Rhannu Cymraeg English

Ymholiadau adran 47: ystyriaethau allweddol

Adref 3 rhan 1

Mae’r ymholiadau adran 47 yn dechrau pan fydd trafodaeth/cyfarfod strategaeth yn penderfynu bod tystiolaeth yn dangos bod ymholiadau o’r fath yn angenrheidiol.

Tasg

Diben ymholiadau adran s47 yw cadarnhau a yw plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol a bod angen ymyriad i ddiogelu a hybu ei les.

Diben ymholiadau adran 47 yw:

  • casglu digon o wybodaeth i benderfynu:
  • beth sydd orau i’r plentyn i’w amddiffyn rhag niwed sylweddol – boed hynny’n bendant neu’n debygol – a hybu ei les;
  • llywio unrhyw gynllun amddiffyn gofal a chymorth dilynol.
  • ystyried anghenion posibl a diogelwch unrhyw frodyr neu chwiorydd, plant neu oedolion mewn perygl yng nghartref y plentyn dan sylw, neu sydd mewn cysylltiad â’r camdriniwr honedig.
  • llywio penderfyniadau a wneir gan yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â chamau cyfreithiol, boed hynny’n droseddol, yn sifil neu’r ddau.

Proses

Er mwyn cyflawni’r amcanion dylai’r ymarferwyr ystyried:

  • Beth sydd angen i ni ei wybod? Pwy sydd mewn cysylltiad â’r plentyn a’i deulu? Pa wybodaeth berthnasol sydd ganddynt o bosibl?
  • Sut fydd y plentyn a’r teulu yn ymwneud â’r broses asesu? A ydym yn rhoi digon o ystyriaeth i hil, ffydd, ethnigrwydd, anableddau, afiechydon meddyliol neu gorfforol?
  • Pa ddulliau fydd yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth? A oes angen unrhyw asesiadau manwl?

Awgrymiadau Ymarfer: Cwestiynau i’w Hystyried yn Rhan o a47 Ymholiadau dan Ddeddf Plant 1989

Rôl y gweithiwr cymdeithasol

Y gwasanaethau cymdeithasol sydd â’r cyfrifoldeb pennaf am yr ymholiadau. Dylai’r gweithiwr cymdeithasol sy’n arwain yr ymholiadau fod yn gymwys ac wedi cwblhau’r hyfforddiant perthnasol. Dylai hefyd gael ei oruchwylio’n briodol.

Mae gan ymarferwyr eraill fel yr heddlu, gweithwyr iechyd, addysg a phartneriaid perthnasol eraill ddyletswydd i gydweithio a helpu’r gwasanaethau cymdeithasol i gyflawni ei ymholiadau.

Cylch gwaith cyffredinol y gweithiwr cymdeithasol yw canolbwyntio ar lesiant a diogelwch y plentyn a nodi perygl go iawn neu berygl posib o niwed sylweddol.

Mae’r gweithiwr cymdeithasolyn gyfrifol am:

  • arwain a rheoli’r ymholiad adran 47 i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt ac yn unol â phrotocolau lleol;
  • sicrhau bod yr asiantaethau sy’n cymryd rhan a, pha fo hynny’n briodol, bod y sawl wnaeth yr hysbysebiad yn cael gwybod am gynnydd a chanlyniadau;
  • gweld y plentyn/plant ac, os yw’r plentyn yn ddatblygiadol abl, cadarnhau beth yw ei brofiadau, dymuniadau, teimladau a’r canlyniadau yr hoffai eu gweld;
  • sicrhau bod unrhyw drefniadau cyfathrebu yn adlewyrchu anghenion penodol ac oedran datblygiadol y plentyn/plant;
  • cyfarfod ag aelodau o’r teulu (ar wahân neu gyda’i gilydd yn dibynnu ar y sefyllfa) i gasglu digon o wybodaeth am y plentyn/plant a’u teulu i gadarnhau a yw’r plentyn/plant yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Dylid sicrhau bod dulliau o gyfathrebu sy’n ystyried anghenion unigol aelodau’r teulu yn cael eu defnyddio. Er enghraifft, defnyddio dehonglwyr i hyrwyddo’r iaith o ddewis.
  • nodi pob oedolyn sy’n byw yn y cartref, ac unrhyw bobl eraill o bwys, a chwblhau gwiriadau’r heddlu;
  • cwblhau gwiriadau gydag asiantaethau perthnasol a chael gwybodaeth berthnasol gan yr asiantaethau hynny;
  • cwblhau dadansoddiad i nodi a oes gan y plentyn anghenion diogelwch, gofal a chymorth;

