Mae angen digon o wybodaeth ar y sawl sy’n cymryd yr hysbysiad i:
D.S. os yw aelod o’r cyhoedd yn gwneud hysbysiad, mae’n bosibl nad yw’r wybodaeth hon ganddo. Fodd bynnag, mae’n bwysig cael y manylion sydd ar gael ynghylch y canlynol:
Dylai’r gwiriadau cychwynnol gynnwys:
Gellir cael sawl hysbysiad gan, er enghraifft, yr oedolyn sy’n wynebu risg, aelodau’r teulu, ffrindiau neu gymdogion. Yn y sefyllfaoedd hyn:
Ar adegau, gallai sawl hysbysiad di-sail gael eu cyflwyno ac mae’n bosibl na fydd ymholiadau pellach er budd gorau’r oedolyn sy’n wynebu risg. Pan fo hyn yn digwydd, dylid cofnodi’r penderfyniad i beidio â gwneud ymholiadau pellach a’r rhesymau dros hynny, ar ôl trafod â’r rheolwr llinell.
Er enghraifft, mae gan oedolyn ag anableddau corfforol deulu mawr ac mae perthynas yn gofalu amdano. Mae aelodau eraill y teulu yn adrodd am yr oedolyn wrth y gwasanaethau cymdeithasol dro ar ôl tro gan eu bod yn ystyried bod y gofal mae’n ei gael yn esgeulus. Ystyrir bod gan yr oedolyn alluedd meddyliol, ac mae’n dweud yn aml wrth ei weithiwr cymdeithasol bod yr honiadau am ei ofalwr yn faleisus a bod aelodau’r teulu sy’n gwneud yr honiadau hyn yn rhai nad ydynt yn cyd-dynnu ag e na’r gofalwr. Ar ben hynny, nid oes unrhyw dystiolaeth o esgeuluso. Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi eu cynnal rhwng yr oedolyn yr ystyrir ei fod yn wynebu risg, ei deulu a’r gweithiwr cymdeithasol. Mae’r broses yn achosi gofid ac yn ddiflas i’r oedolyn ag anableddau corfforol. O ganlyniad, pan wneir hysbysiad arall, penderfyna’r gwasanaethau cymdeithasol beidio â gwneud ymholiadau pellach.
Awgrymiadau Ymarfer: Ffactorau goddrychol all ddylanwadu ar y modd yr ymatebir i hysbysiad
Awgrymiadau Ymarfer: Gwybodaeth a Fynnir yn ystod y Sgrinio a'r Gwerthusiad Cychwynnol - yr Heriau
Ar ddiwedd unrhyw drafodaeth am oedolyn sy’n wynebu risg, dylai’r gwasanaethau cymdeithasol a’r ymarferwr sy’n llunio’rhysbysiad , fod yn eglur ynglŷn â:
Dylid cofnodi pob penderfyniad gan y gwasanaethau cymdeithasol gan ddefnyddio fformatau y cytunwyd arnynt.
Pan hysbysir dros y ffôn wrth y gwasanaethau cymdeithasol, dylai’r person sy’n hysbysu gadarnhau’r hysbysiad yn ysgrifenedig o fewn 24 awr. Wedi i’r hysbysiad ysgrifenedig ddod i law’r gwasanaethau cymdeithasol, dylai’r person sy’n gwneud yr hysbysiad gael cydnabyddiaeth o fewn 7 diwrnod gwaith. Os na chaiff hyn, dylai gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol eto bob tro.
Dylid rhoi gwybod i unrhyw un sy’n rhoi gwybod am achos o gam-drin neu esgeuluso oedolyn sy’n wynebu risg y gallai unrhyw ymholiadau dilynol gael eu cynnal naill ai ar y cyd gan yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol neu fel ymholiad gan un asiantaeth unigol (y gwasanaethau cymdeithasol).
Pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu peidio â chymryd camau gweithredu pellach dan adran 126(2)(b) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu’n ail-gyfeirio’r achos i ffynonellau eraill o gymorth mwy addas, dylid rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth, adborth ar y penderfyniad a’r rhesymau dros eu gwneud i’r ymarferydd sy’n adrodd.
Cysylltu â’r heddlu yn dilyn hysbysiad
Dylai’r sawl sy’n cymryd yr adroddiad gysylltu â’r heddlu yn syth os yw’r achos a adroddir yn, neu os gallai fod yn, drosedd yn erbyn oedolyn sy’n wynebu risg. Dyma enghreifftiau o achosion pan ddylid cynnwys y rhain:
(Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr)
Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch p’un ai a fu trosedd ai peidio, cysylltwch â’r heddlu er mwyn iddynt gadarnhau’r sefyllfa o ran ymyriad gan yr heddlu.
Y tu allan i’r oriau swyddfa arferol, gellir hysbysu’r tîm dyletswydd brys gwasanaeth allan o oriau’r gwasanaethau cymdeithasol neu i’r heddlu.
Rhaid i’r staff allan o oriau arferol roi gwybod (yn ysgrifenedig, ac ar lafar hefyd os yw’n bosibl) i reolwr y gwasanaethau cymdeithasol am bob hysbysiad y diwrnod canlynol, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd.
Wrth dderbyn yr hysbysiad y tu allan i’r oriau arferol, rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol neu’r heddlu:
Ni ddylai methu â gwneud gwiriadau eraill atal rhag cymryd unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg.
Dylai trefniadau fod ar waith fel y gall gweithwyr cymdeithasol geisio cyngor cyfreithiol y tu allan i’r oriau arferol.
Bydd rhai hysbysiadau yn dweud bod angen camau brys ac amddiffyn ar unwaith oherwydd bod y wybodaeth a adroddwyd yn dangos bod oedolyn yn wynebu risg a bod oedolion neu blant eraill o bosibl yn wynebu risg hefyd a bod angen eu diogelu ar unwaith. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i asiantaethau â’r pwerau amddiffyn perthnasol (y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu), neu sydd â chyfrifoldeb gwasanaeth (iechyd neu’r gwasanaethau brys) ymateb yn gyflym i ddiogelu’r unigolyn a’r bobl eraill.
Er enghraifft: mae hen fenyw â demensia yn cael cymorth gan ei gŵr. Mae ei gŵr wedi gwrthod cymorth allanol ar gyfer ei wraig o’r blaen ond cydnabuwyd ei fod yn profi straen meddwl eithafol yn gofalu amdani. Heddiw, clywodd cymdogion ef yn gweiddi ar ei wraig ac yn datgan y byddai’n diweddu popeth i’r ddau ohonynt. Mae wedi ceisio lladd ei hun o’r blaen yn ei 60au pan oedd e’n dioddef gan iselder wedi ymddeol. Gwrthododd adael ei gymdogion i’r tŷ a gwaedda fod popeth yn iawn pan fyddant yn galw wrth y drws. O ystyried ei hanes a’r straen meddwl eithafol sy’n effeithio arno ar hyn o bryd, mae angen gweithredu ar unwaith er mwyn amddiffyn yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i diogelu heb oedi.