Rhannu Cymraeg English

Y ynhadledd mddiffyn lant Gychwynnol

Adref 3 rhan 2

Mae’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol yn dilyn ymholiadau a47 lle mae pryderon bod plentyn/plant sy’n wynebu risg parhaus o niwed.

Mae’r gynhadledd yn dod ag aelodau’r teulu (a’r plentyn lle bo hynny’n briodol) ynghyd â’r cefnogwyr, yr eiriolwyr a’r ymarferwyr sydd fwyaf ynghlwm wrth y plentyn a’r teulu, er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â diogelwch, lles a datblygiad y plentyn yn y dyfodol.

Tasgau’r ymarferydd Y tasgau ar gyfer yr HOLL gyfranogwyr asiantaeth yw:

  • Dadansoddi’r canlynol yn wrthrychol:
  • yr holl bryderon a’r wybodaeth sydd wedi’u casglu gan yr ymholiadau a47;
  • cryfderau’r teulu a ffactorau amddiffynnol;
  • canfyddiadau’r ymholiad a47 hyd heddiw;
  • unrhyw asesiadau perthnasol eraill;
  • gwybodaeth flaenorol am hanes y teulu a chysylltiad â gwasanaethau.
  • Ystyried y dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno i’r gynhadledd, pennu pa mor debygol yw’r plentyn o ddioddef cam-drin neu niwed yn y dyfodol a phenderfynu a yw’r plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol;
  • penderfynu pa gamau sydd eu hangen yn y dyfodol:
  • i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn er mwyn iddo allu cyflawni ei ganlyniadau personol,
  • manylu sut caiff y cam gweithredu hwn ei ddatblygu a beth fydd y canlyniadau a fwriedir i’r plentyn yn benodol;
  • cynllunio sut i amddiffyn a hyrwyddo llesiant y plentyn orau.

Amseru’r gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol

Dylid cynnal y gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol o fewn 15 diwrnod gwaith o’r cyfarfod/trafodaeth strategaeth ddiwethaf.

Fodd bynnag, dylai cadeirydd y gynhadledd fod yn hyderus y bydd digon o wybodaeth yn debygol o fod ar gael, er mwyn i’r gynhadledd lunio barn ar sail gwybodaeth ynglŷn â risg parhaus o niwed i’r plentyn. Mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosibl y bydd y cadeirydd am ohirio’r gynhadledd, ond wrth wneud hynny rhaid iddo fod yn hyderus bod y plentyn wedi’i amddiffyn ac aildrefnu’r gynhadledd cyn gynted â phosibl.

Presenoldeb

Dylai fod gan y rheiny sy’n cael eu gwahodd i gynadleddau gyfraniad sylweddol i’w wneud, sy’n deillio o’u harbenigedd fel ymarferwyr, eu gwybodaeth am y plentyn neu’r teulu, neu’r ddau. Dylid gwahodd y bobl sydd angen bod yno yn unig. Dylid ystyried gwahodd y bobl ganlynol:

