Rhannu Cymraeg English

Ymateb i hysbysebiad

Adref 3 rhan 1

Mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ymateb i hysbysebiad am blentyn sy’n wynebu risg o gael ei niweidio, ei gam-drin neu esgeuluso.

Yr egwyddor allweddol bob amser yw diogelu’r plentyn.

O.N. Gan mai adran gwasanaethau cymdeithasol yr Awdurdod lleol sy’n ymateb i hysbysebiad am blentyn mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed, defnyddir y term ‘Gwasanaethau cymdeithasol’ yn hytrach nag awdurdod lleol.

At ddibenion y gweithdrefnau hyn, defnyddir y term ‘hysbysebiad i’r wasanaethau cymdeithasol’ i feddwl atgyfeiriad hefyd.

Y dasg

Mae ymateb i hysbysebiad am blentyn sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, yn golygu bod gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol yn casglu digon o wybodaeth i benderfynu pa gamau ddylai ddilyn. Gallai hyn gynnwys gweithio ar y cyd â’r heddlu os yw’r plentyn mewn perygl o niwed sylweddol ar unwaith a/neu fod trosedd wedi’i chyflawni o bosib.

Gellir cysylltu ag ymarferwyr o asiantaethau eraill i roi gwybodaeth. Mae ganddynt dyletswydd i gydweithio a rhoi gwybodaeth dan adran 164 Deddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Casglu gwybodaeth gan y sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad

Dylid ystyried hysbysebiad sy’n honni bod plentyn wedi cael ei gam-drin, neu mewn perygl o gael ei gam-drin, yn ddifrifol bob tro, a dylai ymholiadau gan y gwasanaethau cymdeithasol ddechrau heb oedi.

Gall hyn olygu’r adran gwasanaethau cymdeithasol pan fo’r plentyn:

  1. yn byw: yn ei gyfeiriad parhaol neu dros dro, er enghraifft, llety i’r digartref;
  2. wedi’i leoli: er enghraifft, mewn lleoliad y tu allan i’r ardal;
  3. wedi’i ganfod: er enghraifft, mae ar wyliau, wedi rhedeg i ffwrdd ac wedi cael ei ganfod mewn gorsaf reilffordd mewn ardal awdurdod arall.

Dylid trin pob hysbysebiad yn yr un modd, ni waeth a yw’r achos honedig o gam-drin wedi digwydd yn y teulu, neu’r tu allan, ac ni waeth o ba ffynhonnell y daw’r hysbysebiad . Mae hynny’n golygu y dylid trin hysbysebiad au dienw, y rhai hynny o’r cyhoedd yn gyffredinol ac aelodau o’r teulu yn yr un modd ag hysbysebiad au gan ymarferwyr.

Awgrymiadau Ymarfer: Dod i Hyd i Wybodaeth yn Dilyn Hysbysebiad – Yr Heriau

Derbyn hysbysebiad

Pan fydd hysbysebiad yn dod i law ymarferydd yn y gwasanaethau cymdeithasol (y sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad ), dylai allu casglu’r canlynol o’r hysbysebiad:

  • gwybodaeth sylfaenol ynghylch y plentyn a’i deulu;
  • testun y pryder a natur y dystiolaeth i gefnogi’r pryderon hyn;
  • unrhyw wybodaeth berthnasol sydd gan yr unigolyn a’i asiantaeth.

Mae angen digon o wybodaeth ar y sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad i:

  • sicrhau bod enwau, enwau eraill, cyfeiriadau, dyddiadau geni yn gywir;
  • fod yn eglur ynglŷn â’r pryderon am gam-drin, niwed neu esgeulustod;
  • deall sail y pryderon a’r dystiolaeth amdanynt;
  • ystyried a fydd angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod plentynneu plant mewn perygl, yn rhydd rhag niwed;
  • asesu p’un ai yw trosedd wedi’i chyflawni;
  • ceisio canfod a oes cydsyniad wedi’i gael ar gyfer yr hysbysebiad , ac os nad oes, pam;
  • bod yn ymwybodol o anghenion penodol, er enghraifft am gyfieithydd, arwyddwr.

Os nad oes modd i’r sawl sy’n derbyn yr hysbysebiad gael digon o wybodaeth gan y sawl sy’n adrodd, dylai gysylltu ag ymarferwyr eraill a allai fod â gwybodaeth am y plentyn a’i deulu.

