bosibl nad fydd eu pryderon, ar eu pennau eu hunain, yn ymddangos yn arwyddocaol. Fodd bynnag, gyfochr â’r rhai a ddaw gan asiantaethau a ffynonellau eraill, gallant greu llun sy’n awgrymu bod y plentyn yn dioddef niwed.
Enghraifft: mae meddyg teulu yn gweld plentyn ag ecsema ac nid yw’n ymateb i’r driniaeth. Tra bod y rhiant yn sicrhau’r meddyg bod y driniaeth a nodwyd yn cael ei dilyn, mae’r meddyg teulu’n cwestiynu p’un ai a yw’r plentyn yn cael ei esgeuluso. Mae’n ymgynghori’n gyntaf â gweithwyr proffesiynol eraill ac mae’r wybodaeth a rennir yn nodi bod y plentyn sy’n wynebu risg o esgeulustod. – Mae gan y Meddyg Teulu Ddyletswydd i Hysbysu y wybodaeth hon
Gallai’r pryderon hefyd fod yn bresennol pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol eisoes yn gwybod am blentyn. Peidiwch â chymryd yn ganiataol os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am blentyn nad oes angen hysbysu. Cofiwch hysbysu bob tro.
Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le. Er enghraifft, yn y cartref, mewn lleoliad preswyl neu ofal dydd, mewn ysgolion, clybiau ieuenctid. Gall ddigwydd yn breifat neu mewn lleoliad cymunedol megis pwll nofio. Gall camdriniaeth hefyd ddigwydd ar-lein neu ar unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol.
Gallai’r pryderon hyn fod ynghylch ymddygiad aelod o staff, gwirfoddolwr, gofalwr, plentyn arall neu aelod o’r teulu neu aelod o’r gymuned.
Gallai’r pryderon hefyd fod yn bresennol pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol eisoes yn adnabod yr unigolyn. Felly, peidiwch â chymryd oherwydd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn adnabod yr unigolyn nad oes angen hysbysu amdano. Cofiwch hysbysu bob tro.