Er mwyn sicrhau bod y ffocws ar y plentyn a’i anghenion gofal a chymorth, mae’n bwysig:

  • ceisio cadw meddwl agored, er bod yna farn gychwynnol;
  • casglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau;
  • cadarnhau bod ymarferwyr y gofynnir iddynt am wybodaeth yn ymwybodol o’r pryder, bod ymholiadau adran 47 yn mynd rhagddynt a chamau gweithredu posibl a all ddeillio o hynny;
  • sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn gymesur i’r dasg a bod y sawl sy’n cyfrannu at yr asesiad yn deall yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud;
  • defnyddio amrywiaeth o adnoddau – e.e. cronolegau, genogramau – er mwyn ceisio deall y teulu a’u sefyllfa;
  • diweddaru cronolegau;
  • defnyddio dull beirniadol a dadansoddol drwy gydol y broses.

Awgrymiadau Ymarfer: Casglu Gwybodaeth fel Rhan o Ymholiadau adran 47 dan Ddeddf Plant 1989

Awgrymiadau Ymarfer: Nodi’r Profiadau Byw Dyddiol

Awgrymiadau Ymarfer: Cronolegau, Genogramau ac Eco-Fapiau

Ymholiadau adran 47

Mae’n llawer rhy hawdd i ymarferwyr prysur, yn gweithio i amserlenni tynn, fwrw ati o ddifrif a dechrau casglu gwybodaeth heb dreulio amser yn cynllunio’r ymholiadau adran 47 yn fanwl. Gall yr ymateb hwn arwain at gasglu gwybodaeth nad yw’n canolbwyntio ar y plentyn.

Tabl 2 Cynllun aml-asiantaeth ar ymholiadau adran 47: pwy sy’n gwneud beth? Nod Tabl 2 yw rhoi trosolwg o’r tasgau a’r camau gweithredu y dylid eu hystyried yn y cyfarfod/trafodaeth strategaeth gychwynnol.

Casglu gwybodaeth aml-asiantaeth

I wneud dadansoddiad ar sail gwybodaeth, a dod i farn broffesiynol ar anghenion y plentyn a’r perygl o niwed sylweddol, dylai ymarferwyr, dan arweiniad y gweithiwr cymdeithasol a nodwyd o’r gwasanaethau cymdeithasol, gasglu gwybodaeth sy’n cynnwys:

  • y digwyddiad neu bryderon ddaeth â’r plentyn a’i deulu i sylw asiantaethau;
  • profiad byw dyddiol y plentyn/plant a’u gofalwr/wyr, ynghyd â’u dymuniadau a’u teimladau am eu bywydau a’r canlyniadau yr hoffent eu gweld;
  • canfyddiadau aelodau’r teulu o’r digwyddiad a/neu eu pryderon, eu hanghenion a’u cryfderau;
  • gwybodaeth am y teulu, yn hanesyddol ac yn y presennol, gan weithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad ag aelodau o’r teulu;
  • strwythur y teulu, rhwydwaith a hanes teuluol;
  • safon yr ymlyniad rhwng y plentyn/plant a’r gofalwyr;
  • cryfderau’r teulu;
  • y peryglon i’r plentyn/plant;
  • angen y plentyn i gael ei amddiffyn;
  • gallu’r rhieni a’r teulu ehangach a rhwydweithiau cymdeithasol i ddiogelu a hybu lles y plentyn.

Mae casglu gwybodaeth yn broses ac yn debygol o roi’r plentyn yn ganolog os yw’r ymarferwyr sydd â rhan yn y broses yn eglur am y dasg a’u rolau a’u cyfrifoldebau penodol.

Awgrymiadau Ymarfer: Cronolegau ac ymwneud asiantaethau yn y gorffennol

Awgrymiadau Ymarfer: Casglu gwybodaeth yn rhan o’r ymholiadau adran 47

Awgrymiadau Ymarfer: Cyfrannu at Ymholiadau adran 47

Awgrymiadau Ymarfer: Saith Rheol Euraidd ar gyfer Rhannu Gwybodaeth

Casglu gwybodaeth gan riant/rhieni

Mae disgwyl i ymarferwyr fel rhan o ymholiadau adran 47 benderfynu a yw plentyn/plant mewn perygl o niwed sylweddol oherwydd gallu rhianta eu rhiant/rhieni neu ofalwr/ofalwyr a pham ddylai hyn fod.