Awgrymiadau Ymarfer: Ffactorau goddrychol canllaw ymarfer all ddylanwadu ar y modd y caiff hysbysebiad ei dderbyn

Esbonio’r camau nesaf gyda’r sawl sy’n cymryd yr hysbysebiad

Ar ddiwedd unrhyw drafodaeth am blentyn, dylai’r gwasanaethau cymdeithasol a’r ymarferydd sy’n llunio’r hysbysebiad fod yn eglur ynglŷn â:

  • y camau gweithredu cychwynnol a gynigiwyd;
  • pwy fydd yn cyflawni’r camau gweithredu hyn;
  • yr hyn y bydd y plentyn a’r teulu yn cael gwybod am yr hysbysebiad a pha asiantaeth fydd yn dweud wrthynt.

Os yw'r hysbysebiad yn cael ei wneud dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yna dylid gofyn i’r ymarferydd sy’n adrodd gadarnhau’r wybodaeth yn ysgrifenedig o fewn 24 awr, gan ddefnyddio ffurflen gyfeirio’r gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai’r gwasanaethau cymdeithasol gydnabod derbyn yr hysbysebiad yn ysgrifenedig o fewn 7 diwrnod gwaith o’i dderbyn.

Caiff aelodau o’r cyhoedd sy’n gwneud hysbysebiad au gadarnhad eu bod wedi’u derbyn naill ai gan y person sy’n derbyn yr hysbysebiad gwreiddiol, neu drwy ddull arall a gytunwyd.

Dylid gwneud unrhyw un sy’n rhoi gwybod am achos o gam-drin, niwed neu esgeuluso yn ymwybodol y gallai unrhyw ymholiadau dilynol gael eu cynnal naill ai ar y cyd gan yr heddlu a’r Gwasanaethau cymdeithasol neu fel ymholiad gan un asiantaeth unigol (y gwasanaethau cymdeithasol).

Hysbysebiad au y tu allan i oriau swyddfa arferol

Y tu allan i’r oriau swyddfa arferol, gellir cyflwyno hysbysebiad au i wasanaeth allan o oriau’r gwasanaethau cymdeithasol/y Tîm Dyletswydd Brys a/neu i’r heddlu gweler Adran 2.

Rhaid i’r staff allan o oriau roi gwybod (yn ysgrifenedig, ac ar lafar hefyd os yn bosibl) am bob hysbysebiad a wneir i’r gwasanaethau cymdeithasol, i’r tîm perthnasol yn yr adran honno, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu sydd eisoes wedi’u cyflawni.

Wrth dderbyn yr hysbysebiad y tu allan i’r oriau arferol, rhaid i’r gweithiwr cymdeithasola/neu swyddog yr heddlu:

  • fod yn ymwybodol o unrhyw arwydd o berygl uniongyrchol i’r plentyn neu blant eraill neu oedolion eraill mewn perygl, a rhaid bod yn barod i weithredu ar unwaith i sicrhau eu bod yn ddiogel; gall hyn gynnwys trefnu eu bod yn gweld meddyg;
  • lle ceir hysbysebiad o natur ddifrifol sydd angen ymateb brys, dylai pwy bynnag sy’n derbyn yr hysbysebiad – y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu – sicrhau bod yr asiantaeth arall yn cael gwybod ac yn penderfynu ar y cyd pa gamau gweithredu, os o gwbl, sydd eu hangen i sicrhau bod y plentyn ac unrhyw blant eraill yn ddiogel. Rhaid i hyn gynnwys trafod strategaeth (gweler isod) sy’n cofnodi’r camau gweithredu y cytunir arnynt a’r person sy’n gyfrifol am eu cyflawni. Mae’n rhaid i’r gwaith o drafod strategaeth y tu allan i’r oriau arferol gael ei chynnal gan weithiwr cymdeithasol y Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) ac uwch swyddog yr heddlu. Dylai’r TDA gwblhau’r ddogfennaeth berthnasol yn unol â threfniadau lleol;
  • Mae’n rhaid i’r gwasanaeth y tu allan i oriau / gweithiwr cymdeithasoly tîm dyletswydd argyfwng (TDA) wirio’r gofrestr amddiffyn plant am wybodaeth ar y plentyn a gwneud unrhyw wiriadau eraill posibl y tu allan i oriau, ond mae’n cydnabod y gall y rheiny fod yn gyfyngedig.

Fodd bynnag, ni ddylai methu cyflawni gwiriadau eich rhwystro rhag cymryd unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol i warchod y plentyn.

Dylai cyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod trefniadau ar waith fel y gall gweithwyr cymdeithasol geisio cyngor cyfreithiol y tu allan i’r oriau arferol.