  • Y plentyn, y bobl sy’n gofalu amdano, aelodau teulu, gan gynnwys yr holl rai â chyfrifoldeb rhianta am y plentyn a’u cefnogaeth/eiriolwyr;
  • Ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi ymgymryd â’r ymholiadau a47 a/neu, os caiff y gynhadledd ei galw gan fod amheuaeth bod plentyn ar gynllun gofal a chymorth sy’n wynebu risg o niwed, y gweithiwr cymdeithasol/ymarferwyr sydd ynghlwm wrth y cynllun;
  • yr heddlu;
  • Cynrychiolydd o ysgol y plentyn, neu leoliad cyn oedran ysgol, coleg addysg bellach (os yw’r plentyn o oedran addas);
  • Unrhyw staff addysgol arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn e.e. swyddog llesiant addysg/gweithiwr cymdeithasol addysgol, seicolegydd addysgol neu weithiwr ieuenctid;
  • Paediatregydd yr ardal leol neu’r gymuned a/neu feddyg sydd wedi cynnal archwiliadau;
  • meddyg teulu’r plentyn;
  • Gwasanaeth ymwelwyr iechyd / nyrs ysgol / bydwraig / uwch-nyrs / swyddog amddiffyn plant ac ymarferwyr iechyd perthnasol eraill;
  • gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;
  • Y gwasanaeth prawf cenedlaethol a chwmnïau adsefydlu cymunedol;
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid;
  • Yr NSPCC (os yw’n gweithredu yn yr ardal);
  • Gwasanaethau cyfreithiol yr awdurdod lleol (plant a theuluoedd);
  • Gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion/gwasanaethau camddefnyddio sylweddau;
  • Gwasanaethau cymorth i deuluoedd/gwasanaethau gofal dydd;
  • Cymorth i fenywod neu unrhyw sefydliad gwirfoddol neu annibynnol eraill sydd ynghlwm;
  • Cynrychiolydd o’r gwasanaethau arfog, mewn achosion lle mae cysylltiad â’r gwasanaeth. Bydd y rheolwr gwasanaethau cymdeithasol priodol, ar y cyd â’r gweithiwr cymdeithasol sydd wedi’i neilltuo i’r achos, yn penderfynu pwy i’w wahodd.

Rhaid i bawb sydd wedi cael eu gwahodd flaenoriaethu’r gynhadledd a dylent gael gwybod pwy arall sydd wedi’i wahodd iddi.

Os yw’r achosion gofal wedi cychwyn a bod gwarcheidwad y plentyn wedi cael ei benodi, dylai gael ei wahodd i’r gynhadledd. Fodd bynnag, daw i gynadleddau amddiffyn plant fel arsylwr a rhaid iddo osgoi dod yn rhan o broses penderfynu’r gynhadledd. Cyfrifoldeb y cadeirydd yw sicrhau y cydymffurfir â hyn.

Awgrymiadau Ymarfer: Ymarferwyr yn Mynychu Cynadleddau Amddiffyn Plant - Negeseuon Allweddol

Cworwm ar gyfer y gynhadledd amddiffyn plant

Rhaid bod gan aelodau sy’n mynychu’r gynhadledd ddigon o wybodaeth a thystiolaeth i wneud penderfyniadau gwybodus. Fodd bynnag, dylai fod cydbwysedd rhwng y gofyniad hwn a gwneud y gynhadledd yn fwy na’r angen, gan rwystro’r drafodaeth a chodi ofn ar y plentyn ac aelodau’r teulu. Gall hyn fod yn broblem os oes grŵp mawr o frodyr neu chwiorydd.

Bydd angen i o leiaf tair asiantaeth neu grŵp o ymarferwyr sydd wedi cael cyswllt uniongyrchol â phlentyn fod yn bresennol cyn y gellir bwrw ymlaen â’r gynhadledd. Yn ogystal, gellir gwahodd pobl eraill nad oes ganddynt wybodaeth uniongyrchol o’r plentyn drwy rinwedd eu harbenigedd fel ymarferydd neu gyfrifoldebau am wasanaethau.

Os yw’r gynhadledd yn ymdrin â phlentyn nad yw wedi’i eni eto, mae’n hanfodol bod y gwasanaethau bydwreigiaeth ac ymwelydd iechyd ynghlwm hefyd.

Gall fod sefyllfa lle dim ond dwy asiantaeth neu grŵp o ymarferwyr sy’n bresennol. Er enghraifft, mewn amgylchiadau eithriadol lle nad yw’r plentyn wedi cael cysylltiad â thair asiantaeth. Mewn amgylchiadau o’r fath, gall cadeirydd y gynhadledd ddewis bwrw ymlaen â’r gynhadledd os yw’n hyderus bod y wybodaeth hanfodol ar gael, a hynny yn bennaf gan y prif asiantaethau sydd ynghlwm. Rhaid cofnodi’r penderfyniad a’r rhesymeg dros fwrw ymlaen ar gofnod y gynhadledd.