Er mwyn sefydlu hyn, dylai ymarferwyr ystyried:

  • profiad byw dyddiol pob gofalwr a sut mae hyn yn effeithio ar ei allu i fodloni anghenion y plentyn. Mae’n bwysig cydnabod anghenion sy’n cael eu bodloni a’r rhai nad ydynt yn cael eu bodloni;
  • agwedd y gofalwr tuag at y plentyn a’i ddiogelwch a’i anghenion gofal a chymorth;
  • eu gallu a’u hysgogiad i fodloni anghenion y plentyn;
  • p’un ai a yw materion sy’n ymwneud ag oedolion yn effeithio ar allu rhianta;
  • ffactorau economaidd sy’n effeithio ar y gallu i rianta;
  • y rhan y mae teulu estynedig yn ei chwarae, partneriaid presennol ac yn y gorffennol sy’n rhan o’r bywyd teuluol ac unrhyw rwydweithiau cefnogi.

Awgrymiadau Ymarfer: Cadarnhau Profiad Byw Dyddiol y Teulu

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli Gwrthsafiad i Ymholiadau adran 47

Casglu gwybodaeth gan blant

Mae llais y plentyn yn ganolog i ddeall y gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed y mae’r plentyn wedi neu yn ei wynebu. Mae’n bwysig felly bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w brofiad byw, dymuniadau a theimladau.

Bydd y gweithiwr cymdeithasolsy’n arwain yr asesiad fel arfer yn gweld y plentyn/plant sy’n ganolbwynt i’r ymholiadau adran 47. Dylid eu gweld ar eu pen eu hunain. Os na chawsant eu gweld ar eu pen eu hunain, pwy oedd yn bresennol – dylid cofnodi pam eu bod yn bresennol. Dylai’r gweithiwr cymdeithasol fod yn ddigon cymwys i ymgysylltu â’r plentyn, asesu’r sefyllfa a chymryd unrhyw gamau brys sydd eu hangen i warchod y plentyn.

Dylid ystyried rhyw'r gweithiwr cymdeithasol ac ystyried defnyddio eiriolwr. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn achosion o gamdriniaeth rywiol honedig.

Mae ‘gweld’ y plentyn yn llawer mwy na dim ond bwrw golwg ar y plentyn hwnnw

Mae gweld y plentyn yn golygu:

  • esbonio iddo pam ei fod yn cael ei weld, a rhoi gwybodaeth iddo ar gais;
  • gwrando ar yr hyn sydd ganddo i’w ddweud am achos y pryder;
  • sylwi ar ei ymddygiad, ymddangosiad ac ymarweddiad;
  • sylwi ar sut mae’n rhyngweithio gyda’r rhiant/rhieni a’r ymarferydd;
  • cadarnhau ei brofiadau;
  • dod i ddeall ei ddymuniadau a’i deimladau a’r hyn yr hoffai ei newid;
  • ei sicrhau a thawelu unrhyw ofnau heb wneud addewidion na ellir eu cadw.

Wrth weld y plentyn, dylai ymarferwyr ystyried gallu gwybyddol a cham datblygiadol y plentyn ac addasu dulliau cyfathrebu yn unol â hynny.

Dylid ystyried hefyd unrhyw gymorth arbenigol sydd angen i sicrhau cyfathrebu ystyrlon.

Er enghraifft, oes gan y plentyn:

  • anabledd dysgu neu gorfforol, neu broblem iechyd meddwl;
  • yr angen i ddefnyddio dulliau ehangach o gyfathrebu ar wahân i siarad;
  • famiaith nad yw’n Gymraeg neu Saesneg?

Dylai ymarferwyr hefyd:

  • weld a chofnodi trefniadau byw a chysgu;
  • nodi materion diogelwch e.e. deunydd cyffuriau o gwmpas y lle;
  • sicrhau bod unrhyw blant eraill neu oedolion mewn perygl yn y cartref yn cael eu nodi a’u gweld.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cydnabod bod modd rhoi llais i blant ifanc iawn hyd yn oed.

Awgrymiadau Ymarfer: Ymgysylltu â Phlant Ifanc

Siarad â’r plentyn heb yn wybod i’r rhiant neu’r gofalwr

Mae’n bosib y bydd yn briodol i siarad â phlentyn heb yn wybod i’r rhiant neu ofalwr. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r adegau pan gall hyn ddigwydd. Nid yw’n rhestr gyflawn o reidrwydd.

