Rhannu Cymraeg English

Penderfyniadau ar ymholiadau A47

Adref 3 rhan 2

Mae’n hollbwysig bod unrhyw benderfyniad a wneir:

Dylid gwneud y penderfyniad ar ôl cynnal trafodaeth amlasiantaeth rhwng y rheiny sydd wedi cynnal yr ymholiadau neu sydd wedi bod ynghlwm wrth yr ymholiadau i raddau helaeth. Gallai hefyd gynnwys y rhai sydd ynghlwm yn sylweddol â bywyd y plentyn.

Y gwasanaethau cymdeithasol sy’n gyfrifol am benderfynu pa gamau i’w cymryd a sut i weithredu yn dilyn ymholiadau a47. Mae Adran 47 Deddf Plant 1989 yn glir mai’r Awdurdod Lleol sydd i benderfynu p’un a ddylid gweithredu ai peidio.

Dylid ystyried barn y plentyn/plant a’r rhieni hefyd, ond rheolwyr/ymarferwyr sy’n gwneud y penderfyniad.

Y ‘penderfyniadau’ i’w hystyried yw:

  • Penderfyniad 1: Pryderon heb eu cyfiawnhau;
  • Penderfyniad 2: pryderon wedi’u cyfiawnhau, ond ni ystyrir bod y plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol, er y gallai fod ganddo anghenion gofal a chymorth;
  • Penderfyniad 3: pryderon wedi’u cyfiawnhau, ac ystyrir i’r plentyn fod sy’n wynebu risg o gam-drin, niwed neu esgeulustod a dylid galw cynhadledd amddiffyn plant. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl mai cyfarfod/trafodaeth strategaeth ymhellach yw’r ffordd fwyaf effeithiol o drafod canlyniad yr ymholiadau a47 a phennu’r camau nesaf.

Gwneud y penderfyniad

Dylai ymarferwyr ddefnyddio:

  • eu gwybodaeth arbenigol;
  • gwybodaeth berthnasol gyfredol a blaenorol o gofnodion, y plentyn a’r teulu;
  • gwybodaeth berthnasol a gafwyd yn ystod yr asesiad o ymholiad a47

A drwy hyn, dylent:

  • ddadansoddi’r wybodaeth;
  • gwneud dyfarniad ymarferydd am y plentyn a’i amgylchiadau
  • ystyried tebygolrwydd ymyriadau llwyddiannus ar sail dystiolaeth glir;
  • dod i gasgliad ynghylch y penderfyniad priodol;
  • bod yn ymwybodol o or-optimistiaeth a dylanwadau goddrychol eraill a allai lywio’r broses benderfynu.

Dylid gwneud cofnod o’r drafodaeth mewn fformat y cytunir arno gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (BDRh).

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl na fydd y penderfyniad mor ddu a gwyn. Yn sgil hynny, mae rhai Byrddau Diogelu Rhanbarthol wedi llunio dogfennau terfynau all weithredu fel canllawiau i’ch helpu wrth wneud penderfyniadau.

Wrth benderfynu p’un a gyrhaeddwyd trothwy, dylai ymarferwyr ystyried arwyddion a dangosyddion cam-drin ac esgeulustod.

Awgrymiadau Ymarfer: Arwyddion a Dangosyddion Cam-drin Posibl, Esgeulustod a Niwed Mewn Plentyn

Dylai Ymarferwyr hefyd ystyried Protocolau Diogelu Plant Cymru gyfan mewn amgylchiadau penodol.

Awgrymiadau Ymarfer: Gwneud Penderfyniadau Gwrthrychol

Awgrymiadau Ymarfer: Heriau o ran Asesiadau Risg a Gwneud Penderfyniadau Cyrraedd Cytundeb Ymarferwyr ynglŷn â Niwed Sylweddol

Penderfyniad 1: nid yw pryderon o ran niwed sylweddol wedi’u cadarnhau

Wrth ddod â’r ymholiadau a47 i ben a dadansoddi’r wybodaeth a gasglwyd, os nad yw’r pryderon ynglŷn â niwed sylweddol wedi’u cyfiawnhau, dylai’r penderfyniad hwn gael ei gadarnhau gan y rheolwr perthnasol o fewn y gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai’r rheolwr ddilysu unrhyw benderfyniad o ran dod â’r ymholiad a47 i ben a chadarnhau nad oes angen gweithredu ymhellach. Dylai ystyried:

