Rhannu Cymraeg English

Y cynllun diogelu gofal a chymorth

Adref 4

Dylai’r cynllun ganolbwyntio ar yr unigolyn a dylai fod yn seiliedig ar gryfderau.

Dylai:

Datblygu’r cynllun

Dylai’r cynllun:

Erbyn diwedd y cyfarfod strategaeth cyntaf dylai cynllun fod wedi ei baratoi a fydd yn sicrhau bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn ddiogel rhag cael ei gam-drin a’i esgeuluso.

Dylai ymarferwyr ddeall yn glir:

(See Adran 5 ymateb i bryderon proffesiynol).

Awgrymiadau Ymarfer: Datblygu cynllun amddiffyn gofal a chymorth: Gwersi a Ddysgwyd

Awgrymiadau Ymarfer: Amddiffyn Oedolion sy’n Wynebu Risg rhag Camdriniaeth ac Esgeulustod

Nodi camau gweithredu ac ymyriadau

Gall y cynllun amddiffyn gofal a chymorth gwmpasu nifer o weithgareddau ac ymyriadau a luniwyd i:

Dylai’r rhain gynnwys camau megis:

er enghraifft, mesurau diogelwch, teleofal, arwyddion ar systemau, gwybodaeth electronig
er enghraifft, cynnig cyfarwyddyd ar reoli materion ariannol yr oedolyn sy’n wynebu risg
er enghraifft, cwnsela a chymorth therapiwtig, gweithgareddau i feithrin hunan-barch a hyder
er enghraifft, gwasanaethau cymorth trais domestig neu gamdriniaeth rywiol
er enghraifft, gofal yn y cartref, asesiadau gofalwyr
er enghraifft, cyfiawnder adferol, iawndal am anafiadau troseddol
Enghraifft: Mae cymdogion dyn ifanc, sy’n aelodau o Gynllun Gwarchod Cymdogaeth, yn pryderu fwy a mwy ei fod yn wynebu risg gan ei fod yn caniatáu pobl ifanc i ddefnyddio ei gartref liw nos ac yn ystod y nos. Mae’r cymdogion wedi clywed y bobl ifanc yn gwawdio a bwlio’r oedolyn. Maen nhw’n dod yn ôl ac ymlaen fel y mynnant gan fod y drws ffrynt wastad yn agored ac maen nhw’n amau eu bod nhw’n cymryd eiddo o’i dŷ, er enghraifft, fe welson nhw un yn dod allan gyda theledu a, phan holodd y cymydog ef, dwedodd ei fod wedi’i roi iddo. Mae’r cymydog yn pryderu y bydd hyn yn parhau oni bai bod rhywbeth yn cael ei wneud. Cyflawnir ymholiadau Adran 126 sy’n penderfynu bod hwn yn oedolyn sy’n wynebu risg a bod angen rhoi camau ar waith i’w amddiffyn (Penderfyniad 3). Cynhelir cyfarfod strategaeth ac mae’r grŵp strategaeth yn paratoi cynllun amddiffyn gofal a chymorth. Mae’r oedolyn sy’n wynebu risg, James, sydd ag anawsterau cyfathrebu, yn dweud drwy eiriolwr ei fod yn hoffi cwmni’r bobl ifanc sy’n ‘ffrindiau’ iddo am ei fod yn unig iawn. Fodd bynnag, nid yw James yn hoffi cael ei sarhau ac mae’n ofnus o’r bobl ifanc gan eu bod yn fygythiol ac yn gas wrtho os nad yw’n rhoi beth maen nhw ei eisiau iddyn nhw. Mae asesiad galluedd meddyliol yn nodi nad oes gan James y gallu i ddeall effaith hyn ar ei ddiogelwch personol. Mae James yn dweud ei fod yn unig a’i fod eisiau gwneud ffrindiau eraill ‘sy’n ei drin yn dda.’ Mae hefyd eisiau cael ei deledu yn ôl. Mae’n bosibl y bydd y cynllun amddiffyn gofal a chymorth dilynol yn cynnwys y canlynol: o Dylid cloi’r drws ffrynt a rhoi mesurau diogelwch eraill ar waith, fel bod James yn gwybod pwy sy’n galw heibio. o Mae’r heddlu yn cael gwybod ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad i ganfod pwy yw’r bobl ifanc ac yn ceisio cael y teledu yn ôl. o Dylid cynnig cyfaill i James i feithrin ei hyder a’i helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. o Asesiad gofal diwygiedig ar gyfer gofal ychwanegol gyda’r nos o Bydd y grŵp Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, â chaniatâd James, yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon pellach am bobl ifanc yn ymweld â James.

Awgrymiadau Ymarfer: Nodi Ymyriadau Effeithiol i Oedolion â Chynllun Diogelu Gofal a Chymorth

Cyfarfodydd strategaeth dilynol: monitro ac adolygu

Os oes angen cynnal cyfarfodydd strategaeth pellach, dylid eu cynnal o leiaf bob chwe wythnos. Dylai cyfarfodydd pellach sicrhau bod y cynllun amddiffyn gofal a chymorth yn cael ei gyflawni ac yn cyflawni’r canlyniadau a gytunwyd, neu os nad felly’r achos, dylid cytuno ar ba newidiadau mae angen eu gwneud.

DS: Pan fo angen camau parhaus i ddiogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth ac esgeulustod, gallai fod yn briodol cynnal cynhadledd amddiffyn oedolyn. Y nod yw sicrhau bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn rhan o’r broses ac nad oes unrhyw lithro o ran cynllunio ac adolygu priodol.

Dylai’r cwestiynau canlynol gael eu hystyried ym mhob cyfarfod:

Dylai holl aelodau’r cyfarfod strategaeth adael y cyfarfod gyda chyd-ddealltwriaeth glir o ran yr hyn y disgwylir iddyn nhw fod wedi’i gyflawni un ai erbyn y cyfarfod nesaf neu erbyn y gynhadledd amddiffyn oedolyn.

Dylai unrhyw gamau fod yn benodol gysylltiedig â chyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Mae hyn yn sicrhau bod ymarferwyr yn deall y sail resymegol sy’n llywio’r camau y disgwylir ganddyn nhw a’r mesurau cynnydd.

Awgrymiadau Ymarfer: Monitro ac Adolygu’r Cynllun

Awgrymiadau Ymarfer: Agenda ar gyfer Cyfarfodydd Adolygu

Camau i’w dilyn pan fydd ymarferydd yn credu nad yw oedolyn sy’n wynebu risg yn cael ei ddiogelu’n ddigonol gan y cynllun amddiffyn gofal a chymorth

Mae’n ddyletswydd ar bob ymarferydd i roi gwybod i’r cydlynydd arweiniol am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol sy’n berthnasol i’r oedolyn sy’n wynebu risg. Ni ddylai hyn atal llunio adroddiad newydd os daw risgiau neu bryderon pellach i’r amlwg.

Os oes gan unrhyw ymarferydd bryderon nad yw oedolyn sy’n wynebu risg yn cael ei amddiffyn yn briodol, mae’n rhaid iddo roi gwybod am hynny ar unwaith i’w reolwr a’i swyddog diogelu arweiniol dynodedig.

Gall asiantaeth ystyried ei bod yn angenrheidiol uwchgyfeirio ei phryderon os yw’n credu bod oedolyn yn wynebu risg ac nad yw’r cynllun yn gweithio. Yn y lle cyntaf, bydd asiantaeth yn uwchgyfeirio’r pryderon at y cydlynydd arweiniol. Os nad yw hynny’n arwain at ganlyniad boddhaol, yna mae’n rhaid dilyn gweithdrefnau gwahaniaethau proffesiynol y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

1Gweler y canllaw arfer da: enghreifftiau o gamau gweithredu cadarnhaol ar gyfer cynlluniau diogelu oedolion