  • pan na ellir cysylltu â’r rhiant neu’r person â chyfrifoldeb rhiant neu ofalwr. Er enghraifft: mae pob ymdrech i ddod o hyd i berson â chyfrifoldeb rhiant wedi methu a byddai oedi ymhellach yn peryglu diogelwch neu les y plentyn;
  • mae er budd penna’r plentyn i fwrw ymlaen heb gysylltu â’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant. Dylai fod modd cyfiawnhau’r rhesymau am y penderfyniad hwn, a dylid ei gofnodi ac ni ddylid ei wneud oni bai:
  • bod posibilrwydd y byddai’r plentyn yn cael ei fygwth neu’n cael ei orfodi i gadw’n dawel;
  • ei bod yn debygol y byddai tystiolaeth yn cael ei dinistrio;
  • nad yw’r plentyn am gynnwys y rhiant ar y cam yma, a’i fod yn ddigon cymwys i wneud y penderfyniad hwn.

Casglu gwybodaeth gan asiantaethau eraill

Bydd ymholiadau adran 47 amddiffyn plant yn cynnwys casglu gwybodaeth gan y rhai hynny sy’n gysylltiedig yn broffesiynol gyda’r plentyn neu’r teulu. Byddant yn cynnwys trafodaethau gydag ymarferwyr o asiantaethau eraill i gasglu’r wybodaeth berthnasol yn systematig.

Dylai ymarferwyr y gofynnir iddynt gyfrannu at asesiad ddarparu:

  • rhagor o wybodaeth am y plentyn a sefyllfa bresennol ei deulu, ac unrhyw gamau/gwasanaethau fyddai o fudd yn syth i sicrhau bod gofynion diogelwch, gofal a chymorth y plentyn cael eu bodloni;
  • llinell amser yn amlinellu cysylltiad perthnasol yr asiantaeth gyda’r teulu, yn seiliedig ar gofnodion achos.
Er enghraifft: nid yw rhestr o ddyddiadau pan aeth plentyn a esgeuluswyd i’r meddyg teulu yn golygu llawer. Beth sy’n berthnasol yw gwybodaeth am y cyflyrau meddygol oedd yn peri i’r plentyn fynd at y meddyg, ymateb y rhieni, e.e. presenoldeb mewn apwyntiadau, cymryd rhan mewn triniaethau
  • gwybodaeth bresennol a blaenorol ynghylch iechyd a datblygiad y plentyn/plant, gallu’r rhieni, materion yn ymwneud â bod yn oedolyn, ffactorau economaidd-gymdeithasol;
  • crynodeb o gysylltiad gwasanaethau ac effaith y ddarpariaeth hon ar y plentyn a’i deulu.

Awgrymiadau Ymarfer: Cyfrannu at Ymholiadau adran 47

Rhannu gwybodaeth a diogelu data

Dylai unrhyw wybodaeth a ddarperir ar gyfer ymholiadau adran 47 fod:

yn angenrheidiol ac yn gymesur;

mae hyn yn golygu ystyried natur y cais ac at ba ddiben y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.

Er enghraifft, gwybodaeth am ymddygiad presennol y plentyn sy’n awgrymu bod y plentyn yn destun camdriniaeth neu esgeulustod, neu allai wrthbrofi’r pryderon hynny.

perthnasol;

hynny yw, rhoi gwybodaeth sy’n briodol i’r cais pendodol.

Er enghraifft, mae angen i’r Gwasanaethau cymdeithasol wybod am unrhyw bryderon blaenorol gan asiantaeth ynghylch cam-drin neu esgeuluso’r plentyn.

yn ddigonol;

hynny yw, bod gwybodaeth a ddarperir yn ddigonol i sicrhau bod modd ei deall, a bod modd dibynnu arni.

Er enghraifft, gwybodaeth benodol am ymddygiad sy’n awgrymu bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, megis dechrau crynu pan ddaw gofalwr penodol i’r ystafell. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth a allai wrthbrofi pryderon o bosib.

Yn gywir;

hynny yw, mae’n seiliedig ar ffeithiau, nid rhagdybiaethau.

