Mae’r grŵp craidd yn grŵp amlasiantaeth o ymarferwyr sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu cynllun amddiffyn, gofal a chymorth a’i roi ar waith.
- dylai’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth alw’r grŵp ynghyd;
- mae pob aelod o’r grŵp craidd yn berchen yn gyfartal ar y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth a’r un mor gyfrifol amdano a dylai gydweithredu i gyflawni ei nodau;
- mae gan aelodau grŵp craidd gyfrifoldeb am herio a rhoi gwybod am bryderon pan fônt yn credu nad yw’r cynllun yn amddiffyn y plentyn rhag y risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu ffurfiau eraill o niwed .
Aelodau'r grŵp craidd
Penderfynir ar aelodaeth ar adeg cofrestru a bydd yn cynnwys:
- y plentyn (a / neu eiriolwr -gyda chytundeb y plentyn);
- y cydlynydd cynlluniau gofal a chymorth (gweithiwr cymdeithasol);
- aelodau teulu perthnasol (gan gynnwys plant eraill);
- ymarferwyr a/neu ofalwyr maeth sydd â chyswllt uniongyrchol â’r teulu;
- pob ymarferydd sy’n ymwneud yn fawr â’r plentyn a’i deulu a gallai gynnwys ymarferwyr o wasanaethau gadael gofal neu wasanaethau i oedolion perthnasol;
- os bydd asiantaeth arall yn ymwneud â’r teulu, tra bo’r plentyn ar y gofrestr, gallai’r cydlynydd ei gwahodd i ymuno â’r grŵp craidd.
Ni chyfyngir ar aelodaeth a gall gynnwys pobl o’r maes iechyd, addysg, y sector gwirfoddol ac ati.
Awgrymiadau Ymarfer: Sicrhau Cyfranogiad Gweithredol gan Ymarferwyr yn y Grŵp Craidd
Cyfarfod cyntaf y grŵp craidd
Dylid cynnal y cyfarfod cyntaf ymhen 10 diwrnod gwaith o’r gynhadledd amddiffyn plant y cofrestrwyd y plentyn ynddi.
Diben cyfarfod cyntaf y grŵp craidd yw:
- datblygu’r cynllun amlinellol a grëwyd yn y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf yn gynllun amddiffyn, gofal a chymorth manwl;
- pennu’n fanwl yr hyn y mae angen i aelodau teulu ei wneud i gadw eu plant yn ddiogel;
- sicrhau bod y teulu’n deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt a pham;
- ystyried sut y gall ymarferwyr weithio’n benodol â’r teulu i gefnogi’r teulu i wneud newidiadau angenrheidiol i wella profiad y plentyn o fywyd a’i amddiffyn rhag niwed;
- egluro rolau a chyfrifoldebau ymarferwyr ac aelodau teulu sy’n ymwneud â’r cynllun amddiffyn plant;
- cytuno ar amlder cyswllt â’r plentyn gan y cydlynydd amddiffyn, gofal a chymorth (gweithiwr cymdeithasol) a/neu aelodau grŵp craidd eraill;
- cael gwybod pa asesiadau eraill ac arbenigol sydd eu hangen a phwy fydd yn comisiynu’r rhain;
- pennu cerrig milltir sy’n canolbwyntio ar y plentyn a mesuriadau canlyniadau penodol i sicrhau bod pob aelod o’r grŵp craidd yn deall bywyd y plentyn/plant ar adeg dad-gofrestru;
- nodi trefniadau wrth gefn os na fydd aelodau teulu’n cydymffurfio â’r cynllun.
Awgrymiadau Ymarfer: Cyfarfod Cyntaf y Grŵp Craidd – Arfer Effeithiol
Datblygu’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth
Erbyn diwedd cyfarfod cyntaf y grŵp craidd dylai’r teulu a’r ymarferwyr ddeall y canlynol yn glir:
- Y risgiau i’r plentyn a nodwyd;
- y rhesymeg ar gyfer y cynllun;
- cynnwys y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth;
- yr hyn a ddisgwylir gan bob aelod teulu a phob ymarferydd;
- dymuniadau a theimladau’r plentyn;
- barn y rhiant/rhieni.
Cyflawnir hyn trwy:
- sicrhau bod dealltwriaeth a rennir o’r risgiau sydd o niwed sylweddol ;
- ychwanegu manylion i’r cynllun gwreiddiol a grëwyd yn y gynhadledd i wneud yn glir y cyswllt rhwng anghenion y plentyn, camau gweithredu gan y teulu a’r ymarferwyr a chanlyniadau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Dyluniwyd y cwestiynau canlynol i gyflawni hyn:
- Ydyn ni’n rhannu dealltwriaeth o’r pryderon ynghylch niwed sylweddol a’r ffyrdd y maent yn effeithio ar y plentyn, fel y nodwyd yn y gynhadledd? Os na, beth yw’r gwahaniaethau? Sut ydyn ni’n mynd i’r afael â hyn?
- Beth mae’r rhiant/rhieni a’r plentyn am ei gyflawni?
- Sut beth fyddai profiad y plentyn o fywyd bob dydd pe baem yn mynd i’r afael â'r pryderon?
- O ystyried hyn, beth yw ein mesurau canlyniadau terfynol?
- Sut byddwn ni’n mesur newid ychwanegol?
- Beth ydyn ni’n ei wybod am allu ac ysgogiad y rhiant/rhieni i ymgysylltu â’r cynllun er mwyn bodloni anghenion amddiffyn, gofal a chymorth y plentyn?
- Sut gallwn ni adeiladu ar gryfderau rhianta?
- Beth yw’r rhwystrau i newid?
- Beth ydyn ni’n ei wybod am ymddygiad rhianta ac ymgysylltu â gwasanaethau yn y gorffennol a ddylai lywio’r cynllun?
- Sut gall ymarferwyr ddangos eu hymrwymiad i gymorth a gweithio gyda'r teulu i sicrhau y caiff anghenion amddiffyn, gofal a chymorth y plentyn eu bodloni?
D.S. Nid yw hon yn rhestr ollgynhwysfawr.
Awgrymiadau Ymarfer: O’r Cynllun Amlinellol i Gynllun Amddiffyn, Gofal a Chymorth Ymarferol
Awgrymiadau Ymarfer: Nodi Ymyraethau Effeithiol ar gyfer Plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant