Rhannu Cymraeg English

Pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth gwblhau ymholiadau a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Adref 3 rhan 1

Dylid cydnabod y canlynol:

Ymholiadau sy’n canolbwyntio ar y unigolyn

Dylai’r holl ymholiadau ganolbwyntio ar yr unigolyn. Golyga hyn:

Er enghraifft, ‘down o hyd i ffordd o’ch cadw’n ddiogel a rhoi’r gofal y mae arnoch ei angen, ond ni allwn sicrhau na chaiff eich mab ei erlyn am esgeulustod bwriadol’.

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol i ystyried angen person am eiriolaeth ac i ddarparu cymorth priodol er mwyn galluogi pobl i gyfranogi. Gall hyn fod drwy eiriolaeth broffesiynol neu eiriolwyr anffurfiol megis aelodau’r teulu/gofalwyr.

(Cod Ymarfer Eiriolaeth: Rhan 10 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)

Dylid gweld a rhoi gwybod i’r unigolyn, ei gynrychiolwyr, ei deulu neu ofalwr yn ystod proses yr ymholiad am fanylion y pryderon a sut cânt eu rheoli. Mae’n hollbwysig bod unrhyw ymholiad neu ymchwiliad ffurfiol yn deg ac yn wrthrychol ac yn ymddangos felly i bawb sydd ynghlwm.

Awgrymiadau Ymarfer: Ymholiadau sy’n Canolbwyntio ar y Person

Awgrymiadau Ymarfer:Gweithio gyda’r Oedolyn sy’n wynebu risg yn ystod ymholiadau i gamdriniaeth ac esgeulustod

Awgrymiadau Ymarfer: Asesu Risg a Dull sy’n Canolbwyntio ar y Person (Adran 3 rhan 2)

Awgrymiadau Ymarfer: Gwybodaeth a Fynnir yn ystod y Sgrinio a'r Gwerthusiad Cychwynnol - yr Heriau

Galluedd Meddyliol

The Mae Deddf Galluoedd Meddyliol 2005 Adran 1 yn rhestru pum egwyddor statudol sy’n tanategu'r gofynion cyfreithiol yn y Ddeddf. Ymhlith y rhain mae:

  1. Mae'n rhaid tybio bod gan berson alluoedd oni bai y penderfynir bod ganddo ddiffyg galluedd.
  2. Ni ddylid trin person fel un na all wneud penderfyniad oni bai bod yr holl gamau ymarferol i’w helpu ef neu hi wedi'u cymryd heb lwyddiant.
  3. Ni ddylid trin person fel un na all wneud penderfynu oherwydd ei fod/ ei bod yn gwneud penderfyniad annoeth yn unig.
  4. Mae’n rhaid gweithredu cam, neu wneud penderfyniad, o dan y Ddeddf neu ar ran person sydd â diffyg galluedd, er ei (l)les ef neu hi.
  5. Cyn gweithredu'r cam, neu wneud y penderfyniad, mae'n rhaid ystyried a ellir cyflawni'r pwrpas y mae ei angen iddo yr un mor effeithiol mewn ffordd sy'n cyfyngu'n llai ar hawliau a rhyddid gweithredu'r person.

Dylai pob ystyriaeth a phenderfyniad diogelu gymryd i ystyriaeth ofynion cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Cod Ymarfer cysylltiedig.

Dylid canolbwyntio ar leihau’r cam-drin neu’r esgeuluso. Fodd bynnag, ni ddylai gyfyngu ar y camau gweithredu y bydd eu hangen o bosib i ddiogelu eraill sy’n wynebu risg o niwed.

Nid yw’r egwyddor o ragdybio galluedd yr unigolyn yn eithrio gweithwyr proffesiynol rhag cynnal asesiadau cadarn a gofyn cwestiynau heriol ac ymchwilgar ynglŷn â’r bobl sy’n gwneud dewisiadau anodd neu’n amlwg yn wael i’w llesiant.

Ystyriaethau galluedd meddyliol:

Awgrymiadau Ymarfer: Asesu Galluedd Meddyliol

Awgrymiadau Ymarfer: Hyrwyddo Cyfranogiad Ymhlith Oedolion sy’n Wynebu Risg a Heb Alluedd Meddyliol

Ymholiadau dan a126 Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac Ymchwiliadau’r Heddlu

Dan a.126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â’r rôl arweiniol wrth ymholi achosion o gam-drin neu esgeuluso i oedolyn sy’n wynebu risg, ond pan fo amheuaeth bod gweithgarwch troseddol, mae’n hanfodol bod yr heddlu’n ymyrryd yn gynnar er mwyn cadarnhau a fydd ymchwiliad troseddol yn addas.

Pan ystyrir ymchwiliad yr heddlu, dylai’r fforwm ar gyfer penderfynu pa gamau gweithredu i’w cymryd, gan bwy ac erbyn pryd fod ar ffurf cyfarfod/trafodaeth strategaeth. Gallai cyfarfod o’r fath gael ei gynnal drwy gyfryngau rhithwir os oes brys.

Mae ymchwiliad troseddol yr heddlu yn cael blaenoriaeth dros bob ymholiad arall, er y gallent redeg ar y cyd. (Gweler protocolau lleol o ran sut y mae’r ymchwiliadau hyn yn gweithredu ochr yn ochr â gwrandawiadau disgyblaethu mewnol.) Dylid cytuno ar ddull amlasiantaeth i sicrhau bod buddion a dymuniadau personol oedolyn sy’n wynebu risg yn cael eu hystyried ar bob adeg, hyd yn oed os nad ydynt yn dymuno rhoi unrhyw dystiolaeth na chefnogi erlyniad. Mae lles yr oedolyn sy’n wynebu risg ac eraill, gan gynnwys plant, yn hollbwysig ac yn gofyn am asesiadau risg parhaus.

Nodi Anghenion Gofal a Chymorth

Gellir cychwyn asesiad o anghenion gofal a chymorth oedolyn ar unrhyw adeg yn yr ymchwiliadau dan adran 19 neu 24 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 os nad ydyw wedi cychwyn yn gynharach yn y broses. Gall yr ymholiadau asesu risgiau yn ogystal ag anghenion gofal a chymorth ehangach yr unigolyn.

Mae Adran 54 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol baratoi a chynnal cynllun gofal a chymorth i berson dan adran 35 a 37. Mae hyn yn cynnwys anghenion y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn credu y mae’n rhaid eu diwallu i amddiffyn oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu sy'n wynebu risg o gael ei gam-drin neu esgeulustod. Rhaid cofnodi unrhyw gasgliadau a ddaw o ymholiadau pan amheuir bod oedolyn yn wynebu risg yn y cynllun gofal a chymorth. Pan fo oedolyn sy’n wynebu risg yn gwrthod cynllun gofal a chymorth, dylid cofnodi canfyddiadau’r ymchwiliadau yng nghofnod achos yr unigolyn. Dylai bod modd cael mynediad i’r cofnodion er mwyn gallu croesgyfeirio unrhyw hysbysiadau yn y dyfodol i’r ymchwiliad. Awgrymiadau ymarfer: Anghenion Gofal a Chymorth neu Anghenion Gofal a Chymorth ac Amddiffyn?

Amserlenni

Ni ddylai ymholiadau gael eu rhuthro, ond dylid gosod amserlenni. dylid gweithredu ar unwaith pan fo angen er mwyn diogelu oedolyn sy’n wynebu risg. Fel arfer dylai ymholiad gael ei gwblhau o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yrhysbysiad.

Os yw ymholiad yn cymryd mwy na saith niwrnod, dylid cofnodi’r rhesymau.

Gallai canlyniadau’r ymholiadau nodi bod angen diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg a dylid cynnal cyfarfod/trafodaeth strategaeth. Nid oes angen aros y 7 diwrnod cyfan fodd bynnag, tan fo’r ymholiadau’n gyflawn, os nodir yr angen am gyfarfod/trafodaeth strategaeth ynghynt.

Camau yn dilyn marwolaeth oedolyn sy’n wynebu risg yn ystod ymholiadau a126

Petai oedolyn sy’n wynebu risg yn marw yn ystod ymholiadau a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 dylid ystyried y canlynol:

Yn dilyn y farwolaeth, gall yr ymatebion i’r cwestiynau hyn ddangos bod angen mwy nag un ymchwiliad i’r amgylchiadau.

Dylid trefnu trafodaeth/cyfarfod strategaeth gyda’r sefydliadau perthnasol i gytuno ar ymchwiliad cydlynol. Rhaid i bob sefydliad gydweithio yn y broses gytunedig fel rhan o’r ddyletswydd sydd arno i gydweithio.

Bydd unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu yn cymryd blaenoriaeth yn enwedig os amheuir bod camdriniaeth neu esgeulustod yn ffactor cyfrannol (h.y. credir nad oedd y farwolaeth yn un naturiol).

Dylid wastad ystyried p'un a ddylid atgyfeirio i'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol am adolygiad arfer oedolyn.

Bydd yr oedolyn sy’n wynebu risg yn symud yn ystod ymholiadau a126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Pan fydd hyn yn digwydd dylai'r ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol blaen:

Bydd angen i'r adran gwasanaethau cymdeithasol lle mae’r oedolyn sy’n wynebu risg nawr gytuno i drosglwyddo’r achos a chamau gweithredu’r dyfodol.

Os yw oedolyn sy’n wynebu risg yn symud i gartref nyrsio y tu allan i’r awdurdod lleol ac mae’r awdurdod lleol yn cadw’r cyfrifoldeb ariannol, dylai gysylltu â’r awdurdod lletya.