Er enghraifft, bod yn benodol ynglŷn â’r hyn gafodd ei weld a chan bwy. Bod staff mewn canolfan deulu neu ymwelydd iechyd wedi gweld ymateb y plentyn i’r gofalwr er enghraifft. Dylid rhoi manylion y staff sydd wedi sylwi ar yr ymddygiad.

ddiogel hynny yw, mae gwybodaeth a rennir wedi’i chyfyngu i’r rhai hynny sydd ag angen dilys i wybod, a chaiff ei rhannu’n ddiogel.

Er enghraifft, cadarnhau y bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw’n ddiogel, a gwirio pwy fydd yn cael ei gweld.

yn amserol;

hynny yw, mae wedi’i gyfyngu i’r hyn sydd ei angen ar gyfer y sefyllfa ar y pryd.

Er enghraifft, os oes angen y wybodaeth ar frys, galluogi’r Gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu i weithredu i ddiogelu ar unwaith. Mae’n bosib na fydd hi’n bosibl cael cydsyniad y rhiant cyn rhannu gwybodaeth.

wedi’i gofnodi;

hynny yw, cofnodi’n ysgrifenedig yr hyn sydd wedi cael ei rannu, a pham.

Er enghraifft, bod yn eglur o ran pa wybodaeth sydd wedi’i rhannu, gyda phwy ac at ba ddiben yn unol â gweithdrefnau cofnodi’r asiantaeth.

Awgrymiadau Ymarfer: Saith Rheol Euraidd ar gyfer Rhannu Gwybodaeth

Canllaw ar rannu gwybodaeth i blant – cydweithio i ddiogelu pobl

gofalcymdeithasol.cymru llyw.cymru

Rhannu gwybodaeth gyda’r teulu

Mae disgwyl i bob ymarferydd gymryd perchnogaeth o’r wybodaeth y mae wedi ei chyfrannu i’r ymholiad adran 47, a dylai sicrhau bod y rhiant/rhieni a’r plentyn/plant ill dau yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi cael ei gynnwys. Mae hyn i osgoi gwallau ac i atal syndod i aelodau o’r teulu pan fyddan nhw’n gweld hysbysebiad au cyn, neu yn ystod yr ystafell gynadledda neu leoliadau eraill.

Gwybodaeth gyfrinachol

Dylid cadw cyn lleied â phosib o wybodaeth gyfrinachol na ellir ei rhannu gyda’r teulu a/neu aelodau penodol o’r teulu, a dylid cael rheswm clir am beidio rhannu gyda’r teulu a/neu’r aelod o’r teulu.

Plant sy’n symud yn ystod ymholiadau adran 47 amddiffyn plant

Pan fydd plentyn sy’n destun ymholiadau adran 47 amddiffyn plant parhaus yn symud ardal, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn rhoi gwybod yn syth i’w reolwr llinell a bydd yn gyfrifol am ddweud wrth yr awdurdod lleol newydd heb oedi. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig, a darparu’r ddogfennaeth berthnasol o fewn dau ddiwrnod gwaith. Bydd y gweithiwr cymdeithasol hefyd yn dweud wrth yr asiantaethau perthnasol yn yr ardal y mae’r teulu wedi symud ohoni.

  • Os yw’n gwybod o flaen llaw am y symud, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn gyfrifol am ddweud wrth y rhieni bod hysbysebiad yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod newydd.
  • Os yw’r teulu’n symud cyn i ymholiadau ddechrau a bod yr awdurdod gwreiddiol yn dweud eu bod ar fin dechrau ymholiadau adran 47, dylai’r awdurdod sy’n derbyn y plentyn alw cyfarfod/trafodaeth strategaeth rhwng y ddau awdurdod i gynllunio’r ymholiadau. Dylid cynnal y drafodaeth/cyfarfod o fewn 48 awr i’r hysbysebiad gael ei wneud. Rôl yr awdurdod sy’n derbyn yw cynnal ymholiadau adran 47 a chadarnhau gyda’r awdurdod gwreiddiol pa un a oes angen unrhyw gamau gweithredu amddiffyn brys. Dylid cofnodi penderfyniadau yn eglur yn ffeiliau achos y ddau awdurdod.
  • Os yw teulu’n symud yn ystod ymholiadau adran 47 amddiffyn plant, dylid cynnal trafodaeth strategaeth, wedi ei chynnull gan yr awdurdod gwreiddiol. Rhaid iddo gynnwys yr awdurdod sy’n derbyn. Bydd y cyfarfod yn penderfynu ar rolau a chyfrifoldebau. Dylid cofnodi hyn yng nghofnodion y plentyn yn y ddwy ardal.