Er enghraifft:Mae’r pryderon yn canolbwyntio ar sut mae rhieni'n gofalu am eu plentyn 9 mis oed, ond nid oes trosedd wedi’i gyflawni ac ni all yr heddlu ddod i’r gynhadledd. Yn yr achos hwn, dim ond gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd sydd ynghlwm wrth y teulu ac mae’r cadeirydd yn penderfynu bwrw ymlaen.

Rhaid i’r holl ymarferwyr a’r asiantaethau sydd wedi’u gwahodd i’r gynhadledd amddiffyn plant gyflwyno adroddiad ysgrifenedig, p’un a ydynt yn gallu dod i’r gynhadledd ai peidio.

Ni cheir oedi wrth gymryd unrhyw gamau gweithredu i sicrhau diogelwch y plentyn sy’n wynebu risg o niwed oherwydd bod y gynhadledd ar y gweill.

Hyd y gynhadledd

Ni ddylai cynadleddau fod yn hirach na 2 awr fel arfer. Gallai fod yn anodd i aelodau teulu ac ymarferwyr ganolbwyntio os bydd cynadleddau’n para hirach am y rhesymau canlynol:

  • maen nhw’n gwrando ac yn ceisio deall llawer o wybodaeth mewn amgylchedd sy’n anghyfarwydd iddynt;
  • mae aelodau teulu’n debygol o deimlo’n bryderus ac o dan straen, sydd mewn tro, yn effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio.

Cynadleddau ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd

Gall pryderon ymarferydd ynglŷn â pherygl o niwed sylweddol ymwneud â grŵp o frodyr a chwiorydd, er enghraifft mewn achosion o esgeulustod a niwed emosiynol. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, dylid ystyried dichonoldeb dadansoddi a gwneud penderfyniadau am ddiogelwch, llesiant a datblygiad pob plentyn yn ystod un gynhadledd. Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod angen cynnal mwy nag un gynhadledd i sicrhau bod anghenion amddiffyn, gofal a chymorth y brodyr a chwiorydd amrywiol yn cael y sylw angenrheidiol.

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Cynadleddau ar gyfer Grwpiau o Frodyr a Chwiorydd

Cynhadledd amddiffyn plant cyn geni

Mae hon yn gynhadledd sy’n canolbwyntio ar y plentyn nas ganwyd eto a dylid ei chynnal:

  • yn dilyn asesiad cyn geni a ddaeth i’r casgliad y gall plentyn nas ganwyd eto fod yn wynebu risg o niwed sylweddol;
  • pan fo plentyn blaenorol wedi marw neu wedi ei gymryd oddi wrth y rheini o ganlyniad i niwed sylweddol;
  • os yw plant eraill yn y teulu neu’r aelwyd ar y rhestr ac yn derbyn cynllun amddiffyn, gofal a chymorth;
  • pan fo gwybodaeth bod unigolyn sy’n byw yn yr aelwyd neu sy’n ymweld â’r aelwyd yn aml yn peri risg i blant;
  • pan fo tystiolaeth bod problemau yn ymwneud ag oedolion megis problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, camddefnyddio alcohol a sylweddau a thrais domestig yn effeithio ar rianta;
  • os yw’r fam yn iau nag 16 oed ac mae pryderon ynghylch ei gallu i ofalu amdani a/neu i ofalu am y plentyn.

Dylid cynnal y gynhadledd er mwyn sicrhau cymaint o amser â phosib i gynllunio cymorth ar gyfer y baban a’r teulu.

Dylai’r gynhadledd:

  • nodi problemau sy’n ymwneud â’r gofal am y plentyn nas ganwyd eto ac ar ôl iddo gael ei eni;
  • ystyried sut mae’r problemau hyn yn gallu cael eu datrys cyn ac ar ôl iddo gael ei eni.

Ni ellir rhoi enw’r plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nes iddo gael ei eni.

Awgrymiadau Ymarfer: Amddiffyn Plant a’r Plentyn na ganwyd eto