  • yr angen am ofal a chymorth a p’un a ddylid cynnal asesiad dan Ran 3 adran 21 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gyda chysyniad y rhieni;
  • a allai’r teulu elwa ar gael ei gyfeirio at wasanaethau cymorth cynnar;
  • a ddylid ailasesu iechyd a datblygiad y plentyn yn rheolaidd yn erbyn amcanion penodol. Mewn sefyllfa o’r fath, dylid penderfynu pwy fydd yn gyfrifol am wneud hynny;
  • unrhyw drefniadau o ran rheoli adroddiadau yn y dyfodol, os yn briodol.

Dylid gwneud cofnod sy’n cynnwys:

  • y rheswm dros ddod â’r ymholiadau a47 i ben a pham nad yw’r pryderon ynglŷn â niwed wedi eu cyfiawnhau;
  • Unrhyw gamau gweithredu sydd angen eu cymryd gan ystyried y wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiadau, er enghraifft, cyfeiriad at y gwasanaethau cymorth cynnar neu asesiad gofal a chymorth.

Y camau nesaf

Dylai’r gweithiwr cymdeithasol a arweiniodd ar yr ymholiadau a47 sicrhau bod y camau gweithredu canlynol wedi eu cwblhau:

  • rhoi gwybod i’r plentyn a’i deulu fod y pryderon heb eu cyfiawnhau;
  • mae’r gweithiwr cymdeithasol yn trafod canlyniad yr achos â’r plentyn, y rhieni ac ymarferwyr eraill a phennu a allai gwasanaethau cymorth cynnar fod o ddefnydd;
  • mae llythyr dim camau pellach yn cael ei anfon at y teulu. Dylai llythyron gael eu geirio mewn modd sensitif a hawdd eu deall gan gydnabod y gofid a’r pryder a achosodd y broses ymholi, ond yn tynnu sylw hefyd at ddyletswydd cyfreithiol yr asiantaethau statudol i gynnal yr ymholiadau;
  • rhoddir gwybod i’r sawl a adroddodd am yr achos yn wreiddiol, hyd y bo modd, am ganlyniad yr ymholiadau, a hynny gyda pharch at gyfrinachedd a diogelu data (clickable link to relevant part of section 3 part 1). Dylent hefyd gael eu hannog i wneud adroddiadau pellach os oes newid yn yr amgylchiadau a fyddai’n awgrymu bod y plentyn yn cael ei niweidio neu sy’n wynebu risg o niwed.

D.S. Mewn rhai amgylchiadau, er y gallai fod pryderon ynglŷn â niwed o hyd, does dim digon o dystiolaeth i brofi niwed difrifol. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid cynnig asesiad gofal a chymorth i’r teulu dan Ran 3 Adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fodd bynnag, os yw’r teulu’n gwrthod, mae angen i asiantaethau sy’n parhau i fod yn gysylltiedig â’r teulu gadw golwg a rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn y modd arferol.

Penderfyniad 2: mae pryderon wedi’u cyfiawnhau ond nid yw’r plentyn yn wynebu risg parhaus

Os oes pryderon sydd wedi’u cyfiawnhau bod y plentyn wedi dioddef niwed sylweddol, ond ei fod yn glir o’r ymholiadau nad oes risg parhaus o niwed, gallai aelodau’r cyfarfod/trafodaeth strategaeth gytuno nad oes angen cynhadledd amddiffyn plant. Gellir gwneud y penderfyniad hwn er gwaethaf ymchwiliad troseddol parhaus.

Rhaid i’r penderfyniad i beidio â chynnal cynhadledd amddiffyn plant mewn amgylchiadau o’r fath gael ei wneud yn ofalus ar sail tystiolaeth ac er lles y plentyn.

Dylid ystyried y canlynol:

  • y dystiolaeth sy’n awgrymu nad oes risg parhaus o niwed sylweddol;
  • barn sy’n cael ei rhannu gan yr asiantaethau sydd wedi bod ynghlwm wrth yr ymholiadau a47 nad oes risg o niwed sylweddol parhaus;
  • y gellir llunio cynllun ar gyfer sicrhau diogelwch a lles y plentyn yn y dyfodol a’i weithredu y tu allan i weithdrefnau diogelu. Er enghraifft, mae rhiant, gofalwr neu aelodau teulu ehangach y plentyn yn cytuno i gydweithio yn ôl y camau gweithredu i sicrhau diogelwch a llesiant y plentyn yn y dyfodol, ac felly nid yw’r plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid sicrhau bod proses ar waith i wirio unrhyw gynlluniau a chytundebau sy’n cael eu cadarnhau, ac i sicrhau bod y rhain yn cael eu dilyn mewn modd sy’n hyrwyddo diogelwch a llesiant y plentyn;
  • Mae barn y plentyn (gan ystyried oedran a lefel ddealltwriaeth a Chymhwysedd Gillick y plentyn) yn gymesur â barn yr ymarferwyr, ac nid yw’r plentyn wedi cael ei gorfodi i wneud y penderfyniad hwn.

Rhaid i’r penderfyniad a’r rheswm dros y penderfyniad gael eu cofnodi gan y gweithiwr cymdeithasol a arweiniodd yr ymholiadau a47, gan gynnwys enwau pawb sy’n gysylltiedig â’r broses penderfynu.

Rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol fod yn ofalus wrth wneud penderfyniad i beidio â chynnal cynhadledd amddiffyn plant, os ydynt yn gwybod bod plentyn wedi dioddef niwed a bod y niwed yn sylweddol. Dylai rheolwr y gwasanaethau cymdeithasol gefnogi’r penderfyniad hwn, neu ei wrthod os oes angen.

Gellid penderfynu peidio â symud ymlaen i gynhadledd, os yw, er enghraifft, yr amgylchiadau wedi newid, megis, perthynas sy’n gofalu am y plentyn:

Er enghraifft: Mae plentyn 6 oed wedi bod yn byw gydag unig riant sydd â salwch meddwl ac sy’n dioddef o episodau seicotig ar ôl peidio â chymryd ei feddyginiaeth. Mae’r rhiant wedi bod yn clywed lleisiau yn ddiweddar yn dweud wrtho nad ei blentyn genedigol yw’r plentyn ac o ganlyniad, mae wedi bod yn gwrthod y plentyn sy’n cael ei gam-drin yn emosiynol, sy’n gofidio ac yn ofnus oherwydd y profiad. Pennaeth ysgol y plentyn adroddodd am hyn, ar ôl i’r rhiant wrthod casglu’r plentyn o’r ysgol, gan ddweud nad ei blentyn ef ydoedd. Mae rhieni’r rhiant yn byw gerllaw ac wedi cymryd rhagor o gyfrifoldebau dros anghenion gofal a chymorth y plentyn. Mae’r rhiant a’r fam-gu a’r tad-cu wedi trefnu â’r ymarferwyr y bydd y plentyn yn byw gyda’r fam-gu a’r tad-cu a fydd yn goruchwylio unrhyw gysylltiad â’r rhiant tan i’w gyflwr iechyd wella. Mae’r rhiant bellach yn mynd i uned ddydd iechyd meddwl. Yn y sefyllfa hon, mae’r rhiant ac aelodau teulu ehangach y plentyn yn cytuno i asesiad gofal a chymorth.

Y Camau Nesaf

Mae Adran 21(1)Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014 yn rhoi dyletswydd ar y gwasanaethau cymdeithasol i asesu p’un a oes gan y plentyn yn ogystal â theulu’r plentyn, anghenion gofal a chymorth, ac os felly, beth yw’r anghenion hynny.

Wrth ystyried a yw’n briodol cynnal asesiad gofal a chymorth, dylai ymarferwyr ystyried a ellir diwallu angen a nodwyd drwy gyfeirio at wasanaethau atal a chymorth cynnar, er enghraifft, drwy gynnig gwybodaeth ar wasanaethau perthnasol sydd ar gael (Adran 1 Cymorth ac atal cynnar). Os nad oes modd diwallu yr anghenion yn y ffordd hon, mae’n gymwys i gael asesiad er mwyn ystyried unrhyw anghenion gofal a chymorth.

Penderfyniad 3: pryderon wedi’u cyfiawnhau, ac ystyrir bod y plentyn yn wynebu risg o niwed, gam-driniaeth neu esgeulustod a dylid galw cynhadledd amddiffyn plant.

Os caiff pryderon eu cyfiawnhau, ac mae’r plentyn yn wynebu risg parhaus o niwed sylweddol, rhaid i’r rheolwr llinell gefnogi’r penderfyniad i alw cynhadledd amddiffyn plant cychwynnol er mwyn penderfynu’r camau gweithredu sydd eu hangen i amddiffyn y plentyn rhag niwed.

Y Camau Nesaf

Dylai’r gwasanaethau cymdeithasol alw’r gynhadledd o fewn 15 diwrnod gwaith o’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth, neu’r drafodaeth/cyfarfod strategaeth diwethaf (os oes mwy nag un wedi’i gynnal), a ddechreuodd yr ymholiadau adran 47. Dylai ardaloedd y Byrddau Rhanbarthol nodi’r ymarfer derbyniol o ran canlyniadau cyfarfodydd/trafodaethau strategaeth Adran 47.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o sefyllfaoedd, yn dilyn cyfarfodydd/trafodaethau strategaeth a allai wneud cynhadledd amddiffyn plant yn angenrheidiol.

  • Mae ymholiadau a47 amddiffyn plant i ddigwyddiad neu amheuaeth o gam-drin a/neu esgeuluso plant yn dynodi bod y pryderon wedi’u cyfiawnhau a bod angen gweithredu ymhellach dan weithdrefnau amddiffyn plant er mwyn diogelu llesiant y plentyn;
  • Mae sefyllfaoedd lle mae amheuon o’r posibilrwydd o gam-drin a/neu esgeulustod wedi datblygu gydag amser, yn seiliedig ar amrywiaeth o bryderon, megis esgeulustod a cham-drin emosiynol, a phenderfynwyd bod y plentyn bellach yn wynebu risg parhaus o niwed.

(Adran 3 rhan 1 am ganllawiau pellach);

  • plentyn sydd dal yn y groth pan fydd hanes y teulu’n awgrymu y byddai’n debygol o ddod i niwed. (dylid rhoi ystyriaeth i p’un a ddylid cynnal cynhadledd amddiffyn plant cyn geni). Dylid rhoi’r un statws i gynhadledd o’r fath a dylai fynd rhagddi yn yr un modd, er mwyn llunio cynllun amddiffyn gofal a chymorth ar gyfer yr adeg pan gaiff y plentyn ei eni, neu ar gyfer y fam yn ystod beichiogrwydd; (Adran 2 blentyn heb ei eni);
  • canfyddir bod plentyn yn byw mewn aelwyd sy’n cynnwys, neu sy’n cael ei ymweld gan unigolyn sy’n peri risg i blant neu y tybir iddo fod wedi cam-drin plentyn. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n arddangos ymddygiadau rhywiol niweidiol tuag at blant neu bobl ifanc eraill;
  • mae plentyn yn symud i’r ardal ac mae wedi’i roi ar gofrestru mewn ardal arall.

DS: Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr

Os credir, cyn y gynhadledd amddiffyn plant, y gallai fod angen amddiffyn y plentyn ar unwaith, ni ddylid oedi wrth weithredu oherwydd bod cynhadledd amddiffyn plant ar y gweill. (Adran 3 rhan 1 gweithredu ar unwaith)

DS: Mae’n bwysig nodi nad yw trafodaeth/cyfarfod strategaeth yn cymryd lle cynhadledd amddiffyn plant.

Awgrymiadau Ymarfer: Asesu Niwed Sylweddol

Awgrymiadau Ymarfer: Heriau i Gyrraedd Cytundeb Ymarferwyr ynglŷn â Niwed Sylweddol