Cynhadledd amddiffyn oedolion: y rhesymeg
Adref 3 rhan 2
Dylid trefnu cynhadledd amddiffyn oedolion os mai’r canlynol yw canlyniad yr ymholiadau a126 a’r cyfarfod/trafodaeth strategaeth:
- yr oedolyn yn parhau i wynebu risg ac mae angen gweithredu hirdymor i’w ddiogelu rhag cam-drin ac esgeulustod (penderfyniad 3) a / neu
- mae proses ymchwilio’r achos wedi ei chwblhau.
Mae’n hanfodol bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn rheoli penderfyniadau ynghylch sut mae’r risgiau y mae’n eu hwynebu mewn perthynas â chamdriniaeth ac esgeulustod yn cael eu rheoli.
Gellir cyflawni hyn os:
- yw’r oedolyn sy’n wynebu risg o’r farn bod y broses ddiogelu yn rymusol a chefnogol;
- yw unrhyw gamau gweithredu’n adlewyrchu natur a difrifoldeb y perygl;
- yw’r unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau dymunol.
Mae’n hanfodol bod oedolion sy’n wynebu risg yn cael cynnig ac yn cael eu cefnogi gan eiriolwr annibynnol drwy gydol y broses os oes angen.
Wrth benderfynu a ddylid cynnal cynhadledd amddiffyn oedolyn, dylai ymarferwyr ystyried y canlynol:
(See Adran 3 rhan 1 Y Drafodaeth / Cyfarfod Strategaeth: y diben)
Mae’r gynhadledd amddiffyn oedolion yn benodol i bob achos, cyfarfod amlasiantaeth a’r oedolyn sy’n wynebu risg a’i eiriolwr.
Bydd cynhadledd amddiffyn oedolyn yn digwydd fel arfer yn yr achosion isod:
- mae angen persbectif aml asiantaeth er mwyn adolygu canfyddiadau’r ymchwiliad a’r ymholiadau adran s126;
- mae ymchwiliad mawr wedi’i gynnal, er enghraifft, mewn achosion o gam-drin cyfundrefnol;
- gallai bod angen gweithredu mewn perthynas â phryderon/cyhuddiadau diogelu yn erbyn ymarferwr, ‘person yr ymddiriedir ynddo’;
- mae’r ymchwiliad a/neu'r ymholiadau adran 126 yn gymhleth.
Dylai’r gynhadledd amddiffyn oedolion, ym mhob achos, ddilyn ymchwiliad investigation o’r camdriniaeth oni bai mai dymuniad clir yr oedolyn yw peidio â chael cynhadledd.
Y nodau
Dyma’r nodau:
- rhannu a thrafod canlyniad yr ymholiadau adran s126 ac unrhyw ymchwiliad arall;
- rhoi adborth a gwerthuso’r holl dystiolaeth o gamdriniaeth a/neu esgeulustod sydd wedi digwydd;
- asesu’r risg parhaus o gamdriniaeth a/neu esgeulustod;
- cynhyrchu neu adolygu cynllun amddiffyn, gofal a chymorth i fodloni unrhyw anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn parhaus;
- nodi a chytuno ar unrhyw gamau pellach mae eu hangen i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg;
- ystyried camau i'w cymryd yn erbyn y cyflawnwr;
- ystyried camau rheoliadol, cyfreithiol neu statudol angenrheidiol;
- pennu a yw’r oedolyn sy’n wynebu perygl yn fodlon ar ganlyniad yr ymchwiliad.
Canllaw Ymarfer: O’r dyletswydd i Adrodd wrth y Gynhadledd Amddiffyn Oedolion
Canllaw Ymarfer: Adnoddau Asesu Risg
Canllaw Ymarfer: Asesiadau Risg a Dull sy’n Canolbwyntio ar y Person
Canllaw Ymarfer: Anghenion Gofal a Chymorth neu Anghenion Gofal a Chymorth ac Amddiffyn?