Rhannu Cymraeg English

Trosolwg o’r adran

Adref 4

Mae’r adran hon yn cynnwys gweithdrefnau yn ymwneud â chynlluniau ar gyfer plentyn ar y gofrestr: cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth

Ceir manylion ynghylch:

  • nodau cynllun amddiffyn, gofal a chymorth
  • cynnwys cynllun
  • cynllunio sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Mae rôl y gweithiwr cymdeithasol yn allweddol (cydlynydd cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth). Mae cyfrifoldebau’r gweithiwr cymdeithasol (cydlynydd cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth) wedi’u hesbonio.

Darperir y cynllun amddiffyn gofal a chymorth gan y grŵp craidd.

Er mwyn i grwpiau craidd fod yn effeithiol o ran amddiffyn plentyn o niwed sylweddol mae angen i ymarferwyr wybod eu rolau a’u cyfrifoldebau fel aelodau’r grŵp craidd o ran: o aelodaeth y grŵp craidd :

  • cyfarfod cyntaf y grŵp craidd
  • datblygu’r cynllun amddiffyn, gofal a chymorth
  • cyfarfodydd dilynol y grŵp craidd
  • tasgau’r grŵp craidd mewn cyfarfodydd dilynol y grŵp craidd
  • presenoldeb
  • cadeirio a chymryd rhan
  • cofnodi cyfarfodydd y grŵp craidd.

Mae cynllun amddiffyn gofal a chymorth yn dibynnu ar deulu’n ymgysylltu’n weithredol â’r grŵp craidd a chymryd rhan yn y gwaith o weithredu’r cynllun.

Mae angen i ymarferwyr wybod am gynnwys rhieni/gofalwyr yn y cynllun gan gynnwys:

  • sicrhau bod rhieni yn cymryd rhan
  • gwahardd rhiant/gofalwr o’r grŵp craidd
  • diffyg cymryd rhan yn y cynllun gan y teulu.

Mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn ymgysylltu â phob plentyn yn y teulu sydd ar y gofrestr i gael gwybod a yw’r cynllun yn gwella ansawdd ei fywyd a’i amddiffyn rhag niwed. Mae cyfranogiad y plentyn a gweld y plentyn yn hollbwysig. Mae hyn yn cynnwys:

  • ymgysylltu â phlentyn ar gynllun amddiffyn gofal a chymorth
  • presenoldeb plentyn mewn grwpiau craidd
  • gwybod beth i’w wneud os yw mynediad at blentyn yn cael ei wrthod.

Mae’r gynhadledd adolygu â’r dasg o benderfynu a yw plentyn ar y gofrestr yn parhau i wynebu risg o niwed sylweddol. Mae’r gweithdrefnau sy’n perthyn i’r gynhadledd hon yn cynnwys:

  • y diben
  • amseru
  • cadeirydd y gynadledd
  • presenoldeb
  • cyfranogiad aelodau grŵp craidd mewn cynadleddau adolygu
  • gwneud penderfyniadau mewn cynadleddau adolygu
  • canlyniadau
  • cofnod o’r gynhadledd adolygu
  • newid dyddiad y gynhadledd adolygu fel y bydd yn gynt

Yr enw ar y broses o ddileu enw plentyn o’r gofrestr amddiffyn plant yw dad-gofrestru. Mae’r rolau a’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â dad-gofrestru’n cynnwys dod o hyd i’r angen am ofal a chymorth parhaol yn dilyn dileu enw plentyn o’r gofrestr amddiffyn plant.

Hefyd mae gan ymarferwyr gyfrifoldebau mewn perthynas â phlant ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae’r adran olaf yn disgrifio’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â rheoli’r gofrestr amddiffyn plant.

Mae hyn yn cynnwys:

  • diben y gofrestr
  • ceidwad y gofrestr Amddiffyn Plant
  • ymholiadau ynghylch y gofrestr amddiffyn plant
  • gwneud ymholiad i